Eich proffil ar-lein
Mewngofnodwch i'ch proffil ar-lein
Nodwch eich ID defnyddiwr a'ch cyfrinair i fewngofnodi i'ch proffil ar-lein.
Sefydlu proffil ar-lein
Cofrestrwch er mwyn gwneud y canlynol:
- Gweld a rheoli'ch holl cyfrifon Principality
Gwneud taliadau o'ch cyfrifon
- Rhoi cyfarwyddiadau aeddfedu pan ddaw cyfnod eich cyfrif i ben
Da gwybod
Dyma ychydig o bethau defnyddiol y gallech fod eisiau eu gwybod cyn i chi gofrestru.
Gyda phroffil ar-lein, gallwch wneud y canlynol:
- Gweld eich cyfrifon cynilo a morgais, gan gynnwys eich balans cyfredol, cyfraddau llog a thrafodion diweddar.
- Symud arian rhwng eich cyfrifon cynilo Principality.
- Trosglwyddo arian i gyfrif cynilo arall yn eich enw.
- Diweddaru eich manylion personol.
- Ail-enwi eich cyfrif cynilo i rywbeth sy'n golygu mwy i chi.
- Creu nod cynilo er mwyn helpu i gadw'ch cynilion ar y trywydd iawn.
- Newid sut mae gwybodaeth farchnata yn cael ei hanfon atoch.
- Defnyddio ‘Negeseuon’ i wneud pethau fel newid manylion eich debyd uniongyrchol.
- Cwblhau cyfarwyddiadau aeddfedu cyfrif cynilo.
Sefydlu eich proffil ar-lein
Bydd angen y canlynol arnoch cyn cofrestru:
- Rhif eich cyfrif Principality.
- Rhif ffon symudol.
- Eich cyfeiriad e-bost.
Er diogelwch, dim ond chi all ddefnyddio eich e-bost a'ch rhif ffôn symudol.
Unwaith y bydd y manylion hyn gennych, gallwch ddechrau ar-lein drwy lenwi ychydig o fanylion personol a gosod eich cyfrinair.
Byddwn yn e-bostio copi o'ch manylion defnyddiwr atoch ac yn anfon cod actifadu atoch yn y post. Dylai gyrraedd o fewn 7 diwrnod.
Actifadu eich proffil ar-lein
Unwaith y byddwch yn cael eich cod actifadu, bydd angen i chi fewngofnodi i'ch proffil ar-lein gan ddefnyddio eich ID defnyddiwr a'ch cyfrinair. Gofynnir i chi ofyn am god mynediad a fydd yn cael ei anfon at y rhif ffôn symudol a ddarparwyd gennych wrth sefydlu eich proffil.
Yna gallwch chi nodi eich cod actifadu i actifadu eich proffil ar-lein.
Os oes angen help arnoch, ffoniwch ni ar 0330 333 4000.
Cadw'n ddiogel ar-lein
Defnyddio cyfrinair cryf
Dylai eich cyfrinair gynnwys 10 nod neu fwy, gan gynnwys priflythrennau, symbolau a rhifau. Ni ddylai eich cyfrinair gynnwys eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad, nac unrhyw fanylion y gallech eu defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol.
Gosod cwestiynau diogelwch
Gallwch ddefnyddio cwestiynau diogelwch i ailosod eich cyfrinair os ydych chi wedi'i anghofio.
Defnyddio rhif ffôn symudol personol
Mae angen rhif ffôn symudol personol arnoch i gael mynediad i'ch proffil ar-lein. (Rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer gwiriad diogelwch hanfodol).
Os nad oes gennych ffôn symudol personol, gallwch ein ffonio ni ar 0330 333 4000 i reoli eich cyfrif dros y ffôn neu ymweld â'ch cangen leol. Os yw eich cyfrif cynilo yn gyfrif 'ar-lein yn unig' bydd angen i chi ffonio yn lle ymweld â changen.
Sut rydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel
Mae pob banc a chymdeithas adeiladu yn y DU yn cynnal gwiriadau diogelwch ychwanegol i'ch helpu i gadw'n ddiogel wrth reoli'ch cyllid ar-lein. Fe'i gelwir yn Ddilysu Cwsmeriaid Cryf (SCA) ac mae'n helpu i brwydro yn erbyn twyll a gwella diogelwch taliadau ar-lein.
Pan fyddwch yn mewngofnodi i'ch proffil ar-lein a phan fyddwch yn symud arian, rydym yn sicrhau mai chi ydyw mgo iawn drwy wirio pwy ydych chi. Byddwn yn gofyn rhywbeth rydych yn ei wybod (fel cyfrinair cryf neu'r ateb i gwestiwn diogelwch os byddwch yn anghofio'ch cyfrinair) a rhywbeth sydd gennych chi (dyna pam rydyn ni'n anfon cod pas i'ch ffôn symudol).
Mae'n bwysig mai eich rhif ffôn symudol yn unig yw'r un rydych yn ei ddefnyddio i gofrestru, ac nad yw'n cael ei rannu a neb arall.
Dyma beth i'w wneud os ydych wedi anghofio'ch manylion defnyddiwr a'ch cyfrinair:
- Cam 1: Gofyn am nodyn atgoffa ar gyfer eich manylion defnyddiwr. Byddwn yn ei e-bostio atoch ar unwaith.
- Cam2: Ailosod eich cyfrinair. (Bydd angen eich atebion i'r cwestiynau diogelwch a osodwyd gennychadeg cofrestru eich proffil ar-lein.
Os ydych wedi newid eich rhif ffôn symudol: Mae angen rhif ffôn symudol cyfredol arnom i anfon cod mynediad unigryw atoch bob tro y byddwch yn mewngofnodi. Os oes angen i chi ddiweddaru'r rhif ffôn sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif, ffoniwch ni ar 0330 333 4000 a byddwn yn diweddaru eich manylion.
Os ydych chi'n dal i gael trafferth mewngofnodi, neu os ydych chi'n cael hysbysiad yn dweud eich bod chi wedi'ch 'cloi allan', ffoniwch ni ar 0330 333 4000.
Os yw eich cyfrif cynilo gyda ni yn cyrraedd diwedd ei gyfnod, bydd angen i chi benderfynu beth i'w wneud â'ch arian nesaf.
Gallwch wneud hyn drwy eich proffil ar-lein 14 diwrnod cyn eich dyddiad aeddfedu.
Gallwch naill ai:
- Symud eich arian i gyfrif cynilo newydd.
- Codi rhywfaint o arian a symud y gweddill i gyfrif cynilo newydd.
- Codi'ch holl arian a chau'r cyfrif
Byddwn hefyd yn anfon gwybodaeth atoch am aeddfedu eich cyfrif cynilo yn y post.