Skip to content
Log in

Masnachwyr twyllodrus

Osgoi sgamiau masnachwyr twyllodrus


Manteiswyr yw masnachwyr twyllodrus sy’n ymweld â phobl i geisio cymryd arian oddi arnyn nhw drwy sgam. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n gwneud atgyweiriadau nad oes eu hangen neu’n perswadio pobl i brynu cynhyrchion nad oes eu heisiau neu eu hangen arnyn nhw.


Yn aml, bydd masnachwyr twyllodrus yn:

  • Cyrraedd yn ddiwahoddiad ac yn rhoi pwysau arnoch i gael gwaith wedi’i wneud.
  • Yn cynnig amcangyfrifon neu ddyfynbrisiau rhad nad ydynt yn fodlon eu rhoi ar bapur.
  • Yn dweud wrthych fod angen i’r gwaith gael ei wneud ar frys i atal difrod pellach i’ch cartref, er enghraifft to neu gwteri yn gollwng dŵr.
  • Yn cynnig dechrau gweithio bron yn syth.
  • Yn mynnu arian ymlaen llaw, neu’n gofyn am daliad llawn cyn i’r gwaith gael ei gwblhau.
  • Yn gwrthod gadael eich cartref oni fyddwch chi’n cytuno i’r gwaith neu’n dychwelyd dro ar ôl tro i roi mwy o bwysau arnoch.

Awgrymiadau ynghylch sut i ddiogelu eich hun

  • Cadarnhewch fanylion adnabod pobl sy’n dod i garreg y drws bob amser.
  • Gofynnwch am ddyfynbris ysgrifenedig bob amser a’i gymharu â masnachwyr eraill.
  • Peidiwch byth â chytuno i’r gwaith gael ei wneud neu i roi arian parod yn y fan a’r lle.
  • Peidiwch byth â gadael neb i mewn i’ch cartref oni bai ei fod yn rhywun rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo.
  • Cadwch eich eiddo’n ddiogel yn ystod unrhyw waith.
  • Peidiwch byth â chytuno i fynd i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu gyda’r masnachwr i godi arian.
  • Peidiwch â thalu’n llawn nes eich bod yn gwbl fodlon ar y gwaith sydd wedi’i gwblhau.
  • Os na fydd y masnachwr yn gadael neu os bydd yn rhoi pwysau arnoch, caewch y drws a ffoniwch yr heddlu.