Mul arian
Beth yw mul arian?
Mae mulod arian yn cael eu recriwtio gan droseddwyr, weithiau heb iddyn nhw sylweddoli hynny, i drosglwyddo arian a gafwyd yn anghyfreithlon rhwng cyfrifon banc gwahanol. Mae mulod arian yncael arian wedi’i ddwyn i’w cyfrifon ac yna gofynnir iddyn nhw godi neu drosglwyddo’r arian i gyfrif gwahanol – yn aml cyfrif tramor. Yn aml, mae mul arian yn cael ei dalu am wneud hyn.
Hyd yn oed os nad ydych chi’n ymwybodol bod yr arian rydych chi’n ei drosglwyddo wedi’i gael yn anghyfreithlon, rydych wedi chwarae rôl bwysig mewn twyll a gwyngalchu arian. Mae hyn yn golygu y gallwch chi gael eich erlyn o hyd. Yn aml, bydd troseddwyr yn defnyddio hysbysebion swyddi ffug neu’n creu postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol am gyfleoedd i wneud arian yn gyflym, i berswadio pobl i ddod yn fulod arian yn anfwriadol.
Gallai mulod arian gael eu herlyn am gyflawni'r trafodion, gallai eu cyfrifon gael eu cau a gallan nhw gael eu dwyn yn atebol am werth y trafodion a gafwyd.
Awgrymiadau i osgoi cael eich defnyddio fel mul arian:
- Byddwch yn ofalus os byddwch chi’n cael cynigion neu gyfleoedd digymell sy’n cynnig cyfle i chi wneud arian yn rhwydd.
- Cymerwch gamau i wirio unrhyw gwmni sy’n cynnig swydd i chi.
- Cadarnhewch fanylion cyswllt (cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a gwefan) unrhyw gwmni sy’n cynnig swydd i chi.
- Cadarnhewch fod unrhyw gwmni sy’n cynnig swydd i chi wedi’i gofrestru yn y DU.
- Peidiwch ag ymateb i swyddi digymell a gynigir i chi drwy e-bost.
- Byddwch yn wyliadwrus o gwmnïau sy’n cynnig tasgau ‘gweithio o gartref’ sylweddol nad oes angen unrhyw brofiad arnoch i’w cyflawni.
- Peidiwch byth â rhoi eich manylion banc i neb oni bai eich bod yn ei adnabod.
- Ni ddylai unrhyw gwmni ofyn i chi gyflawni trafodion ariannol rhyngwladol ar ei ran, gan ddefnyddio eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu personol.
I gael rhagor o awgrymiadau, gwyliwch fideo 'Don't be fooled' Money Mule. Noder, nid yw Principality yn gyfrifol am yr hyn sy’n cael ei gynnwys ar wefannau allanol eraill.
Oes gennych chi bryder?
Os oes rhywun wedi gofyn i chi gynnal trafodiad ar ei ran drwy eich cyfrif Principality, cysylltwch â ni ar unwaith.