Canolfan ddogfennau
Os ydych yn chwilio am ffurflen neu ddogfen nad yw'n ymddangos yn y rhestr hon, ffoniwch ni ar 0330 333 4000 a byddwn yn falch o anfon un atoch.
Ffurflenni cynilo
Cyn i chi anfon unrhyw wybodaeth bersonol atom, darllenwch ein polisi preifatrwydd ac unrhyw ddogfennau a nodir isod. Os byddwch yn anfon gwybodaeth bersonol ar ran rhywun arall, dylai y person hwnnw ddarllen y dogfennau hyn hefyd.
Gwybodaeth bwysig:
- Telerau ac Amodau Cynilo
- Polisi Preifatrwydd
- Eich Gwybodaeth/Profi Pwy Ydych Chi
- Tariff Taliadau Cynilo
- Gwybodaeth Sylfaenol Am Ddiogelu Eich Blaendaliadau Cymwys
- Defnyddiwch ein Ffurflen Gais Cynilo i wneud cais am gyfrif cynilo drwy'r post. Sylwch mai dim ond ar-lein y gellir agor cyfrifon gwe.
- Os ydych yn agor cyfrif ar gyfer plentyn ar sail ymddiriedolaeth, dylech hefyd gwblhau Ffurflen Gais Ymddiriedolwyr.
- Cwblhewch Ddatganiad Hunanardystio ynghyd â'ch ffurflen gais cynilo.
- I drosglwyddo eich ISA Arian Parod Principality presennol i ISA Arian Parod Principality arall: Ffurflen Trosglwyddo ISA Principality
- I drosglwyddo eich ISA Arian Parod o ddarparwr arall i ISA Arian Parod Principality: Ffurflen Trosglwyddo ISA Arian Parod
- I wneud cais am ISA arian parod (ac eithrio ISA ar y We y gellir ei agor ar-lein yn unig) drwy’r post: Ffurflen Gais ISA Arian Parod
- I dalu i mewn i’ch ISA Principality presennol (os nad ydych wedi talu i mewn i’ch cyfrif yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf): Ffurflen Bwlch Mewn Tanysgrifiad ISA Arian Parod
- I drosglwyddo eich ISA Stociau a Chyfranddaliadau o ddarparwr arall i ISA Arian Parod Principality: Ffurflen Trosglwyddo ISA Stociau a Chyfranddaliadau i ISA Arian Parod Principality
- I gyfarwyddo’ch banc neu gymdeithas adeiladu i anfon taliad rheolaidd i’ch cyfrif cynilo Principality: Ffurflen Archeb Sefydlog Cynilion
Os nad yw eich cyfrif ar werth mwyach, bydd angen i chi wirio ein gwybodaeth ar gyfer ein cyfrifon nad ydynt ar werth.
Canllawiau a ffurflenni morgeisi
- I roi caniatâd i Gymdeithas Adeiladu Principality gasglu arian o’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu i dalu’ch morgais: Mandad Debyd Uniongyrchol Morgeisi
Ffurflenni cymorth i aelodau
- Canllaw i roi gwybodaeth i chi wrth ddelio â materion ariannol rhywun arall: Canllaw ar Gofrestru Atwrneiaeth
- Mae'n ofynnol i'r Atwrnai/Atwrneiod gwblhau'r ffurflen hon wrth gofrestru: Datganiad Atwrneiath
- Beth i'w wneud pan fyddwch chi'n colli annwylyd: Canllaw ar Farwolaeth a Phrofedigaeth
- Rhowch wybod i ni fod rhywun wedi marw drwy gofrestru ei farwolaeth â ni: Ffurflen Gofrestru Profedigaeth
- Cau cyfrif(on) Principality rhywun sydd wedi marw: Cais i Gau Cyfrifon Mewn Profedigaeth
- Gwneud cais i godi arian o gyfrif rhywun sydd wedi marw: Cais i Godi Arian Mewn Profedigaeth
- Gwybodaeth am gynnyrch am gyfrif y gallwn drosglwyddo arian iddo ar ôl marwolaeth deiliad cyfrif ISA: Telerau Cyfrif Mynediad Sydyn (Ex ISA) a Chrynodeb o Wybodaeth am Gynhyrchion
Tanysgrifiad Ychwanegol a Ganiateir (APS)
- Ar gyfer trosglwyddiad APS o ISA Principality rhywun sydd wedi marw i ISA Principality priod neu bartner sifil sy’n goroesi: Ffurflen Gais a Throsglwyddo APS Mewnol
- Ar gyfer trosglwyddiad APS o ISA darparwr arall rhywun sydd wedi marw i ISA Principality priod neu bartner sifil sy’n goroesi: Ffurflen Gais a Throsglwyddo APS i Principality
- Os ydych wedi colli eich paslyfr: Paslyfr ar Goll
- Os yw'ch paslyfr wedi cael ei ddwyn: Paslyfr Wedi'i Ddwyn