Deall cyfraddau llog: Canllaw syml iawn
Diweddarwyd ddiwethaf: 28/11/2022
Cyn gynted ag y byddwch chi'n dechrau edrych ar gynilion a morgeisi, byddwch chi’n gweld cyfraddau llog. Ond sut mae cyfraddau llog yn effeithio arnoch chi, eich cynilion a'ch benthyciadau mewn gwirionedd?
Rydym wedi llunio'r canllaw syml iawn hwn, sy’n esbonio beth yw cyfraddau llog, pam mae mwy nag un math, ac – yn bwysicaf oll – sut maen nhw'n effeithio arnoch chi.
Os oes angen ychydig o help arnoch chi i ddeall jargon ariannol arall, edrychwch ar ein canllaw defnyddiol.
Mae cyfradd llog yn dweud wrthych naill ai: pa mor uchel yw cost benthyca, neu pa mor uchel yw'r wobr am gynilo.
Os byddwch chi’n benthyg arian - i gael morgais, prynu car newydd, neu i adnewyddu eich cartref - y gyfradd llog yw'r swm o arian sy'n cael ei godi arnoch chi er mwyn cael benthyciad gan y banc neu'r gymdeithas adeiladu. Dangosir hyn fel canran o gyfanswm y benthyciad. Po uchaf y canran, po fwyaf y bydd yn rhaid i chi dalu'n ôl.
Dyma rai enghreifftiau o'r cyfraddau llog ar forgais:
Swm a fenthyciwyd | Hyd y benthyciad (blynyddoedd) | Ad-daliad misol gyda llog o 1.5% | Ad-daliad misol gyda llog o 2.5% | Ad-daliad misol gyda llog o 3.5% |
---|---|---|---|---|
£130,000 | 25 | £520 | £583 | £651 |
Fel y gwelwch chi yn y tabl uchod , gall fod gwahaniaeth mawr rhwng talu eich benthyciadau yn ôl gyda llog o 1.5% a'i dalu yn ôl gyda llog o 3.5%.
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifwr Morgais i fewnbynnu eich manylion, a chael amcangyfrif o ba gyfradd llog y byddech yn ei thalu ar forgais.
Hefyd, darllenwch ein canllaw i ddechreuwr ar gyfraddau morgeisi i wybod mwy am y gwahanol fathau o gyfraddau morgeisi sydd ar gael.
Os ydych chi'n ceisio cynilo arian, efallai ar gyfer blaendal ar eich cartref cyntaf, mae'r gyfradd gynilo yn dweud wrthych faint o arian fydd yn cael ei dalu i'ch cyfrif.
Rhoddir y gyfradd gynilo fel canran o'ch cynilion. Po uchaf yw'r gyfradd gynilo, po fwyaf fydd yn cael ei dalu i'ch cyfrif. Gellir galw hyn yn elw ar fuddsoddiad.
Enghraifft arall: rydych chi'n rhoi £1,000 mewn cyfrif cynilo sy'n ennill llog o 2% bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n ennill £20 mewn llog, gan roi £1,020 i chi ar ôl blwyddyn.
Yr hafaliad a ddefnyddir i gyfrifo’r llog uchod yw:
£1,000 (eich cynilion) x 2% (cyfradd llog) = £20 (llog a enillwyd)
£1,000 (eich cynilion) + £20 (llog a enillwyd) = £1,020 yn eich cyfrif cynilo ar ôl blwyddyn
Gallwch chi gyfrifo faint y byddech yn ei gynilo yn un o'n cyfrifon cynilo drwy ddefnyddio ein cyfrifwr cynilo.
Y 'Gyfradd Banc' yw'r gyfradd llog allweddol yn y DU. Mae'n cael ei osod gan Fanc Lloegr ac mae'n dylanwadu ar lawer o gyfraddau llog eraill yn yr economi. Yn gyffredinol pan welwch chi erthyglau newyddion am gyfraddau llog, maen nhw'n cyfeirio at newidiadau yn y Gyfradd Banc – a elwir yn aml yn gyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Fel yr ydym wedi dweud, mae’r Gyfradd Banc yn dylanwadu ar gyfraddau llog eraill, gan gynnwys cyfraddau cynilion a morgeisi.
Ond mae ffactorau eraill y mae benthycwyr yn eu hystyried wrth osod eu cyfraddau llog.
Mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn ceisio cydbwyso'r cyfraddau maen nhw'n eu darparu i gynilwyr â’r cyfraddau y maent yn eu codi ar fenthycwyr.
Mae cystadleuaeth hefyd yn chwarae rôl, ac mae'n rhaid iddynt dalu eu costau hefyd.
Na, dim o reidrwydd! Er enghraifft, pe baech chi’n cymryd morgais cyfradd sefydlog, bydd eich cyfradd llog yn aros ar yr un swm am y cyfnod o amser rydych chi'n ei osod gyda'ch benthycwr, fel arfer rhwng dwy a phum mlynedd. Yn yr un modd, mae cyfrifon cynilo cyfradd sefydlog yn gwarantu y bydd y llog a gewch ar eich cynilion yn aros yr un fath am gyfnod penodol o amser.
Ond pa bynnag gyfrif cynilo neu fenthyciad sydd gennych, mae'n bwysig eich bod yn gwybod y diweddaraf am yr hyn y mae’r newidiadau mewn cyfraddau llog yn ei olygu i chi'n bersonol.