Polisi Iaith Gymraeg

Datganiad

Mae gan Gymdeithas Adeiladu Principality dreftadaeth falch sy’n estyn dros 150 o flynyddoedd ac mae’n frwd dros y cymunedau yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt. Ni yw cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, cawsom ein sefydlu ym 1860, ac rydym yn falch o fod yn ganolog ar strydoedd mawr ledled Cymru a’r gororau, gan weithredu dros 70 o ganghennau ac asiantaethau.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg a’i heffaith ar ein Haelodau, ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a’r gymdeithas ehangach. Rydym yn awyddus i annog y rhai sy’n siarad Cymraeg yn ogystal â Saesneg i ddefnyddio’r iaith wrth ymwneud â ni o ddydd i ddydd, ac rydym yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y Gymdeithas lle bynnag y gallwn a phan fo’n rhesymol ac yn ymarferol i wneud hynny. Ein nod yw sicrhau bod ein cwsmeriaid a’n haelodau yn cael yr un safon uchel o wasanaeth gan y Principality p’un a ydynt yn ymwneud â ni yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Dengys y Polisi hwn ein sefyllfa bresennol o ran ein gwasanaethau Cymraeg a bydd yn cael ei ddiweddaru wrth i ni wneud gwelliannau. 

1. Cyflwyniad

Disgwyliwn i bob aelod o staff fod yn gyfrifol am sicrhau bod ein Polisi Iaith Gymraeg yn cael ei weithredu. Y Pwyllgor Gweithredol sy’n gyfrifol am y Polisi hwn ac am sicrhau ei fod yn cael ei gyfathrebu i’n prif swyddfa, ein canghennau a’n hasiantaethau yng Nghymru. Mae’r Polisi hwn yn ddogfen gyhoeddus.

2. Polisïau a mentrau

Ein nod yw sicrhau y bydd  ein polisïau, ein gweithgareddau a’n gwasanaethau yn gyson â’r Polisi hwn. Byddwn yn ymdrechu i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg, a phan fo’n bosibl, annog ein Haelodau, ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

2.1 Cofnodi dewis iaith

Rydym yn cadw cofnod o ddewis iaith ein Haelodau a’n cwsmeriaid er mwyn i ni allu darparu ein gwasanaethau iddynt yn unol â’u dewis, pan fo hynny’n bosibl. 
Ein polisi yw sicrhau bod ein gohebiaeth statudol a ddefnyddir amlaf ar gael yn y ddwy iaith, gan gynnwys y gyfriflen gynilion a’r llythyrau am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Rydym yn adolygu ein gohebiaeth ysgrifenedig arall yn rheolaidd, yn ogystal â’n dewis o lenyddiaeth am ein cynhyrchion a’n cynigion, er mwyn gweld lle byddai’n bosibl i ni gynhyrchu fersiynau Cymraeg a Saesneg. 

Oherwydd natur gyfreithiol y telerau a’r amodau, dim ond yn y Saesneg y maent ar gael.

3. Cyfathrebu

3.1 Cyfathrebu wyneb yn wyneb

Rydym yn croesawu ac yn annog ein cydweithwyr sy’n rhugl yn y ddwy iaith neu sy’n dysgu Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein canghennau yn amrywio o un ardal i’r llall, ond er mwyn tynnu sylw at le mae aelodau staff dwyieithog ar gael, mae’r Principality yn hyrwyddo’r logo Iaith Gwaith ac mae wedi’i gynnwys ar fathodynnau enw corfforaethol ein cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn y canghennau hynny. Mae hyn yn nodi’r cydweithwyr ac yn dangos pa un a ydynt yn siaradwyr Cymraeg ynteu’n dysgu’r iaith. 

Pan fydd Aelodau a chwsmeriaid yn ymwneud â ni mae croeso iddynt ofyn am gael siarad â siaradwr Cymraeg a byddwn yn eu helpu i wneud hynny pryd bynnag y bo modd. Os nad oes siaradwr Cymraeg sy’n gymwys i ymdrin â’r ymholiad ar gael ar unwaith, byddwn yn cynnig i’r Aelod neu’r cwsmer aros i siaradwr Cymraeg ffonio yn ôl cyn gynted â phosib, parhau â’r apwyntiad yn Saesneg, neu gyflwyno’r ymholiad yn Gymraeg drwy lythyr neu e-bost. 

3.2 Cyfathrebu dros y ffôn

Dylai galwyr sy’n dymuno siarad ag aelod o staff yn y Gymraeg ddefnyddio ein rhif canolfan gyswllt arferol 0330 333 4000 neu, os ydynt yn galw o wlad dramor, 029 2038 2000 a dewis yr opsiwn Cymraeg.

Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael, byddwn yn cynnig i’r galwr aros i siaradwr Cymraeg ei ffonio yn ôl cyn gynted â phosib, parhau â’r alwad yn Saesneg, neu gyflwyno’r ymholiad yn Gymraeg drwy lythyr neu e-bost. 

3.3 Gohebiaeth a chyfieithu 

Rydym yn cofnodi ac yn dilyn dewis iaith ein Haelodau, ein cwsmeriaid a’n cysylltiadau busnes er mwyn defnyddio’r iaith honno mewn gohebiaeth. Byddwn bob amser yn ymateb yn Gymraeg, neu’n cynnwys fersiwn Gymraeg, wrth ateb llythyrau a dderbynnir yn Gymraeg neu pan ofynnir i ni wneud hynny. 
Os bydd cydweithiwr y Principality nad yw’n gallu siarad nac ysgrifennu yn Gymraeg yn derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg, bydd cyfieithiadau’n cael eu darparu, neu caiff ei gyfeirio at sylw rheolwr llinell, a fydd yn trefnu bod ateb yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg. 

Caiff ein gwaith cyfieithu ei wneud gan asiantaeth gyfieithu trydydd parti gymeradwy.

3.4 Cyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau 

Anogir pobl sy’n dod i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Nghymru i gyfrannu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, ac maent yn gallu gwneud hynny. Rydym hefyd yn cynnig cyfieithiad clywedol byw ar gyfer ein Haelodau Cymraeg eu hiaith sy’n dod i’r digwyddiad. Byddwn yn cynnig cyfieithiad clywedol byw yn ein digwyddiadau Adborth Aelodau ledled Cymru yn yr ardaloedd lle mae angen hynny. 

Cyhoeddir ein Hadroddiad Blynyddol a’n Cyfrifon, ein Datganiad Ariannol Cryno ac amrywiaeth o wybodaeth a chyhoeddusrwydd ynglŷn â chyfarfodydd yn ddwyieithog. 

4.1 Peiriannau arian parod 

Mae pob un o’n peiriannau arian parod yn cynnig y dewis o gynnal busnes yn Gymraeg (yn amodol ar ddarpariaeth barhaus gad ddarparwr trydydd parti).
4.2 Arwyddion
Mae’r rhan fwyaf o’n harwyddion parhaol a dros dro mewn mannau cyhoeddus mewnol ac allanol yn ein canghennau yn ddwyieithog, a rhoddir amlygrwydd cyfartal iddynt o ran fformat, maint ac ansawdd. 

4.3 Ein gwefan

Mae Principality yn cynnig gwasanaeth ar-lein ac mae’r rhan fwyaf ohono ar gael yn y ddwy iaith. Caiff ymwelwyr â’r wefan ddefnyddio botwm i ddewis cysylltu â’r fersiwn Gymraeg neu’r fersiwn Saesneg. Mae’n cynnwys gwybodaeth am bob gwasanaeth Cymraeg arall y mae’r Gymdeithas yn ei gynnig yn ogystal â gwybodaeth am gynhyrchion, datganiadau i’r wasg, gwybodaeth am y Bwrdd, canlyniadau blynyddol a llawer mwy. 
Wrth gynllunio gwefannau newydd neu ailddatblygu ein gwefan bresennol byddwn yn parhau i ystyried ein Polisi Iaith Gymraeg a chanllawiau a safonau Comisiynydd y Gymraeg. 

4.4 Addysg ariannol 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cynnig addysg ariannol yn ddwyieithog i blant oedran ysgol gynradd drwy is-frandio ac adnoddau dysgu Sgwad Safio Dylan, sy'n cynnwys microwefan www.sgwadsafiodylan.cymru ac ap Cuddfan Dylan.

4.5 Papur ysgrifennu 

Mae papur pennawd llythyrau a slipiau cyfarchion safonol Principality yn cynnwys logo dwyieithog y brand a negeseuon dwyieithog.

4.6 Deunydd argraffedig - llyfrynnau, taflenni a phosteri

Mae Principality yn cynhyrchu amrywiaeth o lenyddiaeth yn y Gymraeg. Bydd yr eitemau i’w cynhyrchu yn Gymraeg eu hystyried yn unigol drwy edrych ar nifer o ffactorau gan gynnwys y galw gan y canghennau a’r cwsmeriaid. 
Mae ein gohebiaeth statudol a ddefnyddir yn aml, gan gynnwys ein cyfriflen cynilion a’n llythyrau am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r ohebiaeth hon yn cyflwyno’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd. 

4.7 Digwyddiadau

Wrth ddewis gweithwyr i fynd i gyfarfodydd neu ddigwyddiadau cyhoeddus, ein harfer safonol fydd sicrhau bod gweithwyr dwyieithog addas yn bresennol, yn ôl yr angen. 
Os nad oes siaradwr Cymraeg addas ar gael ac y gofynnir am un, byddwn yn cynnig parhau â’r cyfarfod yn Saesneg, neu ymdrin â’r mater ar adeg arall pan fydd siaradwr Cymraeg ar gael.

4.8 Cysylltiadau â’r Cyfryngau

Rydym yn ceisio sicrhau bod pob datganiad newyddion sy’n ymwneud â Pholisi Iaith Gymraeg, canlyniadau blynyddol neu gyhoeddiadau allweddol eraill Principality ar gael yn y Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg. Bydd y rhan fwyaf o’n datganiadau i’r wasg ar gael yn y Gymraeg ar ein gwefan hefyd. Rydym yn sicrhau bod siaradwr Cymraeg ar gael i siarad ar ein rhan fel y bo’n briodol a bydd fersiynau Cymraeg o bob datganiad newyddion arall ar gael pe gofynnir am hynny. 

4.9 Hysbysebu

Mae ein hysbysebion lleol yn y Gymraeg neu’r Saesneg neu’n ddwyieithog yn ôl yr hyn sydd fwyaf addas ar gyfer y gynulleidfa. Mae ein hysbysebion ar S4C yn cael eu darlledu yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yn bennaf. 

5. Cymuned

Rydym ni wedi bod yn cefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol ers dros 35 mlynedd i ddathlu traddodiadau diwylliannol, iaith a threftadaeth Cymru. Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r wŷl fwyaf o’r fath yn Ewrop, a hi yw prif wŷl iaith Gymraeg Cymru. 

Mae ein gweithgareddau yn y gymuned hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg ac mae ein cydweithwyr wedi rhoi llawer o amser a chefnogaeth i nifer o ddigwyddiadau, timau chwaraeon, ysgolion a grwpiau cymunedol eraill ledled Cymru. 

Bob blwyddyn mae Principality hefyd yn cefnogi gwahanol Elusen y Flwyddyn yng Nghymru. Gwahoddir ein gweithwyr i enwebu ac yna pleidleisio dros elusen y byddent yn hoffi ei chefnogi, ar yr amod bod yr elusen yn gweithredu’n ddwyieithog a’i bod yn gweithredu mewn rhanbarth yng Nghymru. Bob blwyddyn mae ein gweithwyr ymroddedig yn codi miloedd o bunnau i gefnogi ein helusen, a ddefnyddir wedyn i wella bywydau pobl ledled Cymru. 

6. Gweithredu a monitro’r polisi

Defnyddir y Gymraeg yn naturiol gan lawer o gydweithwyr ac Aelodau Principality yn rhan o’u bywydau bob dydd. Bydd Principality yn parhau i ddatblygu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ei changhennau, ei hasiantaethau a’r brif swyddfa.

Bydd Pwyllgor Rheoli Grŵp Principality yn sicrhau bod gweithwyr Principality yn ymwybodol o’r holl egwyddorion yn y Polisi hwn. 

Bydd cydweithwyr yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau i’r Polisi a bydd y rhain yn cael eu diwygio ar wefan Principality. 

Bydd ein Pwyllgor Rheoli Grŵp yn adolygu’r Polisi bob blwyddyn.

6.1 Staffio, recriwtio a hyfforddiant

Nod Principality yw sicrhau ein bod yn cyflogi siaradwyr Cymraeg gyda'r sgiliau priodol fel ein bod yn gallu cyfathrebu â'r cyhoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwn yn sicrhau, mewn rolau lle mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu'n ddymunol, y bydd hyn yn cael ei nodi mewn hysbysebion swyddi perthnasol a bydd yr hysbyseb ar gael ar y wefan yn Gymraeg.

Bydd y Gymdeithas yn annog ac yn cefnogi ei gweithwyr i ddysgu Cymraeg a'i defnyddio yn ei changhennau, asiantaethau a'i phrif swyddfa.

6.2 Cefnogaeth i gydweithwyr sy'n siarad Cymraeg 

Mae Principality yn cefnogi Rhwydwaith Iaith Gymraeg, i alluogi ein cydweithwyr sy'n siarad Cymraeg i gael fforwm siarad Cymraeg yn y gwaith. Nod hwn yw darparu ymdeimlad o gymuned, galluogi cydweithwyr sy'n siarad Cymraeg i gadw eu sgiliau gweithio yn gyfredol a rhannu gwybodaeth a phrofiad, a galluogi'r rhai sy'n llai hyderus i ddefnyddio eu sgiliau sy’n datblygu mewn amgylchedd cefnogol.

Mae Principality hefyd wedi ymrwymo i wreiddio "cwrteisi ieithyddol" drwy'r sefydliad. Mae hon yn lefel sylfaenol o ddealltwriaeth i sicrhau bod cydweithwyr yn gallu ynganu enwau ac enwau lleoedd Cymraeg yn gywir, rhoi cyfarchion syml, a defnyddio Cymraeg achlysurol. Byddwn yn annog yr holl staff i gofleidio'r cysyniad hwn, a bydd adnoddau i alluogi a rhoi gwybodaeth am hyn ar gael ar ein  mewnrwyd.

6.3 Monitro

Bydd Pwyllgor Rheoli Grŵp Principality yn monitro ein Polisi Iaith Gymraeg yn rheolaidd. Bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr hefyd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Polisi hwn ac unrhyw newidiadau. 

Byddwn yn anfon y Polisi hwn at Gomisiynydd y Gymraeg, gan amlinellu cynnydd y Polisi.

7. Sylwadau ac awgrymiadau ar gyfer gwella

Rydym yn datblygu cydweithrediad â’r tîm Hybu a Chomisiynydd y Gymraeg i nodi cyfleoedd eraill a llunio Cynllun Datblygu ar gyfer ein polisi Iaith Gymraeg sy'n datblygu.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylw neu awgrym ar gyfer gwella Polisi Iaith Gymraeg Principality gysylltu â Principality drwy un o’n canghennau, ffonio ein canolfan gyswllt ar 0330 333 4000, neu ysgrifennu i: Cymdeithas Adeiladu Principality, Blwch Post 89, Adeiladau Principality, Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA.

 

 

Cysylltwch â ni
Twitter logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig