Amddiffyn ein planed
Wedi ymrwymo i lunio’r dyfodol yn weithredol.
Sut rydym ni’n amddiffyn ein planed
-
Natur ac arloesi
Rydym yn cymryd cyfrifoldeb am ein hallyriadau, gan ganolbwyntio ar gael gwared ar garbon yn barhaol.
-
Lleihau ein hallyriadau
Fe wnaethom leihau ein hallyriadau carbon 2700 tunnell CO2e yn 2023.
-
Cronfa Werdd o £20 miliwn
Rydym yn cynorthwyo datblygwyr i adeiladu cartrefi fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni.
-
Defnyddio ynni adnewyddadwy
Rydym wedi newid i ddefnyddio trydan adnewyddadwy a nwy gwyrdd.
Rydym yn ystyriol o’n heffaith ar fyd y presennol a’r dyfodol. Felly, ni fyddwn yn sefyll o’r neilltu ac yn aros i rywun arall drwsio’r broblem. Rydym ni’r math o bobl sy’n torchi ein llewys ac yn gweithio’n galed i gael effaith ystyrlon a mesuradwy lle gallwn wneud hynny, a dysgu yn y broses.
Rydym wedi addo cyrraedd sero net erbyn 2040 (ac eithrio ein llyfr morgeisi), gan leihau carbon o leiaf 50% erbyn 2030.
Felly dyma sut rydym yn rhedeg ein busnes gydag uniondeb, gan wneud cynaliadwyedd amgylcheddol yn fwy nag ymarfer blwch ticio, ac yn chwarae ein rhan i wneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo.
Gweithredu
Rydym yn adolygu’n barhaus yr hyn y gallwn ei wneud yn wahanol, neu’n well:
Arbed ynni
- Mae ein swyddfa yn defnyddio goleuadau, gwres, awyru, a phŵer effeithlon o ran ynni.
- Mae ein canghennau yn defnyddio goleuadau a synwyryddion symudiadau LED ynni isel.
- Bydd pob cerbyd diesel yn ein fflyd yn cael ei ddisodli erbyn diwedd 2024.
Gostwng gwastraff yn sylweddol
- Rydym yn monitro ac yn lleihau’r hyn yr ydym yn ei argraffu yn ein swyddfa a’n canghennau.
- Rydym yn gweithio’n galed yn y cefndir i leihau faint o bapur rydym yn ei anfon at ein cwsmeriaid.
- Mae gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei droi’n ynni ble bynnag y bo’n bosibl.
- Rydym yn cyfnewid cyfrifiaduron personol a gliniaduron am ddyfeisiau mwy effeithlon o ran ynni.
- Rydym yn ailgylchu neu’n rhoi ein hen offer.
Dysgu a rhannu
- Rydym i gyd yn cael ein hyfforddi mewn ymwybyddiaeth carbon, felly mae gwneud dewisiadau doeth o ran yr hinsawdd yn ail natur.
- Mae ein Rhwydwaith Ystyriol o’r Blaned a redir gan gydweithwyr yn rhannu cyngor ar ffordd o fyw sy’n defnyddio llai o garbon.
- Mae gennym dîm Effaith pwrpasol ac mae ‘Cynaliadwyedd trwy Ddylunio’ wedi’i ymwreiddio yn ein hystyriaethau busnes.
Ffurfio partneriaethau pwrpasol
- Rydym yn gweithio gyda ClimatePartner i gasglu data, i fesur ein hôl troed carbon ac i gymryd cyfrifoldeb am ein hallyriadau.
- Rydym yn gweithio gyda Hellios i leihau effaith amgylcheddol ein partneriaid cadwyn gyflenwi.
- Rydym yn gweithio gydag UNDO ar gefnogi atebion cael gwared ar garbon byd go iawn, parhaol, fel hindreuliad craig uwch.
- Rydym yn gweithio gyda datblygwyr cynaliadwy i ariannu datblygiad tai carbon isel yn weithredol
Sylwer nad yw Principality yn gyfrifol am gynnwys ar wefannau allanol eraill.
Felly, sut ydym ni’n gwneud?
Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw am ein taith gynaliadwyedd. Rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn mesur ein cynnydd ac yn rhannu ein canlyniadau yn agored.
-
Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy’n Gysylltiedig â’r Hinsawdd 2023
PDF - 5.15MB (Yn agor mewn tab newydd)
-
Polisi cynaliadwyedd
PDF - 168 KB (Yn agor mewn tab newydd)