Twyll rhamant
Beth yw twyll rhamant?
Twyll rhamant yw pan fyddwch chi’n cael eich perswadio i wneud taliad i rywun rydych wedi cyfarfod ag ef ar-lein neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, llwyfan chwilio am gariad neu safle chwarae gemau trwy haeriadau anwir.
Mae’r troseddwyr hyn yn creu proffiliau ffug ac yn meithrin perthnasau â rhywun maen nhw’n credu y bydd yn rhoi arian iddyn nhw. Swyno trwy dwyll yw’r enw ar hyn. Yn aml, maen nhw’n creu proffiliau ffug ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn edrych am broffiliau neu bobl weddw neu sydd wedi ysgaru.
Maen nhw’n gwneud llawer o ymdrech i ennyn eich ymddiriedaeth ac i’ch perswadio eich bod chi mewn perthynas go iawn. Maen nhw’n gofyn am arian gennych, gan ddefnyddio iaith ystrywgar, perswâd neu gamfanteisio. Gall y ceisiadau hyn fod yn emosiynol iawn, fel troseddwyr yn honni bod angen arian arnyn nhw ar gyfer gofal meddygol brys, neu i dalu am gostau trafnidiaeth i ymweld â chi os ydyn nhw dramor.
Sut i nodi twyll rhamant:
- Mae rhywun yn honni bod ganddo deimladau cryf tuag atoch chi ar ôl un neu ddwy sgwrs.
- Mae’r person rydych yn siarad ag ef yn gofyn am gael siarad â chi ar sianel breifat fel e-bost, dros y ffôn neu wefan gwibnegeseua, mae’n awgrymu y dylech chi symud y sgwrs oddi ar wefan chwilio am gariad neu’r cyfryngau cymdeithasol i sianel fwy preifat fel e-bost, dros y ffôn neu wefan gwibnegeseua.
- Nid yw proffil y person yn gyson â’r hyn mae’n ei ddweud wrthoch chi yn y sgwrs.
- Mae’r person rydych chi’n siarad ag ef wedi gwneud llawer o wallau sillafu a gramadegol.
- Mae’r person rydych chi’n siarad ag ef yn gwrthod gwneud galwad fideo, gan honni nad yw ei gamera yn gweithio.
- Mae’n gwrthod cyfarfod â chi wyneb yn wyneb.
- Mae’r lluniau’n dueddol o fod yn rhai sydd wedi’u dwyn gan bobl eraill.
- Mae’n gofyn i chi am arian er nad ydych chi wedi cyfarfod wyneb yn wyneb.
- Efallai y bydd yn gofyn i chi drosglwyddo arian neu brynu cardiau rhodd neu anrhegion hefyd.
- Gofynnir i chi anfon arian i rywun nad ydych chi wedi cyfarfod ag ef wyneb yn wyneb – naill ai drwy drosglwyddiad banc/arian neu drwy brynu cardiau rhodd neu anrhegion fel ffonau a gliniaduron.
- Efallai y gofynnir i chi roi mynediad iddo i’ch cyfrif neu gerdyn banc hyd yn oed.
- Mae’r person rydych yn siarad ag ef yn ceisio eich perswadio i wneud buddsoddiad, gan ddweud yn aml ei bod yn hawdd neu’n gwarantu llawer o elw.
Os ydych chi’n poeni bod ffrind neu aelod o’r teulu wedi dioddef twyll rhamant, gall yr arwyddion gynnwys y canlynol:
- Nid yw’n dweud rhyw lawer am ei berthynas pan rydych chi’n ei holi.
- Mae’n rhoi esgusodion ynghylch pam nad yw wedi cyfarfod â’i bartner ar-lein ar alwad fideo neu wyneb yn wyneb.
- Mae’n mynd yn ymosodol neu’n ddig pan rydych chi’n ei holi.