Mynd â’ch morgais gyda chi
Os ydych am symud cartref gallwch gadw eich cytundeb morgais presennol a’i drosglwyddo i’ch eiddo newydd. Cludo yw’r enw ar hyn, ac mae’r rhan fwyaf o gytundebau morgais yn gludadwy.
-
Ewch â'ch morgais i eiddo newydd
-
Cadwch eich cytundeb morgais presennol
-
Benthyciwch fwy drwy ychwanegu ato
-
Lleihau'r swm rydych yn ei fenthyg - yn amodol ar ffioedd ad-dalu’n gynnar
Sut i gludo eich morgais
-
Trefnwch alwad yn ôl gydag un o'n harbenigwyr morgeisi
-
Trafodwch eich opsiynau â ni
-
Byddwn yn asesu eich cais ac yn cadarnhau a yw’n bodloni ein meini prawf benthyca
-
Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw eich opsiynau ac yn eich cynghori ar y camau nesaf
Siaradwch â ni am gludo
Trefnwch alwad yn ôl gan un o’n harbenigwyr morgeisi a all eich helpu chi gyda chais i gludo eich morgais. Cyn i chi wneud cais, sicrhewch eich bod yn gwybod:
- benthyciad o’i gymharu â gwerth (LTV) yr eiddo newydd
- manylion incwm pob ceisydd
- eich gwariant misol
Atebion i’ch cwestiynau
Trwy gludo eich morgais, rydych yn cytuno i drosglwyddo eich cytundeb ar ei delerau presennol. Rydych yn gymwys i gludo’ch morgais i eiddo newydd:
- os yw’r eiddo newydd yng Nghymru a/neu Loegr
- os yw’r eiddo’n bodloni ein meini prawf benthyca
- os ydych yn bodloni ein meini prawf benthyca pan rydych yn gwneud cais i gludo’ch morgais
- os nad ydych eisoes yn berchen ar yr eiddo rydych am drosglwyddo’ch cytundeb iddo
Os yw eich cytundeb morgais yn dod i ben yn ystod y 6 mis nesaf, gallwn hepgor yr ERC ar gais y morgais newydd.
Os oes angen morgais mwy arnoch, gallwch ychwanegu at eich morgais cyfredol a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r cytundeb fwyaf addas.
Byddwn yn gofyn i chi ddewis cynnyrch morgais arall o’r ystod o gynhyrchion sydd gennym ar y pryd. Bydd hyn yn cynnwys swm benthyca ychwanegol , a bydd telerau’r cynnyrch newydd ond yn berthnasol i’r swm ychwanegol y byddwch yn ei fenthyca.
Mae benthyca mwy yn amodol ar dderbyniad.
Os ydych yn ystyried lleihau swm y morgais pan fyddwch yn ei gludo, efallai y bydd ffi ad-dalu’n gynnar yn berthnasol i’r balans sy’n weddill ar eich cytundeb morgais cyfredol . Ceir gwybodaeth am ffioedd ad-dalu’n gynnar ar eich cytundeb cyfredol yn adran 'Ad-daliadau Cynnar' eich dogfen cynnig. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein rheolau cludadwyedd.
Rhagor o wybodaeth
-
Rheolau cludadwyedd
Gwiriwch ein rheolau cludo i weld a ydych yn bodloni ein meini prawf benthyca.
-
Cynhyrchion morgais
Cymharwch ein cynnyrch morgais presennol os hoffech fenthyg mwy pan fyddwch yn cludo.
Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais