
End of your deal? See how we can help
A yw eich cytundeb morgais yn dod i ben?
A yw eich cytundeb morgais presennol gyda ni yn dod i ben? Efallai y gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i gyfradd ac ad-daliad misol sy’n addas i chi. Gallwch wneud hyn trwy newid eich cytundeb morgais. Mae dwy ffordd o wneud hyn; gyda chyngor neu heb gyngor.
Gyda chyngor
Os nad ydych chi’n siŵr pa gytundeb morgais fyddai’n briodol i chi, gallwch siarad ag un o’n hymgynghorwyr morgeisi a fydd yn gwneud argymhelliad ar sail eich anghenion presennol.
- Gallwch ofyn am apwyntiad dros y ffôn
- neu ymweld ag un o’n canghennau.
Dylech fod yn ymwybodol y bydd apwyntiad yn cymryd oddeutu awr, a byddwn yn edrych ar eich incwm a’ch alldaliadau.
Heb gyngor
Os ydych chi’n gwybod pa gytundeb morgais yr ydych chi ei eisiau ac nad oes angen cyngor arnoch i newid, gallwch roi gwybod i ni gan ddefnyddio un o’r tri dewis isod.
Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod yn fodlon eich bod yn deall y cytundeb morgais sydd ei heisiau arnoch cyn bwrw ymlaen heb gyngor.
- Newidiwch eich cytundeb morgais ar-lein
- Ffoniwch ni ar 0330 333 4030 , a dywedwch wrth ein hymgynghorwyr nad ydych chi eisiau cyngor.
- Dewch i mewn i gangen.. Byddai’n braf eich gweld, felly galwch heibio a gallwn ni newid eich cytundeb.
Cofiwch
Os nad ydych eisiau cyngor, mae rhai pethau y mae angen eu hystyried:
- Ni fyddwn yn edrych ar eich anghenion a’r amgylchiadau i sicrhau bod y morgais yn briodol i chi.
- Mae’n bosibl y bydd angen i ni edrych yn fanwl ar eich cyllid i sicrhau bod y morgais yn fforddiadwy, yn enwedig os ydych chi wedi dweud wrthym am newidiadau eraill yr ydych chi eisiau eu gwneud i’ch morgais.
Pam y Principality?
- 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
- Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
- Dros 160 mlynedd o brofiad
- Gofalu am werth dros £10 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
- Members can access a Member Rewards page featuring competitions, discounts and more.
GELLIR ADFEDDIANNU EICH CARTREF OS NA FYDDWCH YN TALU'R AD-DALIADAU AR EICH MORGAIS