Pam y dylech ymuno â ni
Rydym yn cefnogi ein pobl drwy geisio gwneud mwy bob amser.
Mynd cam ymhellach i'n pobl
Rydym yn falch o’r gwaith rydym yn ei wneud ac rydym am wobrwyo ein pobl yn deg. Daliwch ati i ddarllen i gael blas ar rai o'n buddion presennol. (O.N. Rydym yn adolygu ac yn diweddaru'r rhain yn rheolaidd, i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig buddion i bawb).
Mae'r canlynol yn bwysig i ni:
-
Cadw pethau'n hyblyg
Rydym yn sicrhau bod cyfleoedd gweithio hyblyg, yn gweithio i bawb.
-
Chwarae ein rhan
Dod yn rhan o gymuned sy'n dod â phobl at ei gilydd er lles pawb.
-
Gofalu amdano chi'ch hun
Dysgwch sut rydym yn rhoi gaofalu am ein pobl yn gyntaf ym mhopeth a wnawn.
-
Gwella gyda'n gilydd
Archwilio'r cyfleoedd fydd ar gael i chi a thyfu fel rhan o’r tîm.
Tâl cystadleuol a gwobrau
- Rydym wedi ymrwymo i aros ar y gyfradd a osodwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw Gwirioneddol bob blwyddyn, neu'n uwch na hynny.
- Rydym yn adolygu cyflogau bob blwyddyn i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi iawndal teg i bawb, ac yn unol â chyfraddau'r farchnad.
- Cewch gyfle i gael bonws blynyddol.
- Byddwn yn talu swm sy'n cyfateb i’ch cyfraniadau pensiwn, hyd at 9% o’ch cyflog blynyddol.
Gweithio o amgylch eich bywyd
- Lle bo'n bosibl, cyfle i weithio'n hyblyg o'r diwrnod cyntaf heb unrhyw ofynion swyddfa sylfaenol.
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â gwyliau banc.
- Byddwch hefyd yn cael diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol am bob blwyddyn o wasanaeth yn eich 5 mlynedd gyntaf.
- Dewis prynu diwrnodau gwyliau ychwanegol.
Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Mae gan gydweithwyr sydd wedi gweithio i PBS am o leiaf 6 mis hawl i'r canlynol:
- 39 wythnos o absenoldeb mamolaeth â thâl llawn.
- 20 wythnos o absenoldeb tadolaeth.
- Rydym hefyd yn cynnig triniaeth ffrwythlondeb, mabwysiadu, benthyg croth ac absenoldeb maethu.
- Hyblygrwydd i ofalwyr, gan gynnwys 5 diwrnod o absenoldeb â thâl i gefnogi'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Helpu chi i fyw bywyd da
- Sicrhewch yswiriant meddygol preifat unigol gennym ni, gyda'r opsiwn i gynnwys eich partner a'ch plant am gost ychwanegol.
- Hawliwch arian yn ôl ar gyfer eich profion llygaid a brechiadau rhag y ffliw.
- Sicrhewch yswiriant bywyd o 4 gwaith eich cyflog sylfaenol, ac yswiriant salwch difrifol o 1 gwaith eich cyflog gyda’r opsiwn i gynyddu am gost ychwanegol.
- Buddion gofal iechyd dewisol, gyda didyniad cyflog misol. Dewiswch o blith pethau fel yswiriant deintyddol, archwiliadau iechyd, aelodaeth o'r gampfa a chymorth menopos.
Buddion unigryw
- Gwnewch gais am gyfradd morgais staff gystadleuol ar ôl i chi basio eich cyfnod prawf.
- Optiwch i mewn i fuddion ariannol hyblyg gan gynnwys gostyngiadau ar gyfer bwytai, siopau a Stadiwm y Principality ar gyfer chwaraeon a digwyddiadau.
- Gwirfoddolwch hyd at 16 o oriau y flwyddyn yn ystod eich oriau gwaith.
- Gallwch gael gostyngiadau unigryw ar sioeau theatr, bwytai a mwy trwy ymuno â'n clwb Chwaraeon a Chymdeithasol.
Rwyf wrth fy modd bod Principality yn cynnig amrywiaeth o fuddion. I mi’n bersonol, mae’r polisi gweithio hyblyg yn fy ngalluogi i weithio fy rôl o amgylch fy mywyd teuluol.
Kelly Bayley
Arbenigwr Profiad Digidol