
Cynilo i brynu fy nghartref cyntaf
Dyma’r cam cyntaf ar eich taith i brynu cartref. I brynu cartref bydd angen i chi gynilo blaendal, ac mae’r swm y byddwch yn ei gynilo yn gwneud gwahaniaeth i faint o arian y byddwch yn gallu cael ei fenthyg. Mae costau eraill i feddwl amdanyn nhw hefyd. Yn yr adran hon rydym yn esbonio’r gwahanol gostau y mae angen i chi eu hystyried er mwyn i chi wybod faint y mae angen i chi ei gynilo, yn ogystal â rhoi awgrymiadau da ar sut i gyrraedd y nod.
Faint allaf i ei gynilo bob mis?
Lawrlwythwch ein Cynllunydd Cyllideb i lenwi’r arian sy’n mynd allan gennych a gweld faint y gallwch ei neilltuo i’w gynilo!
Helpwch fi i ddechrau cynilo
Gyda bonws o £500 os ydych yn cael morgais gyda Principality, a llog sy’n cynyddu po fwyaf yr ydych yn ei gynilo, efallai mai ein cyfrif Camau Cartref Cyntaf yw’r dewis i chi. Mae telerau yn berthnasol.
Cliciwch ar yr adrannau isod i archwilio beth mae angen i chi ei wybod ar bob cam o’ch taith i brynu cartref: