Yswiriant wedi'i drefnu gan Vita
Yn eich diogelu chi, eich cartref a'ch teulu. Byddwn yn eich cyfeirio at Vita sy'n cynnig yswiriant cartref ac yn rhoi cyngor amddiffyn.
Archwilio opsiynau yswiriant
Yswiriant cartref
I drafod eich opsiynau yswiriant cartref, ffoniwch Vita ar 0800 046 5212*
Dydd Llun-Dydd Iau 9.30am-8.00pm, Dydd Gwener 9.00am-5.30pm.
Mae Vita ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a threfnu:
-
Yswiriant adeiladau
Yn cynnwys costau atgyweirio difrod i strwythur a gosodiadau eich cartref oherwydd stormydd, tanau, fandaliaeth a mwy.
-
Yswiriant cynnwys
Yn diogelu'r eiddo y tu mewn i'ch cartref rhag lladrad, tân a mwy.
-
Cyfuniad o'r ddau
Yn diogelu strwythur eich cartref a'i gynnwys.
Yswiriant a diogelu bywyd
I drafod eich opsiynau diogelu ac yswiriant bywyd, ffoniwch Vita ar 0800 988 3637* Dydd Llun-Dydd Iau 9.30am - 8.00pm, Dydd Gwener 9.00am-5.30pm.
Gall Vita ateb unrhyw gwestiynau a gwneud argymhellion ar y canlynol:
-
Yswiriant bywyd morgais
Help i dalu eich morgais os byddwch yn marw yn ystod cyfnod y polisi.
-
Diogelu incwm
Budd-dal misol a delir os na allwch weithio oherwydd salwch neu anaf, gan arwain at golli enillion.
-
Yswiriant salwch difrifol
Cyfandaliad os cewch ddiagnosis o salwch difrifol.
-
Yswiriant bywyd teulu
Darparu incwm i'ch teulu os byddwch yn marw.
Rydym yn gweithredu fel cyflwynydd i Vita, sy'n darparu cyngor annibynnol.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gan Vita?
Cyngor diduedd a di-dâl
Gwasanaeth hawlio penodol gyda chymorth cynghorydd penodedig
Atebion wedi'u teilwra i'ch anghenion a'ch cyllideb
Sut rydym yn gweithio gyda Vita
Byddwn yn eich cyflwyno i Vita a fydd yn trefnu polisi yswiriant ar eich cyfer.
Os byddwch yn cytuno i gael eich cyfeirio at Vita, byddwn yn rhannu unrhyw ddata perthnasol ag ef gan ei fod yn gyflenwr trydydd parti.
Darperir yr holl gyngor ac argymhellion gan Vita. Ni fyddwch yn cael unrhyw gyngor nac argymhellion gennym ni.
Byddwn yn cael taliad comisiwn gan Vita os bydd polisi yswiriant yn cael ei drefnu. Gall Vita gadarnhau faint o gomisiwn a dalwyd i ni.
Cyflenwyr blaenorol
Os ydych chi'n gwsmer presennol i'n cyflenwyr blaenorol, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol.
Nid ydym yn cynnig cynlluniau yswiriant cartref newydd gyda LV= mwyach. Bydd deiliaid polisi presennol yn cael gwahoddiad adnewyddu blynyddol gan LV=, ac ar gyfer unrhyw hawliadau neu ymholiadau, cysylltwch ag LV= yn uniongyrchol ar 0330 678 5180 *.
Gweler isod ar gyfer eich dogfennau polisi LV=:
- Dogfen telerau ac amodau yswiriant cartref Arian ac Aur
- Dogfen wybodaeth am gynnyrch yswiriant cartref arian
- Dogfen wybodaeth am gynnyrch yswiriant cartref aur
- Dogfen treuliau cyfreithiol y cartref
- Dogfen argyfwng y cartref
- Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol
- Gwybodaeth am eich yswiriant a'ch terfynau
Nid ydym yn darparu cynlluniau angladd rhagdaledig newydd mwyach. Bydd deiliaid presennol y cynllun yn cael datganiadau rheolaidd gan Dignity, ac ar gyfer unrhyw hawliadau neu ymholiadau, cysylltwch â Dignity yn uniongyrchol.
Os ydych wedi prynu polisi Yswiriant Bywyd Morgeisi, polisi Yswiriant Bywyd Morgais gyda Yswiriant Salwch Difrifol neu bolisi Budd-dal Diogelu Incwm gan Legal & General o'r blaen, a’ch bod am siarad â rhywun am eich polisi, cysylltwch â Legal & General:
- Ar gyfer ymholiadau, ffoniwch Gwasanaethau Cwsmeriaid Legal & General ar 03700 600 015 *
- Os oes angen i chi wneud hawliad, ffoniwch Legal & General ar 0800 137 101 *
- Ewch i dudalen we Cymorth a Chysylltiadau Yswiriant Legal & General.