Twyll sieciau
Beth yw twyll sieciau?
Twyll sieciau yw pan fydd rhywun yn rhoi siec i chi, y mae’n gwybod na allwch chi ei chyfnewid am arian parod ac y bydd yn bownsio unwaith y bydd yn y system clirio sieciau. Mae sawl math gwahanol o’r sgam hwn gan gynnwys:
Sieciau ffug
Mae’r rhain yn cael eu gwneud i edrych yn real gan y twyllwr, neu maen nhw’n rhai go iawn sydd wedi cael eu dwyn gan rywun arall gyda llofnod ffug.
Siec sydd wedi’i newid neu yr ymyrrwyd arni
Efallai na fydd y rhain yn amlwg neu’n weladwy, ond byddan nhw’n cael eu gwrthod gan y banc.
Gwneud gordaliadau i chi ac yna gofyn am y newid
Bydd twyllwr yn eich talu chi gyda siec ffug ar gyfer mwy na’r swm y cytunwyd arno, gan roi esgus ar gyfer y gordaliad. Bydd yn gofyn i chi anfon y gwahaniaeth yn ôl, mewn arian parod neu drwy drosglwyddiad arian na ellir ei olrhain ac yna bydd y siec yn bownsio, a bydd y twyllwr yn diflannu.
Rhai awgrymiadau ar sut i ddiogelu eich hun rhag twyll sieciau:
- dylech ond derbyn sieciau gan bobl rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw
- gofynnwch am ffordd wahanol o dalu os yw’n golygu llawer o arian
- defnyddiwch ben wrth ysgrifennu siec – ysgrifennwch yn glir a rhowch linell drwy leoedd gwag
Oes gennych chi bryder?
Ffoniwch ni os ydych chi’n pryderu y gall twyll sieciau fod wedi effeithio ar eich cyfrif Principality.