Skip to content

Faint y gallaf ei fenthyca ar gyfer morgais?

Couple at their dining table. One man holds his phone and a card and the other man holds calculator

Yn y canllaw hwn

Deall eich pŵer benthyca

Cyn i chi gwympo mewn cariad ag eiddo, mae'n ddefnyddiol gwybod beth allech chi ei fforddio. I ddechrau, rhaid deall faint y gallai benthyciwr morgais ei gynnig i chi, Mae gwybod eich pŵer benthyca yn eich help i wneud y canlynol:

  • Gosod nod cynilo realistig ar gyfer eich blaendal.
  • Deall eich ystod prisiau bosibl.
  • Chwilio'n graff; edrych ar gartrefi o fewn eich cyllideb.
Awgrym sydyn: Y swm y gallwch ei fenthyca + eich blaendal = eich ystod prisiau amcangyfrifedig.
Swm y gallwch ei fenthyca + blaendal y gallwch ei gynilo = syniad bras o'ch ystod o an pris

Beth sy'n effeithio ar faint allwch chi ei fenthyg?

Mae benthycwyr morgeisi yn ystyried ychydig o bethau i benderfynu faint maent yn fodlon ei fenthyca i chi. Pethau fel:

  • Eich incwmNeu eich incwm cyfunol os ydych yn prynu gyda rhywun arall
     
  • Eich gwariant rheolaidd. Pethau fel costau gofal plant, taliadau cerdyn credyd, neu ad-daliadau benthyciadau.
     
  • Maint eich blaendalPo fwyaf yw eich blaendal, yr isaf yw eich Benthyciad mewn Cymhariaeth â Gwerth (LTV). A gorau oll fydd eich siawns o gael cyfradd fwy cystadleuol gan eich benthyciwr.
  • Eich sgôr credyd. Gall gynnal sgôr credyd iach roi sicrwydd i fenthycwyr eich bod yn gyfrifol yn ariannol.

Cyfrifo beth y gallech ei fforddio

Nid oes angen cyfrifiannell morgeisi ffansi arnoch i gael syniad o'ch ystod prisiau. Gofynnwch i chi'ch hun:

  • Faint y gallaf ei gynilo ar gyfer blaendal?
  • Pa ad-daliadau misol fyddwn i'n teimlo'n gyfforddus â nhw?
  • Pa gytundebau morgais sydd ar gael i mi?

Gall ein chwiliwr morgeisi eich helpu i weld pa gytundebau y gallech wneud cais amdanynt gyda Principality. Nodwch werth yr eiddo a swm eich blaendal i bori ein morgeisi preswyl.

Cyfrifo beth y gallech ei fforddio: enghraifft

Mae Max a Jaime yn brynwyr tro cyntaf, ac yn ennill £28,000 a £30,000 y flwyddyn.

Nid oes ganddynt unrhyw ddyledion mawr.

  • Yn seiliedig ar eu hincwm cyfunol o £58,000, efallai y gallant fenthyca tua £250,000.
  • Gyda blaendal o £15,000, gallant edrych ar gartrefi gwerth tua £265,000.

Amcangyfrif yw hwn yn unig. Gallai Penderfyniad o ran Egwyddor (DIP) roi syniad well i chi o beth y gallwch ei fenthyca yn seiliedig ar eich sefyllfa ariannol.

A collective of 3 illustrated sparkle highlights together. (welsh)

Pori morgeisi

Llenwch ychydig o fanylion ac fe ddangoswn ni forgeisi y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer a syniad o faint y gallai eich taliadau morgais misol fod.