Cynllunio Angladd

Gwybodaeth bwysig am Gynlluniau Angladd

Nid ydym yn cynnig Cynlluniau Angladd Dignity i’n Haelodau mwyach. Fodd bynnag, bydd Dignity yn parhau i gynnig Cynlluniau Angladd wedi’u rhagdalu yn uniongyrchol.

Os ydych wedi prynu Cynllun Angladd eisoes

Ni fydd unrhyw newid i’r gwasanaeth y mae Dignity yn ei ddarparu nac unrhyw newidiadau i'r cynllun ei hun. O dan ganllawiau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, bydd Dignity yn rhoi datganiadau rheolaidd i chi a fydd yn cynnwys manylion y cynllun a brynwyd, sut i wneud newidiadau a hefyd manylion cyswllt ar gyfer Dignity.

Cedwir arian sydd wedi'i dalu i mewn i gynllun angladd Dignity mewn cronfa ymddiriedolaeth, hyd nes y bydd ei angen. Mae'r Ymddiriedolaeth hon yn gwbl ar wahân ac annibynnol ar Dignity, a chaiff ei rheoli a'i monitro gan Ymddiriedolwyr Rheoli.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch Cynllun Angladd rydych wedi'i brynu eisoes, cysylltwch â Dignity yn uniongyrchol.

Manylion cyswllt Dignity i ddeiliaid polisi

Cyfeiriad e-bost Planinfo@dignityuk.co.uk
Ffôn 0808 258 0726
Cyfeiriad Dignity Pre Arrangement Limited
4 King Edwards Court
King Edwards Square
Sutton Coldfield
West Midlands
B73 6AP

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig