Skip to content
Log in

Gwybodaeth i Drawsgludwyr

Gwybodaeth i ymarferwyr cyfreithiol sy'n trawsgludo ar gyfer cwsmeriaid Principality.


Gwybodaeth

Rhowch o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd i ni o’r dyddiad cwblhau pan fyddwch yn cyflwyno Tystysgrif Teitl (COT). Bydd hyn yn ein galluogi i drefnu i dalu arian ymlaen llaw mewn pryd ar gyfer cwblhau.

Os nad oes gennych fynediad i'r porth, neu os oes angen cymorth arnoch i gwblhau'r ddogfen, gallwch gysylltu â Smoove am gymorth.


Manylion cyswllt Smoove

Ffôn: 01844 390821

E-bost: panelmanager@hellosmoove.com

 

Gallwch ddiweddaru'r manylion banc ar y Dystysgrif Teitl (COT) drwy e-bostio panelmanager@hellosmoove.com 

Rhaid cwblhau ar y dyddiad y daw’r cynnig morgais i ben neu cyn y dyddiad hwnnw. Os oes angen estyniad arnoch, e-bostiwch completes@principality.co.uk gan roi gwybod i ni pam y mae angen yr estyniad arnoch a beth yw'r dyddiad cwblhau amcangyfrifedig.

Os bydd y cwblhau yn digwydd o fewn 2 ddiwrnod gwaith i gael yr arian, nid oes angen i chi roi gwybod i ni.

Os bydd yr oedi cyn cwblhau y tu hwnt i 2 ddiwrnod gwaith i gael yr arian, anfonwch yr arian yn ôl yn electronig, ni waeth beth yw'r dyddiad y daw'r cynnig morgais i ben.


Er mwyn dychwelyd arian drwy CHAPS defnyddiwch y manylion canlynol:

Banc: Barclays

Cod didoli: 201823

Cyfrif: 70653497



Er mwyn osgoi unrhyw oedi neu daliadau aflwyddiannus, dyfynnwch gyfeirnod y morgais



Mae ein panel o gyfreithwyr a thrawsgludwyr trwyddedig yn cael ei reoli gan gwmni o’r enw Smoove. Mae'n ymdrin â phob ymholiad cofrestru. Cysylltwch â Smoove er mwyn cael eich ystyried ar gyfer ein panel.


Manylion cyswllt Smoove

Ffôn: 01844 390821
E-bost: panelmanager@hellosmoove.com

Anfonwch geisiadau am adbryniant i:
redstatsrequests@principality.co.uk
 
Os oes angen adbryniant o fewn y 5 diwrnod gwaith nesaf, ffoniwch ni ar:
0330 333 4000.
 
Dylid gwneud taliadau drwy CHAPS neu Gredyd Uniongyrchol. 
Ein manylion banc yw:
Banc: Barclays
Cod didoli: 201823
Rhif y cyfrif: 10595071
 
Er mwyn osgoi oedi neu daliadau aflwyddiannus, dyfynnwch rif cyfeirnod yr adbryniant. Gweler hyn ar ddatganiad yr adbryniant.



Gellir hepgor Taliadau Ad-dalu’n Gynnar (ERC) os yw:

  • Swm benthyciad y morgais newydd yr un faint neu’n uwch na’r hen forgais.
  • Cyfradd llog y morgais newydd yr un fath â’r hen forgais; oni bai bod cyfradd llog yr hen forgais wedi dod i ben neu y bydd yn dod i ben o fewn y 3 mis nesaf.

Os yw'r benthyciad yn llai ar y morgais newydd, bydd tâl pro-rata yn berthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0330 333 4000.

Cysylltu â'r tîm

Os nad yw'r wybodaeth uchod yn ateb eich ymholiadau, gallwch ein ffonio ar 0330 333 4000.

Mae ein llinellau ffôn ar agor:

O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9:30yb - 5yh

Dydd Sadwrn: 9yb - 1yh