Skip to content
Log in

Taliadau gwthio awdurdodedig

Ffoniwch ni ar unwaith ar 0330 333 4000 os ydych wedi anfon taliad yr ydych yn credu y gallai fod yn sgam.



Rheolau ad-dalu newydd ar gyfer sgamiau taliadau gwthio awdurdodedig

O 7 Hydref 2024, daeth rheolau newydd i rym yn y DU, gan roi’r hawl i gwsmeriaid ofyn am ad-daliad os ydynt wedi dioddef sgam taliad gwthio awdurdodedig (APP).


Yr hyn sydd angen i chi ei wybod:


Hawliau ad-dalu

Os ydych wedi gwneud taliad o’ch cyfrif trwy Daliad Cyflymach neu CHAPS a’i fod yn sgam, gallwch ofyn i ni ad-dalu i chi. Mae angen i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl ac o fewn 13 mis i’r taliad diwethaf sy’n gysylltiedig â’r sgam, ac mae terfyn ariannol o  £85,000.

*Sylwch nad yw'r ad-daliad yn berthnasol i daliadau arian parod neu siec*


Proses hawlio

Os ydych yn gymwys i gael ad-daliad, byddwch fel arfer yn ei gael o fewn pum diwrnod busnes i’ch cais. Efallai y bydd angen ychydig mwy o amser arnom (hyd at 35 diwrnod) os ydym yn aros am wybodaeth ychwanegol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi dalu gormodedd o hyd at £100, y byddwn yn edrych arno fesul achos. Drwy gyflwyno hawliad, rydych yn cytuno i ymateb i geisiadau rhesymol am eich gwybodaeth gan Principality ac yn caniatáu i Principality rannu ei manylion ag awdurdodau perthnasol.

Os ydych yn anfodlon ar ganlyniad eich cais, gallwch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

  • Cyfeiriad post: The Financial Ombudsman Service, Exchange Tower, London E14 9SR  
  • Rhif ffôn: 0300 123 9 123 
  • Switsfwrdd: 020 7964 1000  
  • O'r tu allan i'r DU: +442079640500 

Rhaid i chi gyfeirio eich cwyn at yr Ombwdsmon Ariannol o fewn 6 mis i gael eich llythyr canlyniad;

  

Gweler hefyd ein hadroddiad diweddaraf ar gŵynion.


Safon rhybudd defnyddwyr

Mae'n bwysig bod yn wyliadwrus ac yn ymwybodol o sgamiau wrth wneud taliadau. Gellir gwrthod ad-daliad os canfyddir eich bod wedi ymddwyn yn dwyllodrus neu gydag esgeuluster difrifol. Gellir gwneud eithriadau ar gyfer cwsmeriaid bregus.


Y camau nesaf

Byddwn yn diweddaru ein Telerau ac Amodau Cynilo (erbyn 9 Ebrill 2025) i egluro eich hawliau a sut i roi gwybod am sgam os yw’n effeithio ar arian a anfonir o’ch cyfrif Principality. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gydag unrhyw newidiadau. Gallwch hefyd ymweld â'ch cangen leol neu ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw ddiweddariadau.


Rhowch wybod am sgam taliad gwthio awdurdodedig

Os ydych chi'n credu eich bod wedi eich effeithio gan sgam taliad gwthio awdurdodedig, ffoniwch ni ar unwaith ar 0330 333 4000. Rydym ar agor o dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp.

Beth yw sgamiau taliadau gwthio awdurdodedig?


Mae sgamiau taliad gwthio awdurdodedig (APP) yn digwydd pan fydd rhywun yn cael ei dwyllo i anfon arian at dwyllwr sy'n honni ei fod yn dalai dilys. Bob blwyddyn mae miloedd o unigolion a busnesau yn dioddef sgamiau APP, a all gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl.

Gan fod taliadau a wneir gan ddefnyddio cynlluniau talu amser real yn ddigyfnewid, ni all y dioddefwyr wrthdroi taliad, hyd yn oed os yw'n sylweddoli mai sgam ydoedd.

Ceir gwahanol fathau o sgamiau APP sydd naill ai yn:

  • 'Dalai maleisus'
    • Er enghraifft, twyllo rhywun i brynu nwyddau nad ydynt yn bodoli neu nad ydynt byth yn cael eu derbyn.
  • ‘Ailgyfeiriad maleisus’
    •  Er enghraifft, twyllwr yn dynwared staff banc i gael rhywun i drosglwyddo arian o'i gyfrif banc ac i gyfrif twyllwr.

Twyll buddsoddi, twyll cyfranddaliadau a sgamiau ystafell y boeler

Mae’n debygol eich bod wedi cael eich targedu gan sgamwyr buddsoddi os ydych yn cael nifer mawr o alwadau ffôn, llythyrau neu negeseuon e-bost, yn eich perswadio i fuddsoddi’n gyflym.

Bydd sgamwyr o’r natur hwn yn darparu cyflwyniad gwerthu caboledig ac yn aml yn cyflwyno cynigion fel rhai ‘unigryw’ i chi. Maent yn cynnig buddsoddiadau mewn ‘nwyddau unigryw’ fel gwin, bancio tir, credydau carbon, diemwntau a graffit. Bydd dioddefwyr posibl yn cael addewid o arian mawr, ond fel arfer bydd y rhain yn ddiwerth.

Mae twyll cyfranddaliadau neu ystafell y boeler yn ymwneud â broceriaid stoc ffug, yn galw heibio yn ddiwahoddiad i roi pwysau ar bobl i brynu cyfranddaliadau sy’n addo arian mawr. Mewn gwirionedd, mae'r cyfranddaliadau naill ai'n ddiwerth neu ddim yn bodoli.

Sut i amddiffyn eich hun rhag ddioddef twyll:

  • Os ydych chi'n ystyried unrhyw fath o fuddsoddiad, cofiwch bob amser os yw'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna felly mae hi fel arfer.
  • Byddwch yn wyliadwrus bob amser os mai galwad diwahoddiad yw'r cyswllt cyntaf, neu neges e-bost neu lythyr digymell.
  • Peidiwch â chael eich gorfodi i wneud penderfyniad cyflym.
  • Mae twyllwyr yn aml yn dynwared cwmnïau awdurdodedig ag enw da, felly cadarnhewch fod y cynllun yn ddilys drwy ffonio'r cwmni.
  • Cadarnhewch fanylion cyswllt y cwmnïau ar gofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
  • Ystyriwch gael cyngor proffesiynol annibynnol cyn gwneud unrhyw benderfyniad buddsoddi, yn enwedig os nad ydych yn gyfarwydd â’r math hwnnw o fuddsoddiad.

    Gallwch ymweld â thudalen buddsoddwyr ScamSmart yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i ddysgu mwy am sgamiau, gan gynnwys sut i osgoi sgamiau buddsoddi a riportio sgam neu gwmni anawdurdodedig. Sylwch nad yw Principality yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.