Ein Bwrdd

Swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Bwrdd

Y Bwrdd o Gyfarwyddwyr yw'r corff goruchwylio cyffredinol dros Gymdeithas Adeiladu Principality. Y Bwrdd sy'n gyfrifol am stiwardiaeth gyffredinol y Gymdeithas (gan gynnwys yr is-gwmnïau) i sicrhau ei llwyddiant hirdymor.

Mae prif swyddogaethau'r Bwrdd yn cynnwys

  • Pennu strategaeth a monitro perfformiad;
  • Penderfynu ar Ddiben cyffredinol y Gymdeithas;
  • Pennu cyllideb flynyddol a chynllun tymor canolig a chymeradwyo lefelau gwariant cyfalaf;
  • Sicrhau y caiff y Gymdeithas ei rheoli er budd hirdymor gorau ei Haelodau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
  • Penderfynu ar barodrwydd cyffredinol y Gymdeithas i gymryd risg;
  • Pennu polisi cydnabyddiaeth ariannol y Gymdeithas;
  • Sicrhau bod diwylliant priodol ar waith (gan gynnwys gosod “tôn briodol o'r uwch-swyddogion i lawr”);
  • Goruchwylio'r trefniadau llywodraethu.

Mae rhagor o fanylion ar gael yma: Materion a Gedwir ar gyfer y Bwrdd a Polisi Cyfansoddiad y Bwrdd.



Cwrdd â'r Bwrdd

Mae Principality wedi datblygu Bwrdd cryf gydag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad. Mae'r wybodaeth a'r arbenigedd hyn yn galluogi'r Bwrdd i adeiladu ar seiliau cadarn Principality.

Mae manylion ein cyfarwyddwyr isod:

Jonathan Baum, MBA, MA, Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol, Cyfarwyddwr Anweithredol

Ymunodd â'r Bwrdd ym mis Gorffennaf 2021. Chair of Board Risk Committee. Member of Audit Committee and Governance and Nominations Committee.

Image of Jonathan Baum Sgiliau a phrofiad
Mae gennyf 30 mlynedd o brofiad ym maes bancio domestig a rhyngwladol mewn sefydliadau adnabyddus yn fyd-eang gan gynnwys Grŵp Bancio Lloyds, Barclays Bank plc a GE Capital. Roeddwn yn Gyfarwyddwr Anweithredol i TransUnion UK a Vanquis Bank.

Cyfraniad i lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Gan fy mod yn Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol, rwy'n gweithredu fel seinfwrdd ar gyfer y Cadeirydd, yn gwasanaethu fel cyfryngwr ar gyfer y Cyfarwyddwyr eraill, ac rwy'n gyfrifol am arwain yr adolygiad blynyddol o berfformiad y Cadeirydd. Mae fy mhrofiad yn y sectorau manwerthu, busnes, cyfoeth a chyllid asedau ac mewn swyddi arweiniol ym maes risg yn fy ngalluogi i fod â throsolwg ar y risgiau presennol ac yn y dyfodol a fydd yn sicrhau bod y Gymdeithas yn parhau i fod yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy ar gyfer ei Haelodau.

Swyddogaethau eraill
Swyddogaeth gynghorol - Baum Advisory Ltd. Cyfarwyddwr Anweithredol yn Lendable Limited.

Debra Evans-Williams, Cyfarwyddwr Anweithredol

Ymunodd â'r Bwrdd ym mis Medi 2019. Member of Audit Committee, Governance and Nominations Committee and Remuneration Committee.

Sgiliau a phrofiad
Rwyf wedi bod ag amrywiaeth o swyddi Cyfarwyddwr Gweithredol ac Anweithredol yn ogystal ag uwch swyddi yng Nghymdeithas Adeiladu Britannia, Tesco Compare a Confused.com.

Cyfraniad i lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Bydd fy mhrofiad ym meysydd Technoleg Ariannol/E-fasnach yn fy ngalluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i drawsnewidiad digidol parhaus y Gymdeithas a fydd yn cefnogi parhau i gyflawni profiad rhagorol ar gyfer ein Haelodau.

Swyddi eraill
Cyfarwyddwr Anweithredol Yswiriant Co-Op, Cyfarwyddwr Anweithredol Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau. Ymddiriedolwr Alacrity Foundation. Ymddiriedolwr a Chadeirydd Victim Support. Cadeirydd GCRE Ltd a Chyfarwyddwr Awen Consulting Services Ltd. Rwyf hefyd yn llysgennad balch ar gyfer Tŷ Hafan. Rwy'n eistedd fel aelod o Fforwm Cydweithwyr y GYmdeithas.

Ian Greenstreet, Cyfarwyddwr Anweithredol

Ymunodd â'r Bwrdd ym mis Tachwedd 2022. Chair of Audit Committee. Member of Board Risk Committee and Governance and Nominations Committee.

Claire Hafner Sgiliau a phrofiad
Rwy'n gyfrifydd cymwysedig ac yn gymrawd o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (FCA). Rwyf wedi bod ag uwch swyddi mewn prif sefydliadau ariannol gan gynnwys HSBC, Lloyds, ac ABN AMRO. Mae gennyf brofiad bwrdd a rheoli amrywiol ym maes bancio, yswiriant, technoleg ariannol, ynghyd â sgiliau ym maes risg, twf strategol, cyllid ac angerdd dros ddigidoleiddio.

Cyfraniad i lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Gan mai fi yw Hyrwyddwr Chwythu'r Chwiban penodedig y Bwrdd, rwyf hefyd ar gael i Aelodau os oes ganddynt bryderon, na fu modd eu datrys drwy'r sianeli arferol, neu y mae cyswllt o'r fath yn amhriodol iddynt. Bydd fy mhrofiad yn fy ngalluogi i helpu'r Bwrdd gyflawni ei gyfrifoldebau goruchwylio o ran materion sy'n ymwneud ag uniondeb datganiadau ariannol a naratif; systemau rheoli risg a rheoli mewnol.

Swyddi eraill
Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Infinity Capital Partners Ltd. Cyfarwyddwr Bwrdd United Bank of Africa. Cyfarwyddwr Bwrdd Natwest Trustee and Depositary Services Limited

Claire Hafner ACA, MA, Cyfarwyddwr Anweithredol

Ymunodd â'r Bwrdd ym mis Ebrill 2018. Chair of Remuneration Committee. Member of Audit Committee and Governance and Nominations Committee.

Claire Hafner Sgiliau a phrofiad
Rwyf yn cyfrifydd cymwysedig, wedi dechrau fy ngyrfa yn Ernst & Young ym maes archwilio a threth gorfforaethol. Yn flaenorol, roeddwn yn Gyfarwyddwr Anweithredol Cymdeithas Adeiladu West Bromwich am 6 blynedd.

Cyfraniad i lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Mae fy mhrofiad ar draws y gwahanol sectorau gwasanaethau ariannol, taliadau, gwasanaethau proffesiynol, amlgyfrwng a thelegyfathrebu yn fy ngalluogi i gyfrannu at raglen newid y Gymdeithas ac i lwyddiant parhaus y Gymdeithas.

Julie-Ann Haines MSc, BA [Hons], Prif Swyddog Gweithredol

Ymunodd â'r Bwrdd ym mis Mai 2016. Cyfarwyddwr Anweithredol, Pwyllgor Cydnabyddiaeth.

Julie Ann Haines Sgiliau a phrofiad

Mae gennyf dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn busnesau manwerthu, gan gynnwys Sainsbury’s a HBOS, ym maes marchnata, gwerthu a thechnoleg. Cefais fy mhenodi yn Brif Swydd Gweithredol Principality ym mis Medi 2020. Rwy'n ymddiriedolwr Canolfan Mileniwm Cymru.

Cyfraniad i lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Rwy'n angerddol dros y Gymdeithas, i sicrhau ein bod yn ategu ein hethos a'n gwerthoedd cydfuddiannol, wedi ein gwreiddio yn ein cymunedau, rhoi profiad gwych i gwsmeriaid a diwallu eich anghenion.  Fy swyddogaeth yw arwain y Tîm Gweithredol i sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni strategaeth y Gymdeithas er budd hirdymor ein Haelodau a sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu'n ddidrafferth o ddydd i ddydd, gan gefnogi cydweithwyr a datblygu diwylliant cynhwysol a diddorol.  

Swyddi eraill
Aelod o Bwyllgor Cynghori Strategol Haen Ganol UK Finance. Aelod o Fwrdd Cynghori Rhyngwladol Ysgol Fusnes Caerdydd. Ymddiriedolwr Canolfan Mileniwm Cymru.

Sally Jones-Evans FCIB, MBA, MSC, Cadeirydd, Cyfarwyddwr Anweithredol

Ymunodd â'r Bwrdd ym mis Chwefror 2015, etholwyd yn Gadeirydd y Gymdeithas ym mis Ebrill 2021. Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau. Aelod o'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth.

Sally Jones-Evans Sgiliau a phrofiad
Mae'n anrhydedd enfawr i wasanaethu fel Cadeirydd. Mae fy chwe blynedd blaenorol o wasanaeth ar y Bwrdd wedi fy mharatoi ar gyfer hyn gyda gwybodaeth ddofn am y Gymdeithas i gyd-fynd á fy mlynyddoedd o brofiad ehangach yn y Gwasanaethau Ariannol.

Cyfraniad i lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Rwy'n gyfrifol am arwain gwaith y Bwrdd, sicrhau bod y bwrdd yn gweithredu'n effeithiol wrth bennu'r strategaeth, goruchwylio perfformiad a phennu parodrwydd y Gymdeithas i gymryd risg. Rwyf hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod cynlluniau dilyniant cadarn ar waith, bod y Gymdeithas yn cynnal y safonau uchaf o lywodraethu corfforaethol a bod gennym ddiwylliant agored a thryloyw.

Swyddi eraill
Rwy'n eistedd ar Fyrddau Hafren Dyfrdwy Ltd (is-gwmni o Severn Trent PLC) a Delio Wealth Ltd, busnes technoleg ariannol yng Nghymru sy'n tyfu'n gyflym. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn trechu tlodi ac anghyfiawnder ac rwy'n gwasanaethu fel Ymddiriedolwr Tearfund, yr elusen datblygu dyngarol a thramor.

Iain Mansfield, LLB (Hons), FCA, Prif Swyddog Ariannol

Ymunodd â'r Bwrdd ym mis Rhagfyr 2019.

Iain Mansfield Sgiliau a phrofiad
Rwy'n Gyfrifydd Siartredig gyda dros 15 mlynedd o brofiad ariannol mewn swyddi uwch-arwain ar gyfer banciau mawr, busnesau newydd a chwmnïau gwasanaethau ariannol manwerthu a gefnogir gan ecwiti preifat.

Cyfraniad i lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Fy swyddogaeth yw sicrhau ein bod yn cynllunio ac yn rheoli cyfalaf, hylifedd a chyllid y Gymdeithas er budd hirdymor ein haelodau a chynaliadwyedd y Gymdeithas.

Shimi Shah, Cyfarwyddwr Anweithredo

Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Mai 2023. Member of Remuneration Committee, Board Risk Committee and Governance and Nominations Committee.

S Shah Sgiliau a phrofiad
Dechreuodd Shimi ym maes cyllido prosiectau yn cynnwys Affrica ac Asia gyda Citigroup, ac yna aeth ymlaen i dreulio dros 20 mlynedd ym maes cyfalaf menter ac ecwiti preifat yn rheoli a buddsoddi asedau o dros $1 biliwn yn y DU, UDA a’r Dwyrain Canol. Mae hi wedi cadeirio nifer fawr o fyrddau, ac wedi gwasanaethu ynddynt, mewn sectorau diwydiannau amrywiol, gan gynnwys y Bathdy Brenhinol. O’r camau cynnar, roedd Shimi hefyd yn rhan o fwrdd BBOXX sydd nawr wedi pweru mwy na 300,000 o gartrefi yn Nwyrain Affrica gan ddarparu ynni i fwy na 1.5 miliwn o bobl.

Cyfrannu i lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Mae’n fraint ymuno â Principality ar ei thaith i fod yn sefydliad mwy bwriadus a chynhwysol ar gyfer ei haelodau ledled Cymru a’r DU. Rwy’n edrych ymlaen at helpu gyda’r llwyddiant parhaus o dyfu’r busnes a chael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau.

Pwyllgorau'r Bwrdd

Mae'r Bwrdd yn cwrdd yn rheolaidd ac yn gweithredu drwy ei chwech pwyllgor:

  • Pwyllgor Archwilio
    Mae'r Pwyllgor Archwilio yn cynorthwyo'r Bwrdd i gyflawni ei gyfrifoldebau goruchwylio yn ymwneud ag adrodd ariannol; systemau rheoli risg a rheoli mewnol; atal twyll, osgoi trethi, llwgrwobrwyo a llygredd; archwilio mewnol ac archwilio allanol.
  • Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau
    Arwain y broses benodiadau ar gyfer y Bwrdd a gwneud argymhellion i'r Bwrdd.
  • Pwyllgor Risg y Bwrdd
    Swyddogaeth Pwyllgor Risg y Bwrdd yw sicrhau y ceir dull cydgysylltiedig o oruchwylio a rheoli risgiau strategol allweddol a chorfforaethol.
  • Pwyllgor Cydnabyddiaeth
    Cyfrifoldeb dros oruchwylio datblygiad a gweithrediad polisîau ac arferion cydnabyddiaeth ariannol y Gymdeithas.
  • Is-bwyllgor y Bwrdd dros Gymeradwyaeth Fasnachol
    Swyddogaeth Is-bwyllgor dros Gymeradwyaeth Fasnachol y Bwrdd yw cymeradwyo Ceisiadau Masnachol yn unol â pholisi benthyca masnachol sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Bwrdd.
  • Pwyllgor Cydnabyddiaeth Anweithredol
    Swyddogaeth y Pwyllgor yw pennu ac adolygu ffioedd y Cyfarwyddwyr Anweithredol gan sicrhau eu bod yn briodol i ddenu unigolion o ansawdd uchel i'r Gymdeithas a'u cadw.

Siarter Archwilio Mewnol

Diben Archwilio Mewnol yw rhoi barn annibynnol a diduedd ar ddigonolrwydd a swyddogaethau'r system reolaeth fewnol ar gyfer y Gymdeithas.

Mae'r siarter hwn yn diffinio'n ffurfiol diben y swyddogaeth Archwilio Mewnol o fewn Cymdeithas Adeiladu Principality yn ogystal â'i awdurdod, cwmpas a'i gyfrifoldeb.

Mae'n tanlinellu pwysigrwydd annibyniaeth a gwrthrychedd Archwilio Mewnol ac yn disgrifio sut mae'r swyddogaeth Archwilio Mewnol yn rhyngweithio â'r busnes a gyda Phwyllgor Archwilio'r Bwrdd.

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen Siarter Archwilio Mewnol Cymdeithas Adeiladu Principality.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig