Morgeisi Eiddo Prynu i Osod a Llety Gwyliau
Prynu eiddo i'w osod neu newid eich morgais Prynu i Osod.
Prynu Eiddo i'w Osod neu Lety Gwyliau
Os ydych chi'n bwriadu prynu eiddo i'w osod, mae ychydig o bethau y mae angen i chi eu hystyried.
-
Nid yw morgeisi Prynu i Osod a Llety Gwyliau yn cael eu rheoleiddio, felly ni all cynghorydd morgais roi cyngor i chi ar forgeisi addas.
-
Ni ddylech fod yn berchen ar fwy na 3 eiddo Prynu i Osod neu 2 eiddo Llety Gwyliau os ydych yn dymuno gwneud cais am forgais gyda ni.
-
Rydym yn derbyn prynwyr a landlordiaid tro cyntaf.
-
Rhaid i chi fod yn 21 oed neu'n hŷn.
-
Yr uchafswm benthyciad i werth (LTV) y gallwn ei gynnig yw 75%.
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod cyn ffonio
-
Pris a blaendal ar gyfer y cartref rydych chi eisiau ei brynu.
-
Maint eich portffolio.
-
Lleoliad y tŷ rydych yn dymuno ei brynu. Rydym ond yn cynnig morgeisi ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr.
-
Yr isafswm incwm rhent disgwyliedig.
Sut i symud eich morgais Prynu i Osod neu eiddo Llety Gwyliau
-
Symud eich morgais Prynu i Osod ar-lein
Gallwch symud eich morgais Prynu i Osod trwy fewngofnodi i'ch proffil ar-lein. Ni allwch symud eich morgais eiddo Llety Gwyliau ar-lein.
-
Siaradwch â ni am symud morgais
I symud eich morgais Llety Gwyliau, neu os ydych eisiau siarad â ni am eich morgais Prynu i Osod, gallwch ein ffonio. Ni allwn roi cyngor ond gallwn eich helpu pob cam o'r ffordd.
Atebion i’ch cwestiynau
- Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob eiddo Prynu i Osod fod ag EPC dilys.
- Gofyniad gan Principality yn unig yw i bob Llety Gwyliau fod ag EPC dilys.
Maent yn ddilys am 10 mlynedd a'r isafswm gofynnol yw ‘E’.
Mae tystysgrifau EPC yn cael eu cofnodi ar y wefan llywodraeth hon fel y gall pawb eu gwirio. Dod o hyd i dystysgrif ynni.
Prynu i Osod
- Byddwn ond yn rhoi benthyciad i eiddo y gellir eu gosod ac sydd mewn cyflwr sy'n caniatáu i rywun fyw yno ar unwaith.
- Ni fyddem yn rhoi benthyciad, er enghraifft, ar 'brosiect datblygu' lle mae angen i gwsmer adnewyddu'r eiddo cyn ei rentu allan.
- Uchafswm o 3 eiddo Prynu i Osod cymwys (gan gynnwys yr ymholiad newydd)
Eiddo Llety Gwyliau
- Byddwn ond yn rhoi benthyciad i eiddo y gellir ei osod ac sydd mewn cyflwr sy'n caniatáu i rywun aros yno ar unwaith.
- Ni fyddem yn rhoi benthyciad, er enghraifft, ar 'brosiect datblygu' lle mae angen i gwsmer adnewyddu'r eiddo cyn ei rentu allan.
- Ni ellir bod ag unrhyw amodau cyfyngol ar ddefnydd, er enghraifft nid yw rhai parciau gwyliau yn caniatáu i rywun fyw yno am 12 mis o'r flwyddyn.
- Uchafswm o 2 Lety Gwyliau (gan gynnwys yr ymholiad newydd)
Eiddo Lesddaliad
- Isafswm y cyfnod sy'n weddill yw 85 mlynedd ar adeg gwneud cais.
Fflatiau/Maisonettes
- Ni fyddwn yn rhoi benthyciad i eiddo mewn bloc sydd â mwy na 10 llawr.
- Os yw'r eiddo yn un a arferai fod yn un awdurdod lleol / cymdeithas dai, yna gellir ystyried y rhain yn amodol ar sylwadau priswyr.
Os na fyddwch yn talu taliadau eich morgais, gellir penodi 'derbynnydd rhent' a/neu gellir adfeddiannu eich eiddo rhent.