Yswiriant Cartref - a ddarperir gan LV=

Rydym wedi ymuno â LV= i gyflwyno yswiriant cartref wedi'i deilwra ar sail y sicrwydd yswiriant sydd ei angen arnoch i gael tawelwch meddwl llwyr.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan LV=

Mae LV= yn rhannu ein hymrwymiad i'ch rhoi chi a'ch cartref yn gyntaf. Gyda dros 7 miliwn o gwsmeriaid ar draws y DU, maen nhw'n gwybod yn union beth sydd ei angen i'ch helpu chi gael trefn ar bethau’n fuan iawn pe bai angen i chi wneud hawliad rywbryd.


Pencil

Cewch ddyfynbris ar ôl pum cwestiwn yn unig drwy wefan SmartQuote LV=


Pencil

Go from curious to quote in just five questions via the LV= SmartQuote website


Three white stars icon

Rydym wedi ymrwymo i wasanaeth cwsmeriaid rhagorol - os ydych chi'n hoffi sut yr ydym ni'n gwneud pethau, byddwch chi'n hoffi LV= hefyd


Three white stars icon

Committed to excellent customer service - if you like how we do things, you'll love LV= too


White speech bubble icon

Mae canolfannau ffonio yn agored 24/7 – i chi gael y cymorth sydd ei angen, pan fydd ei angen


White speech bubble icon

Call centres open 24/7 - for the support you need, when you need it


Stack of coins

Rhannwch y gost drwy daliadau misol di-log


Stack of coins

Spread the cost with interest-free monthly payments

Cael dyfynbris heddiw:

Dyfynbris SmartQuote LV

Ffoniwch arbenigwr yswiriant cartref ar 0330 433 9805

Trefnwch apwyntiad yn eich cangen agosaf

Yn wahanol i lawer o yswirwyr, ni fyddwn yn gofyn am lawer o fanylion am eich cartref na'r mathau o gloeon sydd ar eich drysau. Cewch ddyfynbris SmartQuote LV= ar-lein, drwy ffonio un o'n harbenigwyr yswiriant cartref ar 0330 433 9805 neu drwy fynd i'ch cangen leol.

Trosolwg o’r cynnyrch

Dewiswch o'r opsiynau Arian ac Aur i ddiogelu'r hyn sydd bwysicaf i chi:

Sicrwydd yswiriant Arian

Mae ein sicrwydd yswiriant Arian sydd â sgôr Defaqto 3 Seren yn yswirio eich eiddo rhag digwyddiadau fel tân, llifogydd, tywydd eithafol, ymsuddiant, dŵr yn dianc a lladrad. Gallwch ddewis yswirio eich eiddo, eich cynnwys neu'r ddau.


Defaqto expert rated 3 star rating home insurance 2022

Sicrwydd yswiriant Aur

Dyma’r lefel fwyaf cynhwysfawr o ddiogelwch yr ydym ni'n ei gynnig. Mae ein sicrwydd yswiriant Aur sydd â sgôr Defaqto 5 Seren yn cynnwys amrywiaeth o bethau ychwanegol fel mater o drefn - o yswiriant llawn rhag difrod damweiniol i yswirio eich cynnwys oddi cartref.


Defaqto expert rated 5 star rating home insurance 2022

Gwneud hawliad

Os oes angen i chi wneud hawliad, ffoniwch LV=, sy'n darparu'r polisïau Arian ac Aur, ar 0330 678 5004

Mae tîm hawliadau LV= wedi'i leoli yn y DU a bydd yn eich cefnogi drwy broses eich hawliad o'r dechrau i'r diwedd. Byddant yno i ateb eich cwestiynau ac i roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i helpu i wneud eich hawliad mor syml a didrafferth â phosibl.

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac 8am a 4pm ar ddydd Sadwrn. Ar gyfer argyfyngau mae llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Os nad yw'n fater brys y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud hawliad yw mewngofnodi neu gofrestru eich cyfrif. I gael rhagor o wybodaeth am hyn cliciwch yma.

Cwsmeriaid presennol

Cwsmeriaid presennol yswiriant cartref LV=

Os ydych chi'n gwsmer presennol Principality ac eisoes wedi prynu polisi Arian neu Aur gan LV=, gallwch gael gafael ar eich holl ddogfennau pwysig drwy borth 'Fy Nghyfrif'.

Hawliadau 0330 678 5004
Hawliadau amseroedd agor Llun - Gwen 8am - 8pm. Sadwrn 8am - 4pm.
Hawliadau brys amseroedd agor 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos
Gwasanaeth 0330 678 5180
Gwasanaeth amseroedd agor Llun - Iau 8am - 8pm. Gwener 8am - 6pm. Sadwrn 9am - 5pm. Ar gau ar ddydd Sul a Gwyliau Banc.
Argyfwng yn y Cartref 0330 678 5246
Argyfwng yn y Cartref amseroedd agor 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos
Treuliau cyfreithiol 0330 678 5245
Treuliau cyfreithiol amseroedd agor 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos