Ein proses recriwtio
Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn gwneud cais am swydd gyda ni.
Ein Proses
Ewch i'n gwefan gyrfaoedd i wneud cais am rôl.
Gofynnir i chi wneud y canlynol ar gyfer pob swydd:
1. llenwi ffurflen gais fer yn seiliedig ar elfennau allweddol y rôl
2. lanlwytho copi o'ch curriculum vitae (CV)
Pryd y caiff ceisiadau eu hadolygu?
Bydd y tîm recriwtio yn prosesu eich ceisiadau ar ôl y dyddiad cau, mae hyn er mwyn i bawb gael cyfle teg wrth wneud cais am rôl.
Rydym yn bwriadu adolygu ceisiadau o fewn 48 awr ar ôl i'r rôl gau ac i chi gael canlyniad eich cais yn fuan ar ôl hyn.
Sut y caiff ceisiadau eu hadolygu?
Bydd rheolwyr penodi yn adolygu pob cais yn seiliedig ar y meini prawf penodol a amlinellir ar yr hysbyseb a byddant yn llunio rhestr fer.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn cael cyfweliad?
Byddwch yn cael neges e-bost yn nodi canlyniad eich cais hyd yn oed os yw'n aflwyddiannus. Os nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer rôl benodol, gallwch wneud cais am rolau eraill o hyd.
Mae gennym gronfa dalent, felly os na fyddwch yn cael y swydd y gwnaethoch gais amdani ond ein bod yn meddwl y gallech fod yn addas ar gyfer swyddi eraill, byddwn yn gofyn a hoffech ymuno â'n cronfa dalent.
Rydym eisiau i bawb deimlo eu bod yn ‘perthyn’ felly rhowch wybod i ni os oes angen i ni wneud unrhyw addasiadau.
Ble mae'r cyfweliadau?
Fel arfer, cynhelir cyfweliadau yn ein Prif Swyddfa neu'r gangen lle'r ydych wedi gwneud cais i weithio. Rydym hefyd yn cynnig cyfweliadau rhithwir.
Beth ddylid ei wisgo ar gyfer y cyfweliad?
Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo dillad ‘trwsiadus anffurfiol’ ond gallwch fod yn hyblyg o ran sut mae hyn yn gweddu orau i chi.
Pwy sy'n cynnal y cyfweliad?
Yn y cyfweliad, byddwch yn cwrdd â'r rheolwr cyflogi ac aelod o'n tîm gyrfaoedd.
Beth yw'r broses gyfweld?
Bydd rhannau amrywiol i'r broses i bob rôl y byddwn yn recriwtio ar ei chyfer. Mae pob rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ni gynnal cyfweliad ar sail cymhwysedd a gallai hefyd gynnwys:
- senario/chwarae rôl
- cyflwyniad
- trafodaeth â'r panel
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i'ch cyfwelwyr am y rôl, y tîm a gweithio i Principality.
Fel arfer bydd un o'r rheolwr cyflogi yn cysylltu â chi unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud.
- Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael cynnig y rôl yn amodol ar basio ein camau gwirio cyn cyflogi. Ar y cam hwn, gallwch hefyd drafod cyflog, cyfnod rhybudd, ac unrhyw beth arall sy'n gysylltiedig â'r rôl.
- Os byddwch yn aflwyddiannus y tro hwn, byddwch yn gallu gwneud cais yn y dyfodol o hyd. Gallwch ofyn am adborth yn dilyn y cyfweliad. Rhoddir adborth drwy e-bost ac yna dros y ffôn pan fydd yn gyfleus i'r ymgeisydd.
Hawl i weithio
Bydd angen i chi ddarparu dogfennau hawl i weithio cyn y gallwch ddechrau gweithio i ni. Mae'r rhain yn ofynion cyfreithiol y mae angen i ni eu cael ar gofnod.
Prawf adnabod
Ar gyfer preswylwyr y DU a’r UE, bydd angen 3 math o fanylion adnabod arnom:
- Pasbort dilys neu dystysgrif geni wreiddiol (nid copi na'r fersiwn fer).
- Trwydded yrru gyfredol.
- Prawf o gyfeiriad, megis bil cyfleustodau (treth cyngor Nwy/Trydan/dŵr) neu gyfriflenni banc, dyddiedig o fewn y 3 mis diwethaf.
Gwiriad credyd
Fel busnes gwasanaethau ariannol, mae angen i ni gynnal gwiriad credyd ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Byddwn yn cynnal gwiriad credyd ar bob ymgeisydd llwyddiannus gan ddefnyddio Experian. Bydd angen canlyniad boddhaol arnom er mwyn i'ch cynnig barhau.
Bydd y gwiriad credyd a gyflawnir yn wiriad credyd meddal ac ni fydd yn effeithio ar eich sgôr credyd.
Geirdaon cyflogaeth
Gofynnwn i chi ddarparu geirdaon cyflogaeth 3 blynedd. Ar gyfer rolau â chyfrifoldeb rheoleiddio, mae angen hyd at 6 blynedd o eirdaon cyflogaeth arnom.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am eich camau gwirio cyn cyflogi, e-bostiwch: sharedmailbox.peopleservices@principality.co.uk
Rydym yn barod i helpu
A oes gennych gwestiwn am eich cais, neu broses? Cysylltwch â'r tîm, e-bostiwch: recruitment@principality.co.uk