Cyfrifwr Cynilo
2 o 5: Swm cychwynnol
3 o 5: Trefnu taliadau
4 o 5: Diffinio eich anghenion o ran gallu mynd at eich arian
5 o 5: Canlyniadau
Amodau a rhagdybiaethau
- Roedd y canlyniadau a ddangoswyd yn dibynnu ar y wybodaeth a ddarparwyd gennych ac maent at ddibenion enghreifftiol yn unig. Ni ddynodir ar unrhyw gyfryw eu bod yn addas ar gyfer eich amgylchiadau unigol chi.
- Mae’r cyfrifiadau’n rhagdybio y telir llog ar sail gros* o dreth incwm yn flynyddol.
- Mae buddsoddi mewn ISA yn golygu bod y llog rydych yn ei ennill wedi ei eithrio o Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf y DU, ond ceir cyfyngiadau o ran faint y cewch ei fuddsoddi yn ystod pob blwyddyn dreth.
- Ni chewch agor dau neu fwy o ISAs arian parod yn ystod yr un flwyddyn dreth.
- Rhagdybir tymor o 5 mlynedd o ran cynhyrchion nad oes ganddynt dymor penodol, lle nad ydych wedi nodi dyddiad penodol.
- Rydym yn rhagdybio na fyddwch yn codi unrhyw arian o’ch cyfrif ac na fydd y cyfraddau llog ar ein cyfrifon cyfradd amrywiol yn newid yn ystod y cyfnod rydych yn bwriadu cynilo.
- Rydym yn rhagdybio nad ydych wedi agor ISA yn ystod y flwyddyn dreth gyfredol. Caiff ISAs arian parod eu cynnwys yn y canlyniadau hyd yn oed os bydd eich adneuon yn uwch na’r terfyn ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol, sef £20,000.
* Gros yw’r gyfradd llog yn y contract sy’n daladwy cyn didynnu treth incwm yn unol â’r gyfradd a nodir dan y gyfraith.
† Mae AER yn sefyll am Gyfradd Gyfwerth Flynyddol (Annual Equivalent Rate) ac mae’n dangos beth fyddai’r gyfradd llog pe bai llog yn cael ei dalu a’i adlogi unwaith y flwyddyn.
ˆ Mae rhydd o dreth yn golygu bod y llog rydych yn ei ennill wedi’i eithrio o Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf y DU. Mae triniaeth dreth yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a gallai newid yn y dyfodol.
We are covered by the Financial Services Compensation Scheme.
Find out more about what it means for you.