Skip to content

Cymorth ychwanegol pan fyddwch ei angen

Cymorth ychwanegol

Anghenion cyfathrebu

Os ydych yn ei chael hi'n anodd clywed, gallwn ni helpu.  Mae gennym ddolenni clyw ym mhob un o’n canghennau, a ffyrdd eraill o helpu:

  • Gallwn ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid testun: Mae hyn yn trosi testun yn lleferydd, a lleferydd yn destun.
  • Gallwn siarad yn arafach ac yn gliriach: I'ch helpu os ydych chi'n darllen gwefusau.
  • Gallwn siarad â rhywun arall am eich cyfrif: Gallwch enwebu rhywun i siarad â ni am eich cyfrif ar eich rhan.
  • Gallwn wneud apwyntiadau'n hirach: Gallwn addasu hyd eich apwyntiad, fel bod mwy o amser i siarad.
  • Gallwn ddarllen gwybodaeth yn uchel: Byddwn yn darllen ffurflenni a dogfennau i chi, os gofynnwch i ni wneud hynny. 

Dywedwch wrth y staff yn eich cangen leol am eich anghenion neu cysylltwch â ni i roi gwybod i ni.  
 
Gallwch hefyd droi at sefydliadau fel y rhain am gymorth a chefnogaeth:

  • RNID: Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar - 0808 808 0123
  • BDA: Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain 

Lle bo modd, gallwn drefnu i gysylltu â chi ar adegau penodol o’r dydd (o fewn ein horiau agor).

Rhowch wybod i ni beth yw eich dewis o amser cyswllt.

Os nad ydych yn rhugl yn y Gymraeg na’r Saesneg, gallwn ni helpu. Rhowch wybod i ni os oes angen i ni: 

Siarad â rhywun arall am eich cyfrif: Gallwch enwebu rhywun i siarad â ni ar eich rhan am eich cyfrif.

Cysylltu â ni mewn ffyrdd gwahanol: Gallwch ymweld â ni mewn cangen, neu gallwn gysylltu â chi drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy'r post.

Siarad â chi ar adegau gwahanol: Gallwn gysylltu â chi ar adegau penodol ar ddiwrnod penodol (o fewn oriau agor).

Siarad â chi mewn ystafell breifat: Pan fyddwch yn ein canghennau, rhowch wybod i ni os hoffech siarad mewn ystafell breifat.

Gwneud apwyntiadau'n hirach: Gallwn wneud eich apwyntiadau yn hirach, felly does dim pwysau arnoch i ruthro.

 

Dywedwch wrth y staff yn eich cangen leol am eich anghenion neu cysylltwch â ni i roi gwybod i ni.

 

Gallwch hefyd droi at sefydliadau fel y rhain am gymorth a chefnogaeth:

Lle bo modd, gallwn anfon negeseuon yn eich dewis o fformat. Rhowch wybod i ni os byddai’n well gennych: 

  • braille  
  • print bras
  • sain

Rhowch wybod i ni sut yr hoffech i ni gysylltu â chi.

 

Mae ystafelloedd preifat yn ein canghennau y gallwch ofyn amdanynt am unrhyw reswm.

Pan fyddwch yn ymweld â ni, rhowch wybod i ni os byddai'n well gennych siarad â ni yn breifat.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd ein clywed neu ein deall pan fyddwn yn siarad â chi, byddwn yn gwneud ymdrech ychwanegol i siarad yn araf, yn uchel ac yn glir.

Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i ddefnyddio iaith syml i esbonio cysyniadau cymhleth hefyd.

Rhowch wybod i ni sut yr hoffech i ni gyfathrebu â chi.


 

 

Rydym yn awyddus i chi gymryd yr holl amser sydd ei angen arnoch. Ni ddylech byth deimlo fel eich bod yn cael eich rhuthro wrth siarad am eich arian.

Os oes angen ychydig mwy o amser arnoch i deimlo'n gyfforddus, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn trefnu eich apwyntiad. 

 

Atwrneiaeth

Beth i'w wneud 

Mae yna ychydig o ffyrdd o gofrestru ar gyfer Atwrneiaeth:

  • Trefnu apwyntiad gyda'ch cangen leol.
  • Postio eich dogfennau i Cymorth Arbenigol i Gwsmeriaid, Cymdeithas Adeiladu Principality, Blwch Swyddfa'r Post 89, Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA. 
  • E-bostio eich dogfennau i identification@principality.co.uk.

Pa ddogfennau fydd eu hangen arnoch: 

Mae angen i'r rhoddwr ddarparu:

  • Ei ddogfennau Atwrneiaeth. 
  • Ei baslyfr (os yw'n defnyddio un). 

Mae angen i'r atwrnai ddarparu:

Gallwch ofyn am gopi caled o’r ffurflen hon drwy ffonio 0330 333 4000 neu e-bostio enquiries@principality.co.uk. Os yw cyfreithiwr yn gweithredu fel atwrnai, bydd angen iddo anfon llythyr atom yn cadarnhau hyn ar ei bapur pennawd, tystysgrif ymarfer, neu un dull o adnabod enw.

 

Dogfennau adnabod y gallwn eu derbyn

Dyma rai enghreifftiau cyffredin o ddogfennau a ddefnyddir:

I gadarnhau enw

  • Pasbort cyfredol y DU wedi'i lofnodi. 
  • Trwydded yrru lawn gyfredol y DU neu drwydded bapur wedi'i llofnodi. 
  • Cerdyn Adnabod aelod-wladwriaeth yr UE/Pasbort yr UE.
  • Pasbort nad yw o’r UE a Fisa dilys. 

I gadarnhau cyfeiriad

  • Bil nwy a thrydan diweddar (llai na 3 mis yn ôl)
  • Bil dŵr diweddar (llai na 12 mis yn ôl).
  • Bil Treth yr Awdurdod Lleol (llai na 12 mis yn ôl)

Rydym hefyd yn derbyn mathau eraill o brawf adnabod. I gael rhestr lawn o ddogfennau adnabod y gallwn eu derbyn, lawrlwythwch ein taflen sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

 

Noder y gall yr atwrnai neu'r cwsmer agor cyfrif ar-lein; fodd bynnag, ar ôl cofrestru gydag Atwrneiaeth, bydd mynediad ar-lein yn cael ei ddileu.

 

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllaw cofrestru Atwrneiaeth.

I ddileu Atwrneiaeth, bydd angen i chi ddilyn y camau ar wefan y llywodraeth. Unwaith y bydd Atwrneiaeth wedi’i dileu, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiweddaru cyfrif y rhoddwr.

Efallai y byddwch angen rhywun i reoli eich arian ar eich rhan. Gallai hyn fod yn barhaol, neu am gyfnod byr.

Dyma rai o’r rhesymau y mae pobl yn dewis defnyddio Atwrneiaeth:

  • salwch
  • anabledd
  • byw dramor

Os cymhwysir Atwrneiaeth i gyfrif sydd gennych gyda ni, bydd angen i'r person sy'n gofalu am eich arian siarad â ni dros y ffôn neu mewn cangen i reoli eich materion ariannol. At ddibenion diogelwch, ni fydd yn gallu gofalu am eich arian ar-lein.

Beth sy’n digwydd os oes angen i chi reoli arian rhywun arall, ond nad oes ganddo’r galluedd meddyliol i gydsynio? Yn yr achosion hyn, bydd angen gorchymyn llys arnoch i roi’r awdurdod i chi reoli ei faterion.

 

Bydd angen i chi wneud cais drwy’r Llys Gwarchod i ddod yn ‘ddirprwy’. Ceir rhagor o wybodaeth yn www.gov.uk/become-deputy

 

Os nad oes angen atwrnai ar roddwr neu os nad yw eisiau atwrnai i weithredu ar ei ran mwyach, gellir dileu Atwrneiaeth. Dim ond tra bod gan y rhoddwr alluedd meddyliol o hyd y gellir gwneud hyn.

Mae Atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i rywun (yr atwrnai) weithredu ar ran person arall (y rhoddwr).

 

Mae hyn yn golygu y gall y rhoddwr roi'r pŵer i rywun arall wneud penderfyniadau am ei iechyd, ei les, ei eiddo a'i arian. Gall y rhoddwr hefyd ddewis enwebu mwy nag un atwrnai i weithredu ar ei ran.

 

Dim ond pan fydd gan y rhoddwr y galluedd meddyliol i gytuno y gellir caniatáu Atwrneiaeth. Os na all y rhoddwr wneud hyn, efallai y bydd angen i chi gael Gorchymyn gan y Llys Gwarchod.

 

Mathau o ddogfennau Atwrneiaeth

Atwrneiaeth Arhosol
Mae dau fath gwahanol o Atwrneiaeth Arhosol: un ar gyfer iechyd a lles, ac un ar gyfer eiddo a materion ariannol. Dim ond y ddogfen ‘eiddo a materion ariannol’ y byddai angen i ni ei gweld. Gallwch wneud cais a chofrestru am Atwrneiaeth Arhosol drwy ymweld â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Neu gallwch gyfarwyddo cyfreithiwr i wneud hynny ar eich rhan.

 
Atwrneiaeth Barhaus

Disodlwyd Atwrneiaeth Barhaus gan Atwrneiaeth Arhosol ym mis Hydref 2007. Gallwn barhau i dderbyn dogfennau Atwrneiaeth Barhaus ar yr amod bod gan y rhoddwr ei alluedd meddyliol o hyd. Os yw’r rhoddwr yn dechrau colli galluedd meddyliol, bydd angen cofrestru’r ddogfen Atwrneiaeth Barhaus â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus

 

Dyma’r ffyrdd mwyaf cyffredin i rywun weithredu ar ran unigolyn arall. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ffyrdd eraill. Gallwch bob amser cysylltu â ni am ragor o wybodaeth. 

Pryderon ariannol

Gall poeni am eich sefyllfa ariannol eich gadael yn teimlo'n unig. Ond nid ydych ar eich pen eich hun. Mae yna nifer o sefydliadau y gallwch geisio cyngor annibynnol ganddynt am ddim.

Os bydd angen cymorth brys arnoch, ffoniwch y Samariaid ar 116 123.  

 

Sefydliadau defnyddiol eraill:

Os ydych yn credu y gallech ei chael hi'n anodd talu'ch morgais, mae'n bwysig eich bod yn siarad â ni cyn gynted â phosibl. Peidiwch ag aros nes eich bod wedi methu taliad cyn i chi gysylltu. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu.
 
Cwblhewch gynlluniwr cyllidebu morgais cyn cysylltu â ni. Bydd hyn yn ein helpu i ddarparu'r opsiynau cymorth gorau i chi yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Yna dylech naill ai:

  • Anfon eich ffurflen wedi'i chwblhau i customersupportteam@principality.co.uk
  • Postio eich ffurflen i Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ Principality, Heol Tŷ’r Brodyr, Caerdydd, CF10 3FA. 
  • Ffonio ni ar 0330 333 4020 a gallwn drafod eich sefyllfa dros y ffôn.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau sut y gallwn helpu gydag ad-daliadau morgais a sut rydym yn cefnogi Siarter Morgeisi y Llywodraeth.

Mae amgylchiadau pawb yn wahanol, felly efallai na fydd rhai o'r opsiynau hyn yn addas i chi. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi pa effaith y byddai pob opsiwn yn ei chael arnoch, gan gynnwys yr hyn y gallai eich taliadau newid iddo ar ôl i'r cymorth ddod i ben. Bydd angen i chi fodloni ein meini prawf ar gyfer rhai o'r atebion sydd ar gael gennym. Ac er y gallwn gynnig atebion, ni allwn roi cyngor annibynnol i chi ar eich morgais a'ch arian.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau sut y gallwn helpu gydag ad-daliadau morgais a sut rydym yn cefnogi Siarter Morgeisi y Llywodraeth.

Efallai y gallwn eich cefnogi drwy: 

Atal eich taliadau am gyfnod byr
 

Ni fydd balans eich morgais yn gostwng, a chodir llog arnoch o hyd. Pan ddaw’r cyfnod gohirio taliad i ben, bydd eich taliad misol yn cynyddu i wneud yn siŵr eich bod yn dal i orffen eich morgais mewn pryd ac yn gwneud iawn am y taliadau a fethwyd.

 

Newid eich morgais un llog yn unig dros dro
Bydd hyn yn gostwng eich taliadau misol ond ni fydd balans eich morgais yn gostwng yn ystod y cyfnod hwnnw. Pan ddaw’r cyfnod llog yn unig dros dro i ben a phan fydd eich cyfrif yn cael ei newid yn ôl i ad-daliad, bydd eich taliadau newydd yn uwch nag yr oeddent yn flaenorol.

 

Ymestyn yr amser sydd gennych i ad-dalu eich morgais dros dro
Gallai hyn leihau eich taliadau am y cyfnod o amser y cytunwyd arno. Byddai'r dull hwn yn caniatáu i chi barhau i dalu llog a chyfalaf eich morgais, ond gyda thaliadau misol is. Pan ddaw hyn i ben, gallai eich taliad misol gynyddu, gan y bydd gennych lai o amser i'w ad-dalu.

 

Trefniant i ad-dalu unrhyw daliadau a fethwyd
Os ydych wedi methu taliadau a’ch bod yn gallu ad-dalu’r rhain erbyn hyn, gallem ddod i drefniant. Byddech yn talu eich taliad misol arferol, ynghyd â swm ychwanegol tuag at y taliadau a fethwyd bob mis.

 

Newid eich cynnyrch morgais Principality: 
Os yw'ch cynnyrch wedi dod i ben neu'n dod i ben, efallai y gallwch newid eich cynnyrch morgais Principality i ostwng eich cyfradd llog; hyd yn oed os ydych wedi methu taliadau. Os ydych wedi methu unrhyw daliadau morgais, ni fyddwch yn gallu gwneud hyn ar-lein; bydd angen i chi gysylltu â'n Tîm Morgeisi ar  0330 333 4030.  

Peidiwch â phoeni os byddwch ar ei hôl hi gyda’ch taliadau morgais. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu. Siaradwch â ni cyn gynted â phosibl a byddwn yn eich cefnogi i gael ateb. 
 
Ceisiwch gwblhau cynlluniwr cyllidebu morgais cyn cysylltu â ni. Bydd hyn yn ein helpu i ddarparu'r opsiynau cymorth gorau i chi yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Yna dylech naill ai:

  • Anfon eich ffurflen wedi'i chwblhau i      customersupportteam@principality.co.uk
  • Postio eich ffurflen i Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ Principality, Heol Tŷ’r Brodyr, Caerdydd, CF10 3FA. 
  • Ffonio ni ar 0330 333 4020 a gallwn drafod eich sefyllfa dros y ffôn. 

Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau sut y gallwn helpu gydag ad-daliadau morgais a sut rydym yn cefnogi Siarter Morgeisi y Llywodraeth.

Ceir llawer o wybodaeth yn y ganolfan gymorth hon am sut y gallwn eich cefnogi'n gyffredinol.

Os ydych yn gwsmer Nemo a'ch bod mewn trafferthion ariannol, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni. Byddwn yn gweithio gyda chi i'ch cefnogi.

Gallwch: 

  • Ffonio ni ar 0800 612 9982 - rhwng 9:30am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. 
  • E-bostio ni yn customersupportteam@nemoloans.co.uk
  • Ysgrifennu atom yn: Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ Principality, Heol Tŷ’r Brodyr, Caerdydd, CF10 3FA. 

Rydym hefyd yn argymell i chi lawrlwytho a chwblhau'r     cynlluniwr cyllidebu ar gyfer cwsmeriaid Nemo. 

Profedigaeth

Yn gyntaf, bydd angen i chi gofrestru'r farwolaeth gyda ni.  

Rydym ni yma i helpu os ydych chi'n profi profedigaeth. Yna, os ydych yn Gynrychiolydd Personol, gallwch wneud cais i godi arian o'r cyfrif i dalu am yr angladd, Treth Etifeddiant, profiant, neu ffioedd ardystio cyfreithwyr.

Bydd angen y canlynol arnom: 

  • Un math o brawf adnabod enw.  
  • Un math o brawf adnabod cyfeiriad. 

Gall y rhain fod yn ddogfen wreiddiol neu'n gopi. Nid oes angen copïau ardystiedig arnom mwyach. 

Rydym ni yma i helpu os ydych chi'n profi profedigaeth.

Mae Tanysgrifiadau Ychwanegol a Ganiateir (APS) yn caniatáu i chi etifeddu lwfans ISA a adawyd ar ôl gan eich priod neu bartner sifil.

Mae APS yn cyfeirio'n benodol at etifeddu lwfans ISA; nid y cronfeydd yn y cyfrif ISA.

Mae’r lwfans APS ar gael i chi o fewn 3 blynedd i farwolaeth eich priod neu bartner, neu 180 diwrnod ar ôl i’r gwaith o weinyddu’r ystad ddod i ben – pa un bynnag sydd hwyraf. Siaradwch â ni am etifeddu lwfans ISA drwy ffonio 0330 333 4000.  

Mae'n ddrwg gennym glywed am eich newyddion trist

Rydym ni yma i helpu os ydych chi'n profi profedigaeth. Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd. Pan fydd rhywun yn marw, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu i reoli'r arian. Dyma sut y byddwn yn eich cefnogi pan fydd rhywun yn marw

Mae'n ddrwg gennym am eich newyddion trist

Rydym ni yma i helpu os ydych chi'n profi profedigaeth. Mae’r hyn sy’n digwydd i gyfrif cynilo ar ôl i rywun farw yn dibynnu ar y math o gyfrif.

Cyfrifon sengl: Bydd y rhain yn parhau ar agor a bydd yr arian yn y cyfrif yn parhau i ennill llog nes bydd y cyfrif yn cael ei gau. Os yw'r cyfrif yn fond, gallwch ddewis ei gau'n gynnar heb golli llog. Os byddwch yn dewis cadw'r bond ar agor nes iddo aeddfedu, byddwn yn rhoi gwybod i chi ychydig wythnosau cyn i'r cyfrif gyrraedd aeddfedrwydd.

Cyfrfion ar y cyd: Unwaith y byddwch wedi cofrestru marwolaeth gyda ni, byddwn yn tynnu enw’r ymadawedig o’r cyfrif ac yn diwygio’r dogfennau perthnasol ar eich rhan.

Camfanteisio ariannol

Gall cam-drin ariannol ddigwydd ar sawl ffurf. A gall ddigwydd i unrhyw un, waeth beth fo'ch oedran, rhywedd, ethnigrwydd, dosbarth, crefydd neu anabledd.

Gall cam-drin ariannol gynnwys:

  • Eich atal rhag gweithio neu fynd i'ch swydd.
  • Gwneud i chi drosglwyddo rheolaeth dros eich cyfrifon banc.
  • Gwneud i chi egluro ar beth rydych wedi gwario eich arian.
  • Eich atal rhag prynu hanfodion.
  • Cymryd cardiau credyd neu fenthyciadau yn eich enw chi.
  • Gwario cyllideb eich cartref ar bethau eraill heb ddweud wrthych.
  • Codi arian o'ch cyfrif heb yn wybod i chi a heb eich caniatâd.

Os ydych yn meddwl bod rhywun rydych yn ei adnabod yn dioddef cam-drin ariannol, efallai y bydd angen rhywfaint o gefnogaeth arnoch i ofyn am help. Gallwch ddangos taflen 'It’s your money’ UK Finance iddo a'i annog i gysylltu â ni, ei fanc neu gymdeithas adeiladu, neu un o'r sefydliadau a restrir ar gefn y daflen.

Gall siarad am gam-drin gartref deimlo'n anodd, neu'n frawychus. Rydym ni yma i'ch cefnogi a rhoi opsiynau i chi. Ac ni fyddwn byth yn rhannu unrhyw wybodaeth a roddwch i ni â neb arall a enwir ar eich cyfrif.

Sut y gallwn eich helpu i adennill rheolaeth dros eich arian:

  • Byddwn yn gwrando arnoch i ddeall beth rydych chi'n mynd drwyddo.
  • Ni fyddwn byth yn eich barnu nac yn rhoi unrhyw bwysau arnoch.
  • Byddwn yn awgrymu ffyrdd y gallwn helpu.

Gallwn gynnig cymorth ymarferol i'ch helpu i gymryd rheolaeth o'ch arian unwaith eto. Gallai hyn gynnwys:

  • Eich helpu i ddeall y taliadau sy'n mynd i mewn ac allan o'ch cyfrif.
  • Rhoi gwybod i chi beth yw eich opsiynau os oes gennych gyfrif ar y cyd.
  • Sefydlu cyfrif cynilo newydd.
  • Anfon eich cyfriflenni i gyfeiriad gwahanol.
  • Eich helpu i ymdopi â dyledion. 
  • Cyfrifo cyllideb.
  • Rhoi gwybod i chi am sefydliadau eraill a all eich cefnogi a helpu i'ch cadw'n ddiogel. 

Pwysig: Os oes angen help arnoch ar frys, mae yna sefydliadau y gallwch gysylltu â nhw am gyngor:

Ddim yn barod i siarad? Lawrlwythwch y daflen hon gan UK Finance am enghreifftiau o gam-drin ariannol, sut y gallwn helpu, a rhestr o sefydliadau a all eich cefnogi pan fyddwch yn barod.

Hygyrchedd

Mae ein gwefan wedi'i hadeiladu i safonau hygyrchedd WCAG 2.0 AA. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen hygyrchedd.  

Lle bo modd, gallwn gyfathrebu gan ddefnyddio fformatau gwahanol, gan gynnwys:

  • braille  
  • print bras
  • sain

Dywedwch wrth staff eich cangen leol am eich anghenion neu cysylltwch â ni i roi gwybod i ni. 

Rydym am i chi deimlo'n gyfforddus yn ein canghennau. Felly, rydym yn cynnig ystod o nodweddion hygyrchedd er enghraifft:

  • mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn
  • dolenni sain
  • ystafelloedd preifat
  • amseroedd apwyntiad hirach
  • addasiadau i anifeiliaid gwasanaethu

Defnyddiwch chwilio am gangen i ddod o hyd i ganghennau lleol a chadarnhau eu nodweddion hygyrchedd. 

 

Rhowch wybod i ni os oes angen i ni wneud unrhyw un o'r pethau hyn i wneud eich profiad yn fwy hwylus:

Newid lleferydd yn destun: Mae'r gwasanaeth cyfnewid testun yn cynnig gwasanaethau trosi testun yn lleferydd a lleferydd yn destun i gwsmeriaid.

Cymorth os ydych yn darllen gwefusau: Gallwn wneud ymdrech i arafu ac ynganu ein geiriau.

Siarad â pherson arall am eich cyfrif: Gallwch enwebu rhywun i siarad â ni am eich cyfrif ar eich rhan.

Gwneud apwyntiadau'n hirach: Gallwn wneud eich apwyntiadau yn hirach, fel nad oes pwysau arnoch i ruthro.

Cymorth i reoli cyfrif

Pan fydd angen i chi lofnodi ffurflenni, gallwn ddangos i chi ble mae angen y llofnod.

Os na allwch lofnodi neu gynhyrchu llofnod cyson, mae gennym ffyrdd eraill y gallwch brofi pwy ydych.

Gallwn siarad â rhywun arall am eich cyfrif os na allwch reoli eich materion yn bersonol.

Rhowch wybod i ni os hoffech siarad â ni am opsiynau trydydd parti.

Efallai yr offech i rywun reoli eich arian ar eich rhan. Gallai hyn fod yn barhaol, neu am gyfnod byr. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yn adran ‘Atwrneiaeth’ y ganolfan gymorth hon.