Skip to content
Log in

Dwyn hunaniaeth

Beth yw dwyn hunaniaeth?


Mae dwyn hunaniaeth yn digwydd pan fydd twyllwyr yn casglu digon o wybodaeth am hunaniaeth rhywun i gyflawni twyll. Gall y wybodaeth hon gynnwys:

  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad presennol neu flaenorol

Mae twyllwyr yn agor cyfrifon, yn gwneud cais am gredyd ac yn archebu nwyddau neu wasanaethau a all adael y parti dieuog yn gyfrifol am y ddyled.


Gallan nhw hefyd gymryd drosodd eich cyfrifon personol, archebu cardiau newydd ac ailgofrestru ar gyfer bancio ar-lein i’w galluogi i wneud taliadau i’w cyfrifon eu hunain. Gall achosion o ddwyn hunaniaeth ddigwydd p’un a yw dioddefwr y twyll yn fyw neu wedi marw.


Os yw rhywun wedi dwyn eich hunaniaeth, gall arwain at dwyll. Gall twyll hunaniaeth gael effaith uniongyrchol ar eich cyllid personol. Gall hefyd ei gwneud hi’n anodd cael benthyciad, cerdyn credyd neu forgais nes bod y mater wedi’i ddatrys.


Sut i ddiogelu eich hun rhag achosion o ddwyn hunaniaeth:

  • Sicrhewch eich bod yn cael gwared ar ddogfennau sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol yn ddiogel bob amser.
  • Diweddarwch eich cyfrineiriau yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod eich cyfrif mor ddiogel â phosibl.
  • Peidiwch byth ag ysgrifennu eich manylion personol llawn neu fanylion eich cyfrif mewn e-bost atom ni, neu at unrhyw un arall.

Awgrymiadau i gadw eich hun yn ddiogel ar y cyfryngau cymdeithasol

Ffordd hawdd i dwyllwyr ddod o hyd i wybodaeth amdanoch yw ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae twyllwyr yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gasglu gwybodaeth am ddioddefwyr gan gynnwys cyfeiriadau, enwau a lleoliadau

  • Ceisiwch beidio â rhannu gormod o wybodaeth bersonol ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig os yw eich proffil yn gyhoeddus.
  • Adolygwch eich gosodiadau preifatrwydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, gan gynnwys diweddaru cyfrineiriau ar ffonau a chyfrifiaduron personol.
  • Cyn i chi bostio unrhyw beth ar-lein, cofiwch ystyried a allai olygu eich bod yn agored i dwyll.