Skip to content

Preifatrwydd, diogelwch a thwyll

Preifatrwydd, diogelwch a thwyll

Preifatrwydd a thwyll

Os ydych chi'n credu eich bod wedi eich effeithio gan sgam taliad gwthio awdurdodedig, dilynwch y camau hyn:
Cysylltu â ni ar unwaith
Ffoniwch ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar 0330 333 4000 i roi gwybod am y sgam cyn gynted ag y byddwch yn amau eich bod wedi eich sgamio.
Sylwer ein bod ar agor: Dydd Llun i ddydd Gwener: 9:30am - 5pm Dydd Sadwrn: 9am - 1pm


Rhoi manylion
Bydd angen i chi rannu gwybodaeth allweddol am y trafodiad, er enghraifft y swm, y dyddiad, a manylion y derbynnydd. Efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth os bydd angen.


Gwybod eich hawliau 
Mae gennych yr hawl i ofyn am ad-daliad am daliadau twyllodrus a wnaed drwy Daliad Cyflymach neu CHAPS. Rhaid i chi roi gwybod am y sgam ar unwaith ac o fewn 13 mis i'r taliad olaf.

 

Pryd gallaf ddisgwyl derbyn yr ad-daliad?
Os ydych yn gymwys i dderbyn ad-daliad, byddwch yn ei dderbyn o fewn pum diwrnod busnes fel arfer wedi gwneud eich cais. Efallai y bydd angen ychydig yn fwy o amser arnom (hyd at 35 diwrnod) os ydym yn aros am wybodaeth ychwanegol. 

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi dalu tâl-dros-ben o hyd at £100, y byddwn yn ei ystyried fesul achos.


Beth os ydw i'n anhapus â chanlyniad fy hawliad?
Os ydych yn anhapus â chanlyniad eich hawliad cewch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
•    Cyfeiriad post: The Financial Ombudsman Service, Exchange Tower, London E14 9SR 
•    Rhif ffôn: 0300 123 9123
•    Switsfwrdd: 020 7964 1000 
•    O'r tu allan i'r DU: +442079640500

Rhaid i chi gyfeirio eich cwyn at yr Ombwdsmon Ariannol o fewn 6 mis i dderbyn eich llythyr canlyniad.
 
Cewch hefyd weld ein adroddiad cwynion diweddaraf.

Rhagor o wybodaeth am Daliadau Gwthio Awdurdodedig.

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif. Byddwn yn diogelu eich preifatrwydd ac yn sicrhau ein bod yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn ddiogel. Darllenwch sut yn ein polisi preifatrwydd

Rydym yn cymryd eich diogelwch ar-lein o ddifrif. Yn union fel pob banc a chymdeithas adeiladu arall yn y DU, rydym yn cynnal gwiriadau diogelwch ychwanegol i helpu i’ch cadw’n ddiogel wrth reoli eich arian ar-lein.  Rydym yn helpu i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel mewn ychydig o ffyrdd:

 

Drwy wneud yn siŵr bod gennych gyfrinair cryf. Dylai eich cyfrinair gynnwys 10 nod neu fwy, gan gynnwys prif lythrennau, symbolau a rhifau.

 

Drwy ofyn am rif ffôn symudol a ddefnyddir gennych chi yn unig. Gofynnwn i chi gysylltu rhif ffôn symudol personol â'ch proffil ar-lein fel y gallwn gynnal gwiriad diogelwch bob tro y byddwch yn mewngofnodi. Dyna pam y mae'n bwysig mai eich rhif ffôn symudol chi yn unig yw'r un y byddwch yn ei ddefnyddio i gofrestru, ac na chaiff ei rannu â neb arall.

 

Drwy ofyn cwestiynau diogelwch. Os byddwch yn anghofio eich cyfrinair bydd angen i chi ateb tri chwestiwn diogelwch i'w ailosod.

 

Drwy anfon cod gweithredu atoch yn y post. Mae hyn yn ein helpu i gadarnhau mai chi sy’n byw yn y cyfeiriad rydych wedi’i roi i ni.

Gadewch i ni frwydro yn erbyn twyll gyda'n gilydd. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch amddiffyn rhag twyllwyr a chadw'ch arian yn ddiogel.

Gallwch ddod o hyd i fanylion am sut rydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel yn ein polisi diogelwch ar-lein

Mae gennym hefyd lawer o awgrymiadau fel y gallwch amddiffyn eich hun rhag twyll a rhoi gwybod am unrhyw weithgarwch anarferol. 

 

Diogelwch

Rhowch wybod i ni os yw eich paslyfr ar goll neu wedi'i ddwyn drwy lenwi'r datganiad paslyfr ar goll neu'r datganiad paslyfr wedi'i ddwyn. Dewch â'ch ffurflen wedi ei llenwi i'ch cangen leol neu cewch ei phostio i:  
Yr Adran Gynilion, Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ Principality, The Friary, Caerdydd, CF10 3FA.  

 

Os ydych yn poeni eich bod wedi dioddef twyll, neu yn pryderu am unrhyw drafodiadau ar eich cyfrif ffoniwch ni cyn gynted â phosibl ar 0330 333 4000.