Faint mae’n ei gostio i werthu tŷ?

Diweddarwyd ddiwethaf: 18/11/2021 | Amser darllen: 4 munud

Rydych chi wedi penderfynu symud cartref. Gall fod yn demtasiwn mynd yn syth i’r gwefannau eiddo ar-lein a dechrau chwilio am eich tŷ newydd delfrydol.

Ond, yn gyntaf, os ydych yn mynd i symud, bydd angen i chi dreulio peth amser yn cyfrifo eich cyllideb. Ac wrth wneud hynny, mae’n rhaid i chi beidio ag anghofio ystyried y costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â gwerthu eich tŷ. Mae llawer o wahanol ffioedd, a gallant gronni’n gyflym. 

Dyma’r costau pwysicaf i’w hystyried.

Ffioedd yr asiant eiddo

Yng Nghymru a Lloegr, mae asiantau eiddo yn arfer cyfrifo eu ffi fel canran o bris gwerthu terfynol eich cartref. Mae’r ganran hon fel arfer yn amrywio rhwng 0.75% a 3% o bris yr eiddo, ynghyd â TAW. 

Nid yw’n gweithio fel hyn bob amser. Mae asiantau eiddo ar-lein yn arfer yn codi ffioedd sefydlog, sy’n rhatach. 

Y naill ffordd neu’r llall, peidiwch â bod yn swil ynglŷn â cheisio negodi ffi is – mae’n bosibl y bydd eich asiant eiddo yn barod i fod yn hyblyg.  

Awgrym Da:
Mae’n werth chwilio er mwyn dod o hyd i’r asiant sy’n cynnig y gwerth gorau, ond ni ddylech ddewis asiant yn seiliedig ar ei ffi yn unig. Gallwch ddefnyddio offer ar-lein, fel hwn i gymharu asiantau yn seiliedig ar eu perfformiad yn y gorffennol. Hefyd, mae sawl cwestiwn pwysig i’w gofyn i asiantau cyn i chi ddewis un.  

Ffioedd cyfreithwyr

Mae cyfreithwyr yn chwarae rhan fawr yn y farchnad dai, mewn proses o’r enw trawsgludo. Yn gryno, eu gwaith yw darparu’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi iddynt am yr eiddo i gyfreithiwr y prynwr. Byddant hefyd yn eich cefnogi i gael gafael ar unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen. 

Bydd cyfreithiwr hefyd yn codi ffi sefydlog arnoch neu ganran o werth yr eiddo. Gall costau amrywio’n fawr, gan ddibynnu ar ba mor gymhleth yw’r trafodiad, a gallant amrywio o tua £400 i £1,500. Mae costau ychwanegol hefyd a fydd yn cael eu hychwanegu at hyn, gan gynnwys copi o’r gweithredoedd eiddo, gwiriadau gwyngalchu arian a ffi trosglwyddo y banc, ond dylai hyn i gyd fod i lai na £100.

Unwaith eto, mae’n werth chwilio am y cwmni mwyaf addas. Dywed Linda Gale, cynghorydd morgeisi a hyfforddwr yn Cymdeithas Adeiladu Principality: “Dylech chi gael dyfynbrisiau oddi wrth sawl cyfreithiwr, a byddwch yn ymwybodol o sut maen nhw’n cyflwyno eu ffioedd, oherwydd eu bod nhw’n gallu eu darparu nhw mewn gwahanol fformatau yn aml, sy’n gallu bod yn eithaf dryslyd.” Peidiwch ag oedi cyn ffonio’r cyfreithiwr a siarad gydag ef am y ffioedd os nad ydych yn siŵr, awgryma Linda.  

Mae Linda yn cynnig awgrym pwysig arall: “Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i gyfreithiwr, gwiriwch a yw ar restr o gyfreithwyr cymeradwy eich benthyciwr morgais. Fel arall, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu gweithio gydag ef a gallai hynny ohirio eich proses o symud.” Fel arall, os ydych eisoes yn gwybod pwy yw eich darparwr morgais, yna gallech ofyn iddo am restr o gyfreithwyr cymeradwy yn yr ardal leol er mwyn eich helpu i leihau eich chwiliad.

Ffioedd morgais

Gan dybio eich bod yn prynu cartref newydd yn ogystal â gwerthu, yna bydd angen i chi ystyried ffioedd morgais hefyd. 

Ceir amrywiaeth o ffioedd y mae’n bosibl y bydd angen i chi eu talu, gan gynnwys ffioedd prisio, ffioedd trefnu a mwy. 

Dywed Linda: “Mae’n syniad da ystyried yr holl gostau. Yn aml, gallwch chi ddod o hyd i gynhyrchion morgais sydd â chyfradd llog isel iawn ond sy’n codi ffioedd uchel iawn.”

Gall y farchnad forgeisi fod yn gymhleth, felly gall brocer morgais neu fenthyciwr eich helpu i ddeall y ffioedd y bydd angen i chi eu talu a pha gynhyrchion morgais sy’n addas i chi, gyda lefel o ad-daliadau morgais y gallwch eu fforddio.

Mae’n bosibl y byddwch yn canfod eich bod yn gallu trosglwyddo eich morgais presennol i’ch eiddo newydd, felly mae’n werth gwirio hynny gyda’ch benthyciwr. 

Tystysgrif Perfformiad Ynni

Os ydych yn gwerthu eich cartref, bydd angen Tystysgrif Perfformiad Ynni arnoch.

Mae hyn yn dweud wrth ddarpar brynwyr pa mor effeithlon o ran ynni yw eich cartref, yn seiliedig ar ddosbarthiad rhwng A (effeithlon iawn) a G (aneffeithlon). Mae angen i Dystysgrif Perfformiad Ynni eich eiddo fod ar gael i ddarpar brynwyr cyn gynted ag y byddwch yn rhoi eich cartref ar y farchnad. 

Mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni yn ddilys am 10 mlynedd, felly os ydych wedi byw yn eich cartref am lai na degawd, gallwch ddefnyddio’r Dystysgrif Perfformiad Ynni presennol yn hytrach na thalu am un newydd.

Gwefannau Defnyddiol:
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, mae gwefan y llywodraeth yn rhestru sefydliadau sydd wedi eu cymeradwyo i gynhyrchu Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer eich cartref. Mae’r costau’n amrywio, rhwng £60 a £120, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am y cwmni mwyaf addas.

Yn yr Alban, bydd angen i chi edrych ar Gofrestr Tystysgrif Perfformiad Ynni yr Alban er mwyn dod o hyd i restr o sefydliadau sydd wedi eu cymeradwyo i ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni.

Ffioedd symud

Ffioedd symud yw un o’r costau mwyaf i’w talu wrth werthu cartref.

Yn ôl Compare My Move, yn 2021, oddeutu £1,181 yw costau cyfartalog cwmni symud yn y DU ar gyfer tŷ â 3 ystafell wely, gan deithio 50 milltir. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau pacio proffesiynol a deunyddiau (£250), yn ogystal â datgymalu ac ailosod dodrefn yn eich cartref newydd (£125).

“Dylech gael ychydig o ddyfynbrisiau a gwneud yn siŵr eich bod yn gyfforddus â’r cwmni”, meddai Linda. Gall fod yn ddefnyddiol gofyn i ffrindiau a theulu a oes ganddynt gwmni symud y byddent yn ei argymell.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am werthu eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig