Morgeisi prynwyr tro cyntaf
Rydym wedi helpu dros 19,000 o brynwyr tro cyntaf ers 2020.
Gyda chi bob cam o’r ffordd
P'un a ydych chi ond yn dechrau arni, yn edrych ar forgeisi, neu'n barod i brynu, gallwn ni eich cefnogi.
-
Magu hyder ym maes morgeisi
Mae morgeisi'n gymhleth. I wybod beth i'w ddisgwyl, darllenwch ein canllawiau byr a syml.
-
Dod o hyd i'r morgais cywir
Edrychwch ar y morgeisi sydd ar gael, pa forgeisi allai fod yn addas i chi a beth allai eich ad-daliadau misol fod.
-
Siarad ag arbenigwr
Siaradwch â'n harbenigwyr morgeisi am unrhyw gwestiynau sydd gennych, a gwybod faint y gallech ei fenthyg, neu ddechrau eich cais morgais.
Angen help llaw?
Mae angen ychydig o gymorth i gamu ar yr ysgol eiddo weithiau. Mae gennym ffyrdd o roi cymorth ychwanegol i chi.
-
Lawrlwytho ein ap rhad ac am ddim
Byddwn yn eich tywys trwy gamau prynu cartref gyda'r ap Camau Cartref Cyntaf.
-
Cynyddu eich fforddiadwyedd
Byddai ychwanegu incwm aelodau o’r teulu at eich cais morgais o bosibl yn cynyddu'r swm y gallwch ei fenthyg.
-
Hwb blaendal
Gallai aelod o'r teulu roi arian i chi tuag at eich blaendal drwy fenthyca ar ei forgais ei hun.
Pam dewis morgais Principality
Rydym wedi ymrwymo i helpu pobl i brynu a byw yn eu cartrefi ers 1860.
-
Prynu eich cartref gyda blaendal o 5%
Rydym yn deall y gall cynilo ar gyfer blaendal fod yn anodd. Dyna pam rydyn ni'n rhoi benthyg hyd at 95% o werth y cartref i brynwyr tro cyntaf.
-
Gwasanaeth sydd wedi ennill gwobrau
Rydym wedi ein hethol y gymdeithas adeiladu orau am wasanaeth cwsmeriaid am y 6 mlynedd diwethaf gan What mortgage.
-
Rydym ni'n gwneud pethau'n wahanol
Nid oes gennym gyfranddalwyr, felly gallwn roi yn ôl trwy fuddsoddi mewn tai cymdeithasol ac addysg ariannol. Fe wnaethom hefyd roi £1.3 miliwn yn 2023 i grwpiau cymunedol a'n partneriaid elusennol.
Ffyrdd eraill o gysylltu
Ffoniwch ni ar 0330 333 4002 or neu trefnwch alwad yn ôl.
Oriau agor: dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp
Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais