Twyll a Sgamiau
Rydym yn ymrwymedig i’ch helpu i gadw eich arian yn ddiogel.
Wedi cael neges amheus?
Os ydych chi wedi cael neges e-bost amheus a dydych chi ddim yn siŵr a gafodd ei anfon gan Gymdeithas Adeiladu Principality, cysylltwch â ni.
Anfonwch neges e-bost atom yn phishing@principality.co.uk
Rhowch wybod am sgam neu dwyll
Yn amau eich bod wedi dioddef twyll neu sgam?
Gorau po gyflymaf y byddwch chi’n gweithredu.
Ffoniwch ni ar 0330 333 4000
Yr hyn i gadw golwg amdano
Sgam
Sgam yw pan fyddwch chi’n talu cwmni neu berson, ond dydyn nhw ddim yn rhai dilys na didwyll. Er enghraifft, rydych chi’n prynu eitem gan gwmni nad yw’n bodoli mewn gwirionedd.
Twyll
Twyll yw pan fydd arian yn mynd allan o’ch cyfrif na wnaethoch ei awdurdodi ac nad oeddech chi’n gwybod amdano.
Cysylltwch â ni ar unwaith:
-
os yw eich gwybodaeth bersonol neu gyfrinachol wedi cael ei rhoi i drydydd parti heb eich cydsyniad
-
os ydych chi wedi colli eich paslyfr neu eich manylion diogelwch neu os ydynt wedi cael eu dwyn
-
os yw eich datganiad yn dangos taliadau nad ydych yn gwybod beth ydynt
-
os ydych chi’n credu bod rhywun wedi dwyn eich hunaniaeth
- Take five
Ydych chi’n poeni am dwyll neu sgam?
Sut allwch chi ddiogelu eich hun? Mae Take Five to Stop Fraud yn cynghori eich bod chi’n gwneud y canlynol:
- Stopio: Meddyliwch cyn i chi roi arian neu wybodaeth i rywun.
- Herio: A allai fod yn ffug? Mae’n iawn gwrthod neu anwybyddu ceisiadau, dim ond troseddwyr fydd yn ceisio gwneud i chi ruthro neu fynd i banig.
- Diogelu: Cysylltwch â’ch banc ar unwaith os byddwch chi’n meddwl eich bod chi wedi bod yn destun sgam a rhowch wybod i Action Fraud.
Noder, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chynnwys ar wefannau allanol.
Y sgamiau diweddaraf i fod yn wyliadwrus ohonynt
-
Sgam gwyliau
Yn aml, mae dêl sy’n troi allan i fod yn rhy dda i fod yn wir yn sgam. Beth yw sgam gwyliau?
-
Sgam buddsoddi
Mae symud arian i gronfa neu fuddsoddiad ffug yn dwyll.
-
Taliadau gwthio awdurdodedig
Mae anfon arian at rywun sy’n esgus bod yn dalai didwyll yn sgam APP.
-
Mul Arian
Mae mul arian yn gadael i droseddwr ddefnyddio ei gyfrif banc i ddwyn arian.
-
Dwyn hunaniaeth
Gall rhywun ddwyn eich manylion personol i gyflawni twyll er budd ariannol.
-
Twyll sieciau
Mae rhywun yn rhoi siec na ellir ei chyfnewid am arian parod yn dwyll.
-
Masnachwr twyllodrus
Gallai rhywun sy’n cnocio ar eich drws neu’n eich ffonio i gynnig gwneud gwaith i chi nad ydych wedi gofyn amdano fod yn fasnachwr twyllodrus.
-
Sgamiau ar-lein
Gwe-rwydo, SMS-rwydo a llais-rwydo: beth yw ystyr y geiriau hyn a sut allwch chi ddiogelu eich hun?