A gaf i wneud cynnig ar dŷ cyn gwerthu fy nhŷ i?

Diweddarwyd ddiwethaf: 18/11/2021 | Amser darllen: 2 munud

Gall prynu a gwerthu eiddo ar yr un pryd achosi straen a gall fod yn ddryslyd. 

Gall fod yn anodd gwybod pa un ddylai ddigwydd yn gyntaf. A ddylech chi aros nes bod gennych brynwr ar gyfer eich cartref eich hun cyn i chi roi cynnig i brynu eiddo newydd? Neu i’r gwrthwyneb? 

Mae llawer o bethau i’w hystyried, ac mae’n helpu i fod mor barod â phosibl.

Gwneud cynnig

Felly, a gewch chi wneud cynnig ar dŷ cyn gwerthu eich un chi? 

Yr ateb syml yw cewch, cewch wneud cynnig ar dŷ cyn gwerthu eich un chi. Mae’n rhaid i asiantau eiddo roi gwybod i’r gwerthwyr tai y maent yn eu cynrychioli am bob cynnig. 

Ond mae’n bosibl na fyddant yn cymryd eich cynnig o ddifrif os nad ydych chi wedi cael cynnig ar eich tŷ chi. Mewn geiriau eraill, mae’n bosibl y dywedir wrthych chi yn iaith y farchnad eiddo nad ydych yn ‘brynwr sy’n gallu bwrw ymlaen’.

Hefyd, mewn marchnad dai boeth - fel haf 2021 - mae’n bosibl y cewch eich rhwystro rhag rhoi cynnig am reswm arall: efallai na fydd asiant hyd yn oed yn caniatáu i chi weld y tŷ yn y lle cyntaf. Gallai rhentwyr a phobl sy’n chwilio am dŷ sydd eisoes wedi gwerthu eu cartref eu hunain gael y cyfle cyntaf i brynu. 

Ond mae sawl peth y gallwch chi ei wneud i roi eich hun mewn sefyllfa mor gryf â phosibl i ddangos eich bod yn brynwr dibynadwy, trefnus a difrifol, ac i’ch gwneud yn fwy deniadol yng ngolwg yr asiant eiddo a’r gwerthwr. 

Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael â’ch cyllideb, a faint y gallwch chi ei fforddio, a phrofi hynny drwy gael gafael ar gytundeb morgais mewn egwyddor. 

Gallwch hefyd sicrhau bod gennych gyfreithiwr yn barod. Gallwch wedyn drosglwyddo ei fanylion i’r asiant eiddo pan fyddwch yn cyflwyno cynnig. Dyma arwydd arall y byddwch yn gallu symud yn gyflym a’ch bod o ddifrif ynghylch prynu tŷ. 

Os byddwch chi’n aros nes bod cynnig wedi ei roi am eich eiddo, yna byddwch mewn gwell sefyllfa i wneud cynnig a negodi pris da. Yn well fyth, ar ôl i chi werthu, byddwch yn gwybod yn union faint y gallwch ei wario oherwydd bydd arian y gwerthiant gennych yn y banc.

Ystyried eich morgais

Ffactor arall i’w ystyried wrth amseru’r broses brynu a gwerthu yw sicrhau eich bod yn gallu cael morgais ar gyfer eich tŷ newydd. 

Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cwblhau cais am forgais os na fyddwch wedi cael cynnig am eich tŷ eich hun. Y rheswm am hynny yw oherwydd nad oes gan y benthyciwr unrhyw sicrwydd y byddwch yn gallu gwerthu eich cartref am y gwerth yr ydych yn ei ddisgwyl. Ceir eithriadau, ond ychydig o bobl sy’n gallu fforddio i dalu morgais newydd, gan barhau i glirio hen forgais. 

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am werthu eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig