Eich Cyfrif
Gallwch reoli eich holl gyfrifon Principality ar-lein. Gallwch fynd at eich holl wasanaethau cyfrifon yn rhwydd, o adref neu pan fyddwch yma ac acw.
gweld eich cyfrifon cynilo a morgais, gan gynnwys eich balans ar hyn o bryd, cyfraddau llog a thrafodion diweddar
tynnu arian
symud arian rhwng eich cyfrifon Principality
newid eich manylion personol a sut rydym yn anfon gwybodaeth hyrwyddo atoch chi, gan gynnwys Gwobrau Aelodau
cwblhau eich cyfarwyddiadau aeddfedrwydd cyfrif cynilo
gofyn am dystysgrif treth ar gyfer eich cyfrif cynilo
cysylltu â ni yn ddiogel gan ddefnyddio Negeseuon, gan gynnwys newid eich manylion debyd uniongyrchol
gwneud cais yn gyflymach am gyfrif cynilo newydd
newid enw eich cyfrif cynilo i rywbeth sy'n golygu mwy i chi
creu nod cynilo i gadw eich cynilion ar y trywydd iawn
a mwy
Bydd angen: eich rhif cyfrif Principality, rhif ffôn symudol, a'ch cyfeiriad e-bost. Am resymau diogelwch, dim ond chi ddylai ddefnyddio eich rhif ffôn symudol a'ch e-bost.
- Dechreuwch arni ar-lein drwy lenwi rhai manylion personol a gosod eich cyfrinair. Byddwn yn anfon copi o'ch cod adnabod defnyddiwr ac yn anfon cod gweithredu atoch yn y post; dylai gyrraedd mewn 3-5 diwrnod.
- Pan fyddwch wedi derbyn eich cod gweithredu bydd angen i chi fewngofnodi i Eich Cyfrif gan ddefnyddio eich cod adnabod defnyddiwr a'ch cyfrinair. Cewch eich annog i ofyn am god cyfrinachol a gaiff ei anfon i'r rhif ffôn symudol y gwnaethoch ei roi wrth sefydlu'r cyfrif. Yna, gallwch nodi eich cod gweithredu i weithredu Eich Cyfrif.
Os oes angen help arnoch, ffoniwch ni ar 0330 333 4000.
Mae eich diogelwch ar-lein yn bwysig i ni. Mae pob banc a chymdeithas adeiladu yn y DU yn cynnal gwiriadau diogelwch ychwanegol i helpu i'ch cadw yn ddiogel wrth reoli eich arian ar-lein. Gelwir hyn yn Dilysu Cwsmer Cryf ac mae'n helpu i atal twyll a gwella diogelwch taliadau ar-lein.
Pan fyddwch yn mewngofnodi i Eich Cyfrif a phan fyddwch yn symud arian, rydym yn sicrhau mai chi sy'n gwneud hynny drwy wirio rhywbeth rydych yn ei wybod (er enghraifft cyfrinair cryf neu yr ateb i gwestiwn diogelwch os byddwch yn anghofio eich cyfrinair) a rhywbeth sydd gennych (dyna pam fyddwn ni'n anfon cod cyfrinachol i'ch ffôn symudol).
Mae'n bwysig mai eich rhif ffôn symudol chi yn unig yw'r un y byddwch yn ei ddefnyddio i gofrestru, nid yn un y byddwch yn ei rannu gyda rhywun arall.
- Beth yw cyfrinair cryf? Dylai fod 10 neu fwy o gymeriadau yn eich cyfrinair, gan gynnwys priflythrennau, symbolau a rhifau.
- Beth ddylwn i ei wneud os nad oes gennyf rif ffôn symudol neu signal ffôn symudol? Ni fyddwch yn gallu defnyddio ein gwasanaeth Eich Cyfrif ar-lein heb rif ffôn symudol personol (oherwydd byddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer gwiriad diogelwch hanfodol). Ffoniwch ni ar 0330 333 4000 i reoli eich cyfrif dros y ffôn neu ewch i'ch cangen leol. Os yw eich cyfrif cynilo yn un ‘ar-lein yn unig’ bydd angen i chi ein ffonio yn hytrach na mynd i gangen.
- Sut gallaf ddiweddaru fy rhif ffôn symudol os na allaf fewngofnodi? Ffoniwch ni ar 0330 333 4000 a rhoi eich rhif ffôn symudol newydd i ni. Byddwn yn diweddaru eich cyfrif i chi.
- Pam mae angen i mi newid fy ngair cofiadwy i gwestiynau diogelwch? Rydym yn ymrwymo i sicrhau eich bod yn aros yn ddiogel pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaeth ar-lein. Os byddwch yn anghofio eich cyfrinair bydd angen i chi ateb tri chwestiwn diogelwch i'w ail-osod. Mae'r tri chwestiwn hyn yn cymryd lle eich gair cofiadwy.
Os yw eich cyfrif cynilo gyda ni yn dod i ddiwedd ei gyfnod, bydd angen i chi benderfynu beth i'w wneud gyda'ch arian. Dyma eich opsiynau aeddfedu.