Beth sy’n digwydd ar ddiwrnod cwblhau gwerthiant tŷ?

Diweddarwyd ddiwethaf: 06/01/2022 | Amser darllen: 5 munud

Rydych wedi derbyn cynnig ar eich tŷ, llofnodi’r contractau a pharatoi i symud allan - mae diwrnod cwblhau’r gwerthiant bron â chyrraedd. 

Ar ôl proses hir o werthu eich cartref, mae diwrnod cwblhau’r gwerthiant yn nodi cam olaf y dilyniant hwn. Dyma’r diwrnod pan fyddwch yn trosglwyddo’r allweddi a bydd y cartref yn newid perchnogaeth. 

Gall diwrnod cwblhau’r gwerthiant amrywio gan ddibynnu ar eich sefyllfa, ond dyma olwg gyffredinol o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl. 

Pryd fydd fy niwrnod cwblhau’r gwerthiant?

Ar ôl i chi dderbyn cynnig, byddwch yn gweithio gyda’ch cyfreithiwr trawsgludo i ddrafftio contractau i’w rhannu â’r perchnogion newydd. Dyma pryd y byddwch yn cytuno ar ddiwrnod cwblhau. 

Fel arfer, mae’n digwydd oddeutu 7 i 28 diwrnod ar ôl i’r contractau gael eu cyfnewid, er y gall hyn amrywio. 

Yn ystod eich diwrnod cwblhau’r gwerthiant, bydd angen trosglwyddo arian i gwblhau gwerthiant y tŷ. Felly, bydd eich diwrnod cwblhau yn arfer digwydd ar ddiwrnod gwaith fel y gall eich cyfreithiwr gadarnhau’r trosglwyddiad. 

Beth sy’n digwydd ar ddiwrnod cwblhau’r gwerthiant?

Pan fyddwch yn gwerthu eich cartref, mae diwrnod cwblhau’r gwerthiant yn gofyn am roi eich allweddi i’r perchennog newydd a gadael yr eiddo, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. 

Felly, os nad ydych eisoes wedi symud allan, diwrnod cwblhau’r gwerthiant yw eich cyfle olaf i wneud hynny. Os yw hynny’n bosibl, gall symud allan ymlaen llaw leihau straen ar y diwrnod, gan sicrhau bod y tŷ yn wag ac yn barod i’r perchnogion newydd. Mae’n debyg y byddant yn awyddus i symud i mewn cyn gynted â phosibl.

Gallwch ddefnyddio ein rhestr wirio ar gyfer symud cartref i sicrhau eich bod yn gwbl barod i adael eich eiddo a’ch bod wedi gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol. 

Cyn diwrnod cwblhau’r gwerthiant, bydd eich cyfreithiwr yn gofyn am Dystysgrif Adbrynu os yw eich morgais yn dal i fynd rhagddo. Cyflwynir Tystysgrif Adbrynu gan eich benthyciwr ac mae’n nodi faint o’ch morgais sydd ar ôl i’w dalu, a phryd y mae’n disgwyl y taliadau hyn.  

Bydd eich cyfreithiwr a chyfreithiwr eich prynwyr hefyd yn creu datganiadau cwblhau, sy’n rhestru’r holl daliadau a wnaed. 

Cyn belled â’ch bod allan o’ch cartref ac nad oes gennych unrhyw waith pacio munud olaf i’w wneud ar ddiwrnod cwblhau’r gwerthiant, dyma sy’n arfer digwydd ar ddiwrnod olaf gwerthiant eich tŷ:

  1. Bydd cyfreithiwr trawsgludo y prynwr yn talu’r arian i’ch cyfreithiwr drwy drosglwyddiad banc ar yr un diwrnod. Ar ôl i’r taliad hwn ddod i law, mae gwerthiant y tŷ wedi ei gwblhau. 
  2. Bydd eich cyfreithiwr trawsgludo yn cadarnhau gyda chyfreithiwr y prynwr ei fod wedi derbyn y taliad, a bydd yn cysylltu â’r asiant eiddo i gadarnhau y gellir trosglwyddo’r allweddi i’r perchennog newydd. 
  3. Cyfrifoldeb yr asiant eiddo wedyn yw hysbysu’r prynwyr y gallant gasglu’r allweddi i’w cartref newydd.  
  4. Dylech gael gwybod gan eich cyfreithiwr trawsgludo bod gwerthiant y tŷ wedi ei gwblhau, a bod angen i chi adael yr eiddo yn barhaol er mwyn caniatáu i’r perchnogion newydd symud i mewn. 
  5. Yn olaf, mae angen i chi dalu’r holl gostau sy’n weddill ar gyfer eich cyfreithiwr a’ch asiant eiddo. 
Beth sy’n digwydd ar ddiwrnod cwblhau’r gwerthiant mewn cadwyn?

Cadwyn yw nifer y tai sy’n gysylltiedig â’i gilydd yn y broses o brynu neu werthu eich cartref. Ym mwyafrif y gwerthiannau, ceir oddeutu 4 neu 5 cartref mewn cadwyn. 

Mewn cadwyn fawr, ceir rhagor o rannau symudol ac o’r herwydd mae rhagor o gyfle i broblemau godi. Er mwyn cwblhau gwerthiant pob cartref yn y gadwyn heb amhariad, mae angen trosglwyddo’r holl arian o fewn y diwrnod er mwyn sicrhau y gall pawb gwblhau gwerthiant eu heiddo ar y diwrnod penodol. Tua 5.30 yw’r amser cau ar gyfer cwblhau gwerthiannau fel arfer. 

Os ydych mewn cadwyn, mae’n bosibl y bydd llinell amser eich diwrnod cwblhau yn edrych yn debyg i hyn:

  1. Yn y bore, bydd y prynwr cyntaf yn y gadwyn yn cwblhau ei bryniant ac yn trosglwyddo’r arian am werthiant ei dŷ. Mae’r person cyntaf yn y gadwyn yn brynwr am y tro cyntaf fel arfer, ac nid oes ganddo eiddo arall i’w werthu. 
  2. Y sawl a werthodd ei gartref i’r prynwr cyntaf, yw’r ail berson yn y gadwyn. Ar ôl iddo gwblhau gwerthiant ei gartref, bydd yn cwblhau ei bryniant yn gynnar yn y prynhawn.  
  3. Y sawl a werthodd ei gartref i’r ail brynwr yw’r trydydd person yn y gadwyn. Ar ôl iddo gwblhau gwerthiant ei gartref, bydd yn cwblhau ei bryniant tua canol y prynhawn.  
  4. Rhywun sy'n gwerthu ei gartref yn unig yw’r person olaf yn y gadwyn fel arfer, ac nid oes ganddo eiddo arall i'w brynu. Ar ôl iddo dderbyn yr arian oddi wrth y trydydd prynwr, mae’r trafodiad wedi ei gwblhau a daw’r gadwyn i ben, cyn yr amser cau ar y diwrnod cwblhau, sef 5.30. 

Gall un broblem annisgwyl ddal y gadwyn gyfan i fyny ar y diwrnod cwblhau, felly mae’n bwysig sicrhau eich bod yn barod, fel y gall popeth redeg yn rhwydd. 

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am werthu eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig