Rhowch hwb i’ch fforddiadwyedd
Ychwanegwch incwm aelod o’ch teulu i'ch cais am forgais gyda morgais Cydfenthycwr Un Perchennog.
Beth yw morgais Cydfenthycwr Un Perchennog?
Morgais Cydfenthycwr Un Perchennog yw pan ystyrir eich incwm chi ac incwm aelod(au) o’ch teulu pan fyddwch yn gwneud cais am forgais. Weithiau gelwir hyn yn hwb i’ch incwm. Gallwch ychwanegu incwm hyd at 4 o bobl at eich cais, er mwyn rhoi hwb i’r swm y gallwch gael ei fenthyg. Efallai y byddwch yn ystyried hyn os ydych yn prynu cartref ar eich pen eich hun.
Mae'r math hwn o forgais yn hwb dros dro i fforddiadwyedd er mwyn i chi allu camu ar yr ysgol dai. Gallwch dynnu aelodau o'r teulu o’r morgais pan fyddwch yn barod i ysgwyddo’r morgais ar eich pen eich hun. Gallai hyn fod oherwydd bod eich cyflog yn cynyddu, eich bod yn etifeddu cyfandaliad, neu pan fyddwch wedi talu rhan sylweddol o'r morgais.
Wrth gymryd unrhyw forgais, dylech ystyried yr effaith hirdymor. Po fwyaf y byddwch yn ei fenthyg, po fwyaf y bydd yn ei gostio a’r mwyaf o log y byddwch yn ei ad-dalu dros amser.
Buddion hwb i incwm
-
Ychwanegu aelodau o’ch teulu
Gallwch gynnwys incwm hyd at 4 o bobl at eich cais.
-
Cyfuno eich incwm
Mae incwm pob ymgeisydd yn cael ei ystyried.
-
Cynyddu’r swm y gallwch gael ei fenthyg
Gallwch fenthyg mwy na phe baech chi 'n gwneud cais ar eich pen eich hun.
-
Byddwch yn berchen ar eich cartref
Bydd y cartref yn cyfreithlon i chi.
Dyma sut gallai weithio
Dywedwch fod gennych flaendal o £20,000 wedi'i gynilo a bod eich cyflog yn £30,000. Efallai y gallech fenthyca tua £120,000. Mae hyn yn golygu y gallwch brynu cartref am £140,000 gan ddefnyddio eich £20,000 a'r £120,000 y gallech ei fenthyg. Ond mae’r cartref rydych chi eisiau ei brynu yn £200,000. Gyda morgais Cydfenthycwr Un Perchennog, gallwch ofyn i aelod o'ch teulu ychwanegu ei enw a'i incwm at eich cais am forgais i gynyddu'r swm y gallwch ei fenthyca. Gallai'r incwm ychwanegol olygu y gallech fenthyg y swm sydd ei angen arnoch i brynu'ch cartref eich hun.
Beth mae pob ymgeisydd yn cytuno iddo?
Rhai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt:
-
Bydd y cartref yn eiddo i chi yn gyfreithiol (perchennog y cartref)
Dim ond chi fydd wedi’i enwi ar y weithred a'r holl benderfyniadau cyfreithiol. Dim ond chi all benderfynu gwerthu.
-
Rydych wedi cael benthyg swm y benthyciad gyda'ch gilydd sy'n golygu eich bod i gyd yn gyfrifol am yr ad-daliadau misol.
Chi sy’n talu'r ad-daliadau ar y morgais. Ond os na allwch chi, mae aelod(au) eich teulu yn cytuno i wneud hynny ar eich rhan. Os nad oes neb yn gwneud yr ad-daliadau, mae'n effeithio ar gredyd pawb ar y morgais.
-
Efallai y bydd effaith ar allu aelodau eich teulu i fenthyg swm ychwanegol
Rydym yn ystyried eu fforddiadwyedd i roi hwb i faint y gallwch ei fenthyg. Mae hyn yn golygu efallai na fyddant yn gallu benthyg mwy ar eu morgais eu hunain tra byddant ar eich un chi.
-
Perchennog y cartref sy'n gyfrifol am dalu'r holl ffioedd
Ni fydd angen i aelod eich teulu dalu Treth Stamp na Threth Trafodion Tir
-
Cyngor cyfreithiol annibynnol
Mae'n bwysig bod pob ymgeisydd yn cael cyngor cyfreithiol annibynnol i sicrhau eich bod yn deall yr hyn rydych yn cytuno iddo cyn gwneud cais.
Sut mae'n gweithio os ydych chi'n aelod o'r teulu sy’n helpu?
Os ydych chi'n helpu rhywun trwy roi hwb i’w hincwm dyma beth y mae angen i chi ei wybod.
Cewch helpu gyda fforddiadwyedd morgais aelodau o'ch teulu os ydych yn:
- fam neu dad
- brawd neu chwaer
- plentyn
- taid / nain
- ŵyr / wyres
- gwarcheidwad cyfreithiol
Ystyrir eich incwm, sy'n golygu:
- bydd eich enw ar y cais morgais
- rydych yn cytuno i dalu’r ad-daliadau os na all perchennog y cartref wneud hynny
- ni ddefnyddir eich eiddo na'ch cynilion fel sicrwydd yn erbyn y benthyciad
- efallai na fyddwch yn gallu benthyg mwy ar eich morgais eich hun os oes gennych un, tra byddwch ar y cais hwb i incwm
- ni fyddwch yn berchen ar unrhyw ran o'r cartref
Dylai pawb dan sylw gymryd cyngor cyfreithiol annibynnol gan gyfreithiwr. Dylai eich cyfreithiwr eich helpu chi i gyd i ddeall unrhyw risgiau o gael eich enwi ar y morgais.
Efallai y byddwch hefyd am siarad â chynghorydd morgais ynghylch sut y gallai effeithio ar eich gallu i fenthyca os ydych yn dal i ad-dalu morgais.
Rhai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt os ydych yn cytuno i helpu aelod o'r teulu i roi hwb i'r swm y gallai ei fenthyg:
- ni fyddwch yn berchen ar y cartref yn gyfreithiol, eiddo y person rydych yn ei helpu bydd y cartref
- rydych wedi benthyg gyda'ch gilydd sy'n golygu eich bod i gyd yn gyfrifol am yr ad-daliadau misol.
- rydych yn cytuno i dalu’r ad-daliadau ar y morgais os nad yw perchennog y cartref yn gwneud hynny
- os nad yw'r person rydych chi'n ei helpu yn talu'r ad-daliadau, yna gellir adfeddiannu'r cartref a gallai effeithio ar sgôr credyd pob ymgeisydd.
- ni allwch werthu'r cartref, mae'n perthyn i'r person rydych chi'n ei helpu
- rydym yn ystyried eich fforddiadwyedd, gallai hyn olygu na allwch fenthyg mwy ar eich morgais eich hun.
- nid ydych yn gyfrifol am dalu Treth Stamp na Threth Trafodion Tir
Yn wahanol i forgais gwarantwr, nid yw aelod y teulu yn cynnig ei eiddo na’i gynilion ei hun fel sicrwydd yn erbyn y benthyciad.
Mae’n cytuno i ad-dalu'r morgais os na all y person y mae’n ei helpu wneud hynny.
Gweld ein morgeisi
Cymharwch ein cyfraddau morgeisi, gan gynnwys Morgeisi Perchennog Unigol Benthyciwr ar y Cyd
Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais