Skip to content

Pam ddylwn i ddeall fy sgôr credyd?

Two women sit at a desk. One woman is showing her phone screen to another and pointing.

Yn y canllaw hwn

Mae benthycwyr yn defnyddio eich sgôr credyd i benderfynu pa mor ddibynadwy ydych chi wrth fenthyca ac ad-dalu arian. Gall effeithio ar a ydych yn cael eich cymeradwyo i gael credyd; a faint y gallai benthyca ei gostio i chi.

Beth yw sgôr credyd?  

Sgôr credyd yw rhif 3 digid y mae benthycwyr yn ei ddefnyddio i ganfod pa mor ddibynadwy ydych chi wrth ad-dalu unrhyw arian rydych yn ei fenthyca. Mae'n seiliedig ar eich hanes ariannol ac yn berthnasol i forgeisi, cardiau credyd, a benthyciadau.

Mae benthycwyr yn defnyddio'ch sgôr credyd i benderfynu: 

  • A ddylid cymeradwyo'ch cais i fenthyca arian.
  • Faint i roi benthyg i chi. 
  • Pa gyfradd llog i'w chynnig

Sut ydw i'n gwirio fy sgôr credyd?  

Gallwch wirio'ch sgôr credyd am ddim drwy asiantaethau gwirio credyd. Yn y DU, ceir tair prif asiantaeth: 

Beth mae fy sgôr credyd yn ei olygu?  

Mae'r sgorau credyd fel arfer yn defnyddio system sgorio yn amrywio o wael i ardderchog.

  • Gallai sgôr credyd gwael olygu bod benthycwyr yn eich ystyried yn risg uwch. Gallai hyn ei gwneud hi'n anoddach i chi gael cais wedi'i gymeradwyo, neu efallai y cewch gynnig credyd gyda chyfradd llog uwch (a fyddai'n golygu y bydd benthyca'n costio mwy i chi).
  • Mae sgôr ardderchog yn dweud wrth fenthycwyr eich bod yn fwy tebygol o ad-dalu ar amser. Mae hyn yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch yn cael cynnig cytundebau gwell neu derfynau credyd uwch.

Sut ydw i'n gwella fy sgôr credyd? 

Pam mae hyn yn bwysig:

Gallai gwella eich sgôr credyd eich helpu chi: 

  • I gael cytundebau gwell
  • I gymhwyso ar gyfer cyfraddau llog is
  • Gwella eich newidiadau o gael eich cymeradwyo ar gyfer morgais neu fenthyciad

Beth alla i ei wneud? 

Efallai yr hoffech wella'ch sgôr credyd cyn gwneud cais i fenthycwyr. Mae yna rai camau y gallwch eu cymryd a allai helpu i wella'ch sgôr:

  • Talu'ch biliau a'ch ad-daliadau i gyd ar amser.
  • Gwirio'ch adroddiad credyd am unrhyw gamgymeriadau a'u cywiro.
  • Cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad cyfredol.
  • Osgoi gwneud llawer o geisiadau credyd mewn cyfnod byr.
  • Defnyddio rhywfaint o'r credyd sydd ar gael i chi bob mis, ond nid y credyd i gyd.
  • Cau unrhyw hen gyfrifon credyd neu gyfrifon credyd nas defnyddiwyd os nad oes eu hangen arnoch mwyach.

Beth sy'n effeithio ar eich sgôr credyd? 

Gall nifer o bethau effeithio ar eich sgôr credyd, gan gynnwys:

  • Dim neu fawr ddim hanes credyd.
  • Methu taliadau neu dalu'n hwyr.
  • Gwneud gormod o geisiadau credyd mewn cyfnod byr.
  • Peidio â diweddaru'ch cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol ar ôl symud.
  • Defnyddio'ch credyd i gyd bob mis.
  • Peidio â chau hen gyfrifon credyd neu gyfrifon credyd segur.
An illustrated floating speech bubble. (Welsh)

Y camau nesaf

Cymharwch ein cynhyrchion morgais neu cysylltwch â'n harbenigwyr morgeisi.