Rydym yn cefnogi cymdeithasau tai gyda benthyciadau hirdymor
Mwy o wybodaethRydym ni wedi darparu atebion cyllid pwrpasol yn ddiweddar
Darllenwch am y prosiectau rydym wedi eu cefnogiRydym yn cefnogi prosiectau adeiladu gwyrddach gyda'n Cronfa Werdd gwerth £20m
Mwy o wybodaeth£100m Urban Development The Mill
Read More >Masnachol
Principality Masnachol
Mae ein tîm masnachol yn ymrwymo i ddod o hyd i'r ateb pwrpasol gorau ar gyfer eich buddsoddiad a'ch anghenion datblygu, ac maent yma i helpu. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â chi, â'n rheolaeth perthynas, darpariaeth gwasanaeth, arbenigedd a phrofiad o'r radd flaenaf, sy'n golygu bod ein cwsmeriaid yn dod yn ôl atom am help gyda'u holl gyllid masnachol. Gyda'n gilydd fe wnawn gefnogi eich busnes i ffynnu.
Cyllid Buddsoddi
Ar gyfer caffael ac ailariannu eiddo buddsoddi diwydiannol, manwerthu, preswyl a swyddfa. I wybod mwy am gyllid buddsoddi cliciwch yma >
Cyllid Datblygu
Ar gyfer datblygiadau preswyl a datblygiadau masnachol cyn gwerthu neu cyn gosod.
I wybod mwy am gyllid datblygu cliciwch yma >
Ymholi
Cam 1
Llenwch ein ffurflen ymholi ac fe wnawn gysylltu â chi o fewn dau ddiwrnod gwaith i drafod eich datblygiad.
Cefnogi
Cam 2
Bydd aelod o'n Tîm Perthynas mewn cysylltiad a byddwn yn gweithio gyda'n gilydd cyn ac ar ôl gwneud cais i gefnogi eich anghenion datblygu.
Astudiaethau achos
Cliciwch isod i weld rhai o'r prosiectau rydym wedi trefnu cyllid ar eu cyfer ym meysydd Preswyl, Diwydiant a Thai Fforddiadwy.
Ein tîm masnachol
Rydym yn falch iawn o'n gwasanaeth personol rhagorol. Pan fyddwch yn derbyn ateb cyllid eiddo gyda ni, bydd un o'n rheolwyr perthynas arbenigol yno i'ch helpu chi.
Pam dewis Principality Masnachol?
Rydym wedi bod yn cynnig benthyciadau ar gyfer amrywiol brosiectau a datblygiadau ers 2002, ac rydym yn gwybod pa mor bwysig yw eich gwaith chi, a dyna pam rydym yn sicrhau ein bod yn gwneud busnes mor gyflym a didrafferth â phosibl.
Yn ystod 2018 gwnaethom roi benthyg mwy na £140 miliwn, helpu i adeiladu 460 o gartrefi newydd a chynyddu ein hôl troed daearyddol.
Mae ein cwsmeriaid yn ymddiried ynom oherwydd ein bod yn cymryd yr amser i ddod i'w hadnabod, ac mae gennym ddull hyblyg drwy ein 9 rheolwr perthynas, yn rhan o dîm ehangach o 26, i gadw popeth mor gyflym a syml â phosibl ar gyfer ein cwsmeriaid. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y seiliau cryf hyn yn y dyfodol.