Cyfraddau llog, dirwasgiad a mwy… egluro jargon ariannol cyffredin

Diweddarwyd ddiwethaf: 02/11/2022

Gall fod yn frawychus pan fydd penawdau newyddion yn effeithio arnoch chi a'ch arian yn sydyn. 

A phan fyddwch yn ceisio mynd i'r afael â beth sy'n digwydd, a beth y dylech ei wneud, rydych yn wynebu llwyth o jargon.

Isod rydym wedi diffinio rhai o’r termau ariannol mwyaf cyffredin y byddwch yn dod ar eu traws wrth i chi ddarllen y newyddion diweddaraf neu ystyried prynu tŷ. 

Cyfraddau llog

Gall hyn fod yn ddryslyd, oherwydd pan fydd pobl yn sôn am ‘gyfraddau llog’, nid ydynt bob amser yn cyfeirio at yr un peth gan fod mathau gwahanol o gyfraddau llog.  

Yn amlach na pheidio, defnyddir ‘y gyfradd llog’ fel am y ‘gyfradd banc’, sy’n dylanwadu ar fathau eraill o gyfraddau llog a welwch ar forgeisi neu gyfrifon cynilo. Cyfeirir at hyn weithiau fel ‘cyfradd sylfaenol Banc Lloegr’ hefyd.

Fodd bynnag, mae’r term ‘cyfradd llog’ hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn llawer o gyd-destunau gwahanol. O ran cyfrifon cynilo, byddai’r ‘gyfradd llog’ yn cyfeirio at y ganran o’ch cynilion a gaiff eu hychwanegu at eich cyfrif. Wrth gyfeirio at ‘gyfraddau llog’ morgais, mae’n golygu’r swm o arian a godir arnoch pan fyddwch yn prynu eiddo.

I ddysgu mwy, gweler ein canllaw i ddechreuwyr ar gyfraddau morgais neu ein tudalen deall y jargon.

Banc Lloegr

byddwch yn aml yn clywed am Fanc Lloegr gan fod ganddo rôl fawr wrth reoli economi a sector cyllid y DU. Mae Banc Lloegr yn annibynnol ar y Llywodraeth ac, yn ei eiriau ei hun, “yn gweithio i sicrhau chwyddiant isel, ymddiriedaeth mewn arian papur a system ariannol sefydlog”. Rhan fawr o hyn yw pennu cyfradd y banc, sef y gyfradd llog allweddol yn y DU sy’n dylanwadu ar lawer o gyfraddau llog eraill. 

I ddysgu mwy, gweler Canllaw Banc Lloegr i’r hyn y mae’n ei wneud.

Chwyddiant

Mae chwyddiant yn ymwneud â chynnydd mewn prisiau. Byddwch yn aml yn clywed am ‘cyfradd chwyddiant’, sef pa mor gyflym y mae prisiau’n codi. Felly, mae'n rhywbeth rydych yn ei wynebu drwy'r amser, fel pan fyddwch yn mynd i'r archfarchnad ac yn gweld bod twb o fenyn yn sydyn yn ddrutach. Yn gyffredinol, mae chwyddiant uwch yn golygu cynnydd mewn costau byw; yn ‘wasgfa’ ar gyllid, fel y'i gelwir. 

Am y rhan fwyaf o’r 20 mlynedd diwethaf, mae chwyddiant wedi bod tua 2%, sef y gyfradd darged y mae Banc Lloegr yn anelu ati. Ar hyn o bryd, mae’n 10.1%. 

Mae’r canllaw hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth drylwyr am ddeall chwyddiant

Cyfraddau morgais

Cyfraddau llog morgais, neu ‘gyfraddau morgais’, yw’r gyfradd llog a godir ar eich morgais. Po uchaf yw'r gyfradd, yr uchaf fydd eich ad-daliadau misol.

Y prif fathau o gyfraddau morgais yw ‘sefydlog’ ac ‘amrywiol’. Mae ‘morgais sefydlog’ yn golygu bod y llog a godir arnoch yn aros yr un fath am gyfnod penodol o amser, fel arfer rhwng dwy flynedd a pum mlynedd.  Mae morgais ‘amrywiol’ yn golygu y gall y gyfradd llog a godir arnoch newid. Gallai’r gyfradd llog honno newid o ganlyniad i newidiadau i gyfradd sylfaenol Banc Lloegr neu mewn ymateb i newidiadau i gyfraddau cystadleuwyr. Gall hyn wneud eich morgais yn llawer drutach pan fydd eu cyfraddau’n uchel.

Gweler ein canllaw i ddechreuwyr ar gyfraddau morgais.

Yr economi

Mae ein heconomi yn cynnwys yr holl bobl a busnesau yn y DU sy’n gwneud ac yn masnachu pethau. Mae busnesau'n cyflogi pobl, yn gwneud pethau, ac yn darparu gwasanaethau; mae pobl yn prynu ac yn defnyddio'r cynhyrchion a'r gwasanaethau hynny; ac yn y cyfamser, mae'r llywodraeth yn casglu trethi ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r gweithgareddau hyn i gyd yn ffurfio'r economi. Defnyddir economeg i ddisgrifio sut mae hyn yn digwydd. 

Dirwasgiad

Mae dirwasgiad yn digwydd pan fydd yr economi yn dirywio am ddau chwarter yn olynol (chwe mis). Mae gwerth yr holl nwyddau a gwasanaethau y mae gwlad yn eu cynhyrchu (y cynnyrch domestig gros) yn gostwng. 

Y Gyllideb a’r mini-gyllideb

Bob blwyddyn mae Canghellor y Trysorlys - sef gweinidog y llywodraeth sy'n gyfrifol am gyllid - yn gwneud araith am gyflwr economi'r DU a chynigion y Llywodraeth ar gyfer newidiadau i drethiant. Weithiau, os bydd argyfwng ariannol neu newid i’r llywodraeth neu arweinyddiaeth, efallai y bydd cyllideb ychwanegol yn cael ei chynnal, a elwir yn ‘gyllideb frys’, neu ‘mini-gyllideb’, fel y gwelsom ym mis Medi 2022.

Y ‘marchnadoedd’

Mae’r marchnadoedd ariannol, neu’r ‘farchnadoedd’, yn derm eang ar gyfer y marchnadoedd lle caiff cyfranddaliadau, bondiau, arian cyfred ac ‘asedau’ ariannol eraill eu prynu a’u gwerthu. Gall penderfyniadau gwleidyddol neu gyllidebol mawr effeithio ar y ‘marchnadoedd’, a gall y newid mewn prisiau yn y marchnadoedd eich cyrraedd chi, gan effeithio ar bethau fel cynilion pensiwn neu gyfraddau morgais.

Bondiau'r Llywodraeth

Benthyciad yw bond. Mae'r llywodraeth yn benthyca arian drwy werthu bondiau i gronfeydd pensiwn a chwmnïau yswiriant. Gan mai benthyciad ydyw, mae'n rhaid i'r llywodraeth dalu'r arian hwn yn ôl yn y pen draw, gyda llog. 

Polisi cyllidol

Mae polisi cyllidol yn cyfeirio at y penderfyniadau economaidd y mae’r llywodraeth yn eu gwneud. Yn ogystal â gwario arian ar systemau fel addysg, gofal iechyd ac amddiffyn, maent hefyd yn casglu arian drwy drethi ac yn benthyca arian o farchnadoedd ariannol. Mae cangellorion yn defnyddio'r term hwn yn aml, yn enwedig yn ystod y gyllideb.

Polisi ariannol

Mae polisi ariannol a pholisi cyllidol yn gweithio gyda’i gilydd o ran rheoli'r economi a chyllid cyhoeddus. Polisi ariannol yw gweithredu i ddylanwadu ar faint o arian sydd yn yr economi a faint mae'n ei gostio i fenthyca. Yn y DU, Banc Lloegr sy’n gosod polisi ariannol, yn bennaf drwy reoli cyfradd y banc.

Y farchnad dai

Mae’r farchnad dai yn cyfeirio at chwilio am gartrefi, eu prynu a’u gwerthu – fflatiau, tai ac anheddau eraill. Mae rhai prynwyr yn chwilio am gartref; mae eraill yn awyddus i wneud arian o fuddsoddi mewn eiddo. 

Cyflenwad a galw

Mae cyflenwad a galw yn ganolog i economeg. Ym marchnad dai’r DU, nid oes digon o gartrefi ar gael i’w prynu (y cyflenwad) ar gyfer nifer y prynwyr (galw). Mae hyn wrth wraidd y cynnydd ym mhrisiau tai yn y DU dros flynyddoedd lawer. 

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am gynilo arian:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig