Gwerthu fy nhŷ: yr hyn y mae angen i mi ei wybod

Diweddarwyd ddiwethaf: 06/01/2022 | Amser darllen: 7 munud

Gall gwerthu eich cartref achosi straen a gall fod yn gymhleth, yn enwedig os ydych chi hefyd yn chwilio am le newydd i symud iddo.

Dilynwch ein harweiniad cam wrth gam i werthu eich cartref. Bydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer pob cam o werthu eich tŷ.   

Os ydych chi’n ystyried gwerthu eich cartref, neu’n dechrau’r broses o wneud hynny, dilynwch ein rhestr wirio isod, gan dicio pob cam o’r broses.

Trefnu eich arian

Cyn i chi roi eich cartref ar y farchnad, byddwch yn dymuno gwybod faint yw ei werth. Edrychwch ar dai eraill sydd wedi eu gwerthu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn eich ardal i gael syniad o’r dosbarth prisiau.

Gallwch gael amcangyfrif cyflym o bris eich tŷ gan ddefnyddio offeryn prisio cartrefi Zoopla. Fel arall, gallwch archebu prisiad ar-lein am ddim gydag asiant.

Mae’n bwysig gwirio hefyd a ydych yn dal yng nghyfnod eich morgais, oherwydd efallai y bydd angen i chi dalu ffi am symud cyn i’ch cyfnod gwreiddiol ddod i ben. Dylech wirio eich papurau morgais neu siarad â’ch benthyciwr i weld a fydd angen i chi dalu unrhyw ffioedd ad-dalu cynnar.

Dewis asiant eiddo

Y cam mawr cyntaf tuag at werthu eich cartref yw dewis asiant eiddo. Byddwch yn dymuno gwerthu gyda rhywun blaenllaw, profiadol ac sy’n cyfateb i’ch cyllideb. 

Ymchwiliwch i asiantau eiddo yn eich ardal leol i ganfod pa mor llwyddiannus ydynt cyn dewis un. Pethau i’w hystyried yw faint maen nhw’n ei godi, pa mor gyflym maen nhw’n gwerthu cartref ac am faint maen nhw’n gwerthu cartref o’i gymharu â’r pris y gofynnir amdano. Ceir dulliau ar-lein sy’n eich galluogi i gymharu asiantau lleol yn seiliedig ar eu perfformiad yn y gorffennol, neu gallech siarad â phobl sy’n byw yn eich ardal leol, i gael gwybod beth yw eu hargymhellion. 

Byddwch yn dymuno cael nifer o brisiadau am ddim gan amrywiaeth o asiantau eiddo er mwyn deall am faint y gallech werthu eich tŷ. Fodd bynnag, y chi sy’n penderfynu yn y pen draw faint fydd y pris gwerthu.  

Paratoi eich tŷ i’w werthu

Cyn i chi roi eich tŷ ar werth, rhowch rywfaint o ofal i’ch eiddo i’w wneud yn ddeniadol i ddarpar brynwyr. Mae pob cartref yn dangos rhai arwyddion o draul, ond mae ychydig o bethau y gallwch eu gwneud i baratoi eich cartref yn gyflym ar gyfer ymweliadau.

  • Gwnewch i’r tu allan edrych yn dderbyniol trwy dacluso eich gardd ffrynt, torri’r lawnt a glanhau’r ffenestri a’r drysau. 
  • Yn hytrach na gwneud newidiadau mawr cosmetig i’r tu mewn, mae cot ffres o baent a glanhau’n dda yn gwneud gwahaniaeth mawr. 
  • Os ydych yn dymuno gwneud unrhyw newidiadau mawr fel gosod cegin neu ystafell ymolchi newydd, edrychwch ar faint o werth y gallai hyn ei ychwanegu at eich eiddo o’i gymharu â’r arian a fydd yn cael ei wario.  

Wrth i chi baratoi am ymweliadau, mae’n bwysig creu gofod y gallai darpar brynwyr weld eu hunain yn byw ynddo. Felly gwnewch yn siŵr bod y lle’n lân ac yn daclus a bod holl nodweddion allweddol y tŷ yn cael eu harddangos ac nad ydynt yn cael eu gorchuddio gan eich pethau chi. 

Gwneud cais am dystysgrif perfformiad ynni

Hefyd, bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif perfformiad ynni cyn y gallwch roi eich cartref ar y farchnad. Mae hyn yn graddio eich cartref o ran effeithlonrwydd ynni a bydd yn rhaid ichi ei rannu â darpar brynwyr.  

Dylai asesydd achrededig archwilio eich eiddo a chyflwyno tystysgrif i chi. Gallwch ddefnyddio offeryn GOV.UK i ddod o hyd i asesydd cymwys yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. 

Mae cost asesiad yn dibynnu ar yr arolygwr y byddwch yn ei ddewis a maint eich eiddo. 

Dod o hyd i gyfreithiwr trawsgludo

Bydd cyfreithiwr trawsgludo yn gofalu am ochr gyfreithiol gwerthiant eich cartref. Yn yr un modd ag asiant eiddo, dylech wneud rhywfaint o ymchwil i ganfod pa rai yw’r rhai blaenllaw a chael dyfynbrisiau oddi wrth ychydig o gwmnïau, er mwyn cymharu costau. Gallwch ddod o hyd i grynodeb o’r prisiau cyfartalog am gyfreithiwr ar ein blog, faint mae’n ei gostio i werthu tŷ

Pan fyddwch wedi dewis cyfreithiwr, bydd angen i chi lenwi holiaduron i roi gwybodaeth am yr eiddo i ddarpar brynwyr. 

Er hynny, mae’n syniad da dewis cyfreithiwr trawsgludo cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi oedi, bydd yn dechrau gweithio cyn gynted ag y byddwch wedi derbyn cynnig am eich cartref. 

Derbyn cynnig yr ydych yn hapus ag ef

Pan fydd eich tŷ ar y farchnad, gobeithio y bydd pobl yn dod i weld eich tŷ - gyda’ch asiant eiddo fel arfer - ac yna, gallwch ddechrau derbyn cynigion oddi wrth ddarpar brynwyr. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’ch asiant eiddo roi gwybod ichi am bob cynnig, ni waeth beth yw’r pris. 

Os ydych yn cael cynnig nad ydych yn hapus ag ef, gallwch ei wrthod yn llwyr neu ofyn i’ch asiant eiddo negodi’r pris. 

Pan fyddwch wedi cael cynnig yr ydych yn hapus ag ef, bydd angen i chi ei dderbyn yn ffurfiol. Nid yw derbyn cynnig yn rhwymol yn gyfreithiol, ac mae’r naill barti neu’r llall yn dal yn gallu tynnu allan o’r gwerthiant. 

Cyfnewid contractau

Cyn i chi gyfnewid contractau, bydd rhywfaint o waith cysylltu â’r prynwyr a’u cyfreithiwr er mwyn sefydlu amserlenni a thrafod pa ffitiadau a dodrefn fydd yn cael eu cynnwys. 

Fodd bynnag, ar ôl i’r contractau gael eu cyfnewid, daw’r gwerthiant yn rhwymol yn gyfreithiol ac rydych wedi ymrwymo yn ôl y gyfraith i werthu eich eiddo i’r prynwr. 

Cwblhau

Mae’r diwedd ar y gorwel, ac rydych wedi cyrraedd y cam olaf yn y broses o werthu eich cartref. Ar ddiwrnod cwblhau’r gwerthiant, mae’r eiddo yn newid perchnogaeth o’r diwedd ac rydych yn trosglwyddo’r allweddi i’r perchnogion newydd. Gall diwrnod cwblhau’r gwerthiant fod yn brysur ac yn llawn straen os nad ydych yn barod. Darllenwch ein harweiniad i beth sy’n digwydd ar ddiwrnod cwblhau’r gwerthiant i gael gwybod beth i’w ddisgwyl. 

Os nad ydych eisoes wedi symud allan o’ch eiddo, diwrnod cwblhau’r gwerthiant yw eich cyfle olaf. Ar ddiwrnod cwblhau’r gwerthiant, mae angen i’r eiddo fod yn y cyflwr y cytunwyd arno yn y contractau felly, os gallwch, mae’n syniad da symud allan cyn y dyddiad hwn er mwyn osgoi tramgwyddo hyn. 

I gwblhau gwerthiant eich cartref, bydd angen i chi ad-dalu gweddill eich morgais. Pan fydd eich cyfreithiwr trawsgludo wedi derbyn yr arian oddi wrth y prynwr, bydd yn talu hyn i chi. 

Pan fydd gwerthiant eich tŷ wedi ei gwblhau, bydd angen i chi dalu costau eich cyfreithiwr trawsgludo a’ch asiant eiddo. 

Ar ôl cwblhau, rydych wedi gwerthu eich tŷ o’r diwedd!

 

 

Click here for our Wales House Price Index page

Dysgwch fwy >

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am werthu eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig