
Morgeisi Benthycwyr ar y Cyd ar gyfer Un Perchennog
Morgeisi Benthycwyr ar y Cyd ar gyfer Un Perchennog
Yn rhoi help llaw ichi pan fo angen
Morgeisi Benthycwyr ar y Cyd ar gyfer Un Perchennog
Gyda chymorth gan eich rhieni neu eich neiniau a theidiau, gallech gamu ar yr ysgol eiddo neu brynu eich tŷ nesaf yn gynt nag yr ydych yn ei feddwl. Mae hynny am fod ein morgeisi Benthycwyr ar y Cyd ar gyfer Un Perchennog yn caniatáu ichi wneud cais am forgais gyda'ch gilydd. Drwy gyfuno incwm hyd at bedwar o bobl, gallech wneud y mwyaf o'ch benthyciad morgais heb i'ch rhieni neu eich neiniau a theidiau fod yn gydberchnogion ar yr eiddo.
I sicrhau eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir ynghylch eich camau nesaf, mae’n rhaid ichi dalu am gyngor cyfreithiol annibynnol cyn cwblhau’r math hwn o forgais.
Y mathau o forgeisi a gynigiwn
Morgeisi Cyfradd Sefydlog - gyda morgais cyfradd sefydlog, mae eich cyfradd llog yn aros yr un fath am gyfnod penodol y benthyciad, beth bynnag sy'n digwydd i gyfraddau llog yn gyffredinol. Ar ddiwedd y cyfnod penodol, bydd eich cyfradd llog yn mynd ymlaen i'n Cyfradd Amrywiol Safonol (SVR).
Cysylltwch â ni, neu ewch i’ch cangen leol i gael rhagor o fanylion.
Cyfradd gychwynnol | Tan | Then our standard variable rate, less a discount of 0.75% | Until | Yna'r gyfradd amrywiol safonol | Y gost gyfan er mwyn cymharu | Ffi cynnyrch | Cashback | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
MORGAIS CYFRADD SEFYDLOG 90% | 3.18% | 30/09/2024 | 3.90% | 30/09/2027 | 4.65% | 4.3% APRC | £0 | There is no cashback facility with this product. | More details |
MORGAIS CYFRADD SEFYDLOG 90% | 3.20% | 30/09/2027 | N/A | N/A | 4.65% | 4.2% APRC | £0 | There is no cashback facility with this product. | More details |
GELLIR ADFEDDIANNU EICH CARTREF OS NA FYDDWCH YN TALU'R AD-DALIADAU AR EICH MORGAIS
Pam y Principality?
- 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
- Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
- Dros 160 mlynedd o brofiad
- Gofalu am werth dros £10 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
- Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.