Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym yn awyddus i bawb yn Principality deimlo eu bod yn perthyn.
Creu amgylchedd sy'n croesawu pawb
Rydym yn frwd dros ddatblygu ein cydweithwyr. Mae ein diwylliant dysgu cryf yn canolbwyntio'n glir ar gefnogi cydweithwyr i ffynnu ar bob cam o'u bywydau gwaith. Gydag ystod amrywiol o rwydweithiau, gallwch gysylltu â chydweithwyr o'r un anian, cefnogi eich gilydd, a dathlu eich gwahaniaethau. Rydym wedi ymrwymo i wneud y canlynol:
Creu gweithle lle gall pawb fod yn nhw eu hunain
Defnyddio data i fesur pa mor dda y mae ein mentrau'n gweithio
Addysgu ein hunain yn barhaus am brofiadau byw grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
Adolygu a diweddaru ein polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol o hyd
Dathlu ein gwahaniaethau
Rydym wedi ymrwymo i adeiladu a datblygu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas go iawn. Rydym wrth ein bodd â phethau unigryw sy'n hanfod pob person. Ac rydym yn mynd gam ymhellach i ddathlu'r gwahaniaethau hynny. Yn Principality, mae pawb yn perthyn.
Cefnogi menywod mewn gwasanaethau ariannol
Rydym yn gweithio er mwyn helpu menywod ar bob cam o'u gyrfa i ffynnu mewn swyddi y maent wrth eu bodd â nhw.
Mae ein polisïau gweithio hyblyg a rhieni yn gadael i chi adeiladu eich gyrfa a chanolbwyntio ar eich teulu
Rydym yn annog menywod i ddilyn gyrfaoedd technolegol drwy gefnogi Code First Girls
Gall cydweithwyr gael mynediad at gysylltiad a chymorth drwy ein rhwydwaith Cydweithwyr GROW
Dathlu amrywiaeth
Mae amrywiaeth yn ymwneud ag adeiladu tîm lle mae pawb yn teimlo bod eu llais yn cael ei glywed. Mae'n allweddol i weithle ffyniannus.
-
Rhwydweithiau a arweinir gan gydweithwyr
Mae ein rhwydweithiau a arweinir gan gydweithwyr yn cynnwys hyrwyddwyr yr amgylchedd, eiriolwyr iechyd meddwl, cymorth i ofalwyr, a Pride.
-
Addysgu ein hunain yn barhaus
Rydym yn sicrhau ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, yn gwrando ar siaradwyr gwadd o gymunedau a ymyleiddiwyd, ac yn cynnal sesiynau dysgu dros ginio.
-
Ymuno â Siarter Hil yn y Gwaith
Rydym wedi ymrwymo i wella cyfleoedd cyfartal ar gyfer gweithwyr Du, Asiaidd, Hil Gymysg ac ethnig amrywiol yn y DU.
-
Cefnogi cynllun gweithredu LGBTQ+ i Gymru
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ei chynllun gweithredu.