Eich diogelwch ar-lein
Sut i gadw'ch hun yn ddiogel ar-lein.
Y camau rydyn ni'n eu cymryd i'ch amddiffyn chi
Gohebiaeth drwy e-bost
Mae Principality wedi cymryd camau i ddiogelu ein e-bost ond mae risgiau bob amser i gyfathrebu drwy'r dull hwn. Os byddwch yn dewis cyfathrebu â ni drwy e-bost, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y risg o wneud hynny.
Eich data
Mae unrhyw wybodaeth rydym yn ei chasglu a'i throsglwyddo, os ydych wedi dewis gwneud hynny, yn cael ei diogelu ar yr un lefel reoleiddiol. Darperir rhai o'n gwasanaethau gan gyflenwyr sydd naill ai y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu a all drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i'r AEE (er enghraifft, asiantaethau atal twyll, gwasanaethau e-bost, gwasanaethau cynnal cwmwl, gweinyddwyr wrth gefn neu wasanaethau adfer ar ôl trychineb). Mae ein contractau gyda'r cyflenwyr hyn yn nodi bod yn rhaid iddynt fodloni'r un safonau diogelu ag sy'n ofynnol yn yr AEE.
Cysylltiad diogel
Mae unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei hanfon atom pan fyddwch ar ein gwefan yn cael ei throsglwyddo gan ddefnyddio HTTPS, sy'n gysylltiad diogel. Mae gwybodaeth rydych yn ei hanfon neu'n ei derbyn drwy eich cyfrif yn cael ei chadw'n ddiogel drwy amgryptio. Mae hyn yn atal unigolion anawdurdodedig rhag cael mynediad i'ch data.
Os nad ydych yn siŵr a yw HTTPS yn weithredol, cadwch lygad am "https" ar ddechrau'r cyfeiriad gwe a'r clo clap sydd wedi'i leoli yn eich bar cyfeiriad gwe.
Noder: Gall y clo clap ymddangos yn wahanol ar bob porwr.
Os nad ydych yn gweld "https" neu glo clap, fe'ch cynghorir i beidio â pharhau na rhoi gwybodaeth sensitif e.e. enw defnyddiwr a chyfrinair a'ch bod yn gadael y safle. Mae hyn oherwydd y gallai fod yn wefan sy'n dynwared Principality.
Os byddwch yn gweld http yn lle https ar ddechrau cyfeiriad / url y wefan, mae hon yn dudalen we anniogel, ac ni ddylech rannu gwybodaeth bersonol.
Cadw eich hun yn ddiogel ar-lein
Rydym am i chi gadw'n ddiogel wrth ddefnyddio Eich Cyfrif
Mae holl fanciau a chymdeithasau adeiladu'r DU yn cynnal gwiriadau diogelwch ychwanegol a elwir yn gyffredin fel Dilysiad Cwsmer Cryf (SCA). Mae SCA wedi'i gynllunio i helpu pob un ohonom i wrthsefyll twyll a gwella diogelwch taliadau ar-lein. Mae'r broses hon yn sicrhau mai chi ydyw mewn gwirionedd ac fe'i gelwir yn ddilysiad dau ffactor (2FA), sy'n gofyn i gwsmer am ddau o'r tri chategori a ddangosir isod i gadarnhau mai chi ydyw.
1. Rhywbeth rydych chi'n ei wybod
Cyfrinair: Dylai cyfrinair cryf fod â 10 neu fwy o gymeriadau; gan gynnwys priflythrennau, symbolau a rhifau.
Cwestiwn diogelwch: Rhaid i gwsmeriaid cofrestredig Eich Cyfrif ddewis 3 chwestiwn diogelwch, rhag ofn iddynt anghofio eu cyfrinair.
2. Rhywbeth sydd gennych
Byddwn yn anfon cyfrinrif i'ch ffôn symudol pan fyddwch yn mewngofnodi i'ch cyfrif, felly mae'n bwysig bod gennym y rhif cywir. Mae'n rhaid i'r ffôn symudol hwn fod yn eiddo i chi ac ni ddylid ei rannu â neb arall. Os nad oes gennym eich rhif cyfredol, ni allwn anfon cyfrin rif atoch ac ni fyddwch yn gallu mewngofnodi.
3. Rhywbeth yr ydych
Mae rhai banciau ar y stryd fawr wedi dechrau defnyddio diogelwch biometrig e.e. rhywbeth yr ydych chi. Gall hyn fod yn sganiau retinol neu wyneb, adnabod llais neu olion bysedd. Mae gan y rhan fwyaf o ffonau symudol ryw fath o opsiynau biometrig sydd ar gael at ddibenion diogelwch. Ar hyn o bryd, mae SCA y Principality ond yn defnyddio'r ddau gategori cyntaf pan fyddwch chi'n mewngofnodi i Eich Cyfrif a phan fyddwch chi'n symud arian i'ch cyfrif cysylltiedig.
Mae cyfrineiriau yn rhan hanfodol o ddiogelwch cyfrifiadur. Gall cyfrineiriau gwan nawr gael eu peryglu ar unwaith gan unigolion maleisus gyda meddalwedd awtomataidd.
Beth allwch chi ei wneud i greu cyfrinair cryf?
Pethau i’w gwneud
- Defnyddiwch 10 nod neu fwy o lythrennau alffaniwmerig, dylai eich cyfrinair yn ddelfrydol fod cyhyd ag y bo modd, ac aros yn gofiadwy.
- Defnyddiwch o leiaf un prif lythyren.
- Defnyddiwch o leiaf un rhif.
- Defnyddiwch o leiaf un cymeriad arbennig (e.e. @, #, $, %, * a +).
- Defnyddiwch ymadrodd sy'n cynnwys geiriau nad ydynt yn gysylltiedig. Er enghraifft, gallech gyfuno 3 gair gyda'i gilydd, pizza, eira a char i greu
pizz@e1raCar!
. - Newidiwch eich cyfrinair ar unwaith os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn gwybod beth ydyw.
Pethau i beidio â’u gwneud
- Defnyddio gwybodaeth bersonol (e.e. penblwyddi, cyfeiriadau, rhifau ffôn ac enwau'r teulu neu anifeiliaid anwes).
- Ailgylchu cyfrineiriau (e.e.
Cyfrinair1
iCyfrinair2
). - Rhannu cyfrineiriau â ffrindiau, teulu neu gydweithwyr.
- Rhannu eich cyfrinair â busnesau – ni fydd busnesau cyfreithlon, gan gynnwys Principality, byth yn gofyn i chi am eich cyfrinair.
- Nodi cyfrineiriau ar bapur.
- Defnyddio'r un cyfrinair ar gyfer sawl cyfrif.
- Defnyddio gwybodaeth sy’n gysylltiedig â gwaith megis enwau adeiladau, gorchmynion system, cwmnïau, caledwedd, neu feddalwedd.
Gall defnyddio cysylltiad anniogel olygu y gall pobl wrando ar eich gweithgarwch ar y rhyngrwyd, a allai gynnwys data sensitif personol.
Bydd defnyddio gwefannau gyda'r symbol clo clap yn eich bar cyfeiriad gwe, yn helpu i ddiogelu eich gwybodaeth.
Gwnewch yn siŵr:
- Eich bod yn cau'r porwr ar ôl i chi gwblhau eich trafodiad neu eisiau cymryd seibiant (bydd gan y rhan fwyaf o wasanaethau ar-lein dilys derfyn amser).
- Nad ydych yn defnyddio cyfrifiadur cyhoeddus i gael mynediad i'ch cyfrifon ar-lein oherwydd ni allwch fod yn sicr ei fod yn ddiogel. Gallai gael ei heintio â feirws a fydd yn ceisio casglu eich cyfrinair neu wybodaeth bersonol arall.
- Eich bod yn defnyddio cyfrif e-bost nad yw'n cael ei rannu ag aelodau eraill o'r teulu i gadw eich gohebiaeth yn gyfrinachol.
Gall cysylltu â rhwydwaith Wi-Fi cyhoeddus fod yn ddefnyddiol, ond mae'n peri risgiau diogelwch:
- Os nad yw'r cysylltiad yn ddiogel, gallai unrhyw un yn yr ardal gyfagos sydd hefyd wedi'i gysylltu â'r rhwydwaith Wi-Fi cyhoeddus fonitro a chael gafael ar y wybodaeth a anfonir rhwng eich dyfais a'r rhwydwaith, felly peidiwch â chynnal busnes sensitif wrth gysylltu.
- Os oes gennych Wi-Fi gartref, dylech newid y cyfrinair diofyn a neilltuwyd i'ch llwybrydd diwifr a ddarperir gan eich cyflenwr. Gallwch wirio eich llawlyfr cyflenwyr ar sut i wneud hyn.
Mae cwmnïau meddalwedd ac apiau yn datblygu eu cynhyrchion yn barhaus drwy ryddhau diweddariadau diogelwch i'w gwneud yn fwy diogel. Mae'r diweddariadau hyn yn bennaf er mwyn trwsio unrhyw wendidau y gallai seiberdroseddwyr fanteisio arnynt i gael mynediad at eich data sensitif personol.
Mae maleiswedd, fel feirysau, trojans, meddalwedd hysbysebu neu ysbïwedd ymhlith eraill, yn heintio eich cyfrifiadur gyda meddalwedd maleisus a allai ddwyn eich gwybodaeth bersonol. Bydd gosod diweddariadau diogelwch cyn gynted â phosibl yn lleihau'r risg y bydd eich data yn cael ei ddwyn.
Byddwch yn cael awgrymiadau a hysbysiadau ar eich dyfais i roi gwybod i chi am ddiweddariad.
Os nad ydych wedi cael eich ysgogi i ddiweddaru eich porwr gwe gan y porwr ei hun, gallwch wirio What is My Browser? i weld pa fersiwn rydych chi'n ei defnyddio ac, os oes angen, lawrlwytho a gosod yr un diweddaraf. Noder nad ydym yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth ar wefannau allanol.
Awgrymiadau er mwyn helpu i amddiffyn eich dyfais:
- Diweddaru'r holl apiau a meddalwedd.
- Osgoi cyflawni tasgau personol pan fyddwch wedi'ch cysylltu â phwyntiau Wi-Fi anniogel (megis bancio ar-lein neu e-bost).
- Bod yn wyliadwrus o'r hyn rydych chi'n ei lawrlwytho, nid yw pob ap yn ddilys ac yn ddiogel.
- Dad-actifadu gallu Bluetooth pan nad yw'n cael ei ddefnyddio.
Diogelwch gwrthfeirws
Mae meddalwedd gwrthfeirws yn canfod, yn atal ac yn dileu maleiswedd. Maleiswedd yw meddalwedd maleisus sydd wedi'i chynllunio i aflonyddu, difrodi neu gael mynediad awdurdodedig i system gyfrifiadurol. Fodd bynnag, mae gwrthfeirws yn effeithiol dim ond os yw'n cael ei ddiweddaru. Mae'r rhan fwyaf o feddalwedd gwrthfeirws yn cynnwys nodwedd diweddaru awtomatig. Argymhellir ei fod bob amser wedi’i alluogi.
Diogelwch wal dân
Mae wal dân yn ddyfais diogelwch rhwydwaith sy'n monitro traffig rhwydwaith sy'n dod i mewn ac allan, ac yn penderfynu a ddylid caniatáu neu rwystro traffig penodol yn seiliedig ar set ddiffiniedig o reolau diogelwch. Bydd gan eich cyfrifiadur wal dân osodedig na ddylid ei diffodd neu ddiwygio’r gosodiadau oni bai eich bod yn gwybod beth rydych chi'n ei wneud.
Ein sianeli swyddogol ar y cyfryngau cymdeithasol yw:
Linkedin: Principality-Building-Society
Facebook: PrincipalityBS
X (Twitter yn flaenorol): @PrincipalityBS
Instagram: principalitybs
Tik Tok: principalitybs
Rydym weithiau'n cynnal cystadlaethau ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn ond yn defnyddio'r sianeli uchod ar y cyfryngau cymdeithasol i gynnal y cystadlaethau hyn.
Nid yw unrhyw gyfathrebu nad yw'n dod o'n sianeli swyddogol yn Gymdeithas Adeiladu Principality a dylid ei ddiystyru.
Noder na fyddwn byth yn gofyn i chi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif drwy ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys dolenni i dudalennau mewngofnodi, neu i gadarnhau manylion banc. Os ydych chi'n cael gwybodaeth nad yw'n dod o Gymdeithas Adeiladu Principality yn eich barn chi, e-bostiwch phishing@principality.co.uk.