Ein tîm masnachol
Bydd ein tîm masnachol profiadol yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion a darparu ateb ariannu sydd wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi.
Cysylltu â ni
I drafod cyllid ar gyfer eich datblygiad diweddaraf
E-bost: commercialenquiries@principality.co.uk
Ffôn: 02920 773 538 
Neu cysylltwch ag un o'n rheolwyr perthynas yn uniongyrchol.
- 
                                Richard WalesCyfarwyddwr Benthyca Masnachol, Principality Masnachol Fel Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol, mae Richard yn arwain y tîm masnachol, gan ddod â digonedd o brofiad o’i rolau masnachol blaenorol ar draws Principality a sefydliadau ariannol eraill, gan gynnwys HSBC. 
- 
                                Gareth ReddingUwch-reolwr Portffolio Wedi gweithio am dros 20 mlynedd yn y sector eiddo masnachol gyda banciau’r stryd fawr, mae Gareth yn gofalu am bortffolio mawr o gwsmeriaid yn y marchnadoedd buddsoddi a datblygu eiddo. 
- 
                                Jan QuarringtonUwch-reolwr Portffolio – Tai Fforddiadwy Mae Jan yn frwd dros rôl cymdeithasau tai ac mae wedi ymrwymo i'w cefnogi i ddarparu mwy o dai fforddiadwy. Bu Jan yn gweithio yn y sector tai cymdeithasol a bancio corfforaethol ers blynyddoedd lawer felly mae hi'n deall yr heriau y mae cymdeithasau'n eu hwynebu. 
- 
                                Chad GriffithsUwch-reolwr Portffolio Yn arbenigwr ar gyllid datblygu, mae llawer o bortffolio Chad ledled Cymru, de-orllewin a de-ddwyrain Lloegr wedi bod yn ariannu prosiectau preswyl adeiladau newydd. 
- 
                                James FordUwch-reolwr Cysylltiadau Gan reoli portffolio o gleientiaid ar draws eiddo masnachol a datblygu preswyl, gall James ddarparu atebion ariannol wedi'u teilwra ar gyfer eich prosiect. 
- 
                                Maria EliasRheolwr Cysylltiadau Gan reoli portffolio mawr o gwsmeriaid ar draws amrywiaeth o sectorau eiddo, mae Maria yn arbenigo mewn gweithredu cytundebau. 
- 
                                Charlotte VickRheolwr Cysylltiadau Wedi graddio mewn economeg a chyllid o Brifysgol Caerdydd, ymunodd Charlotte â Principality yn 2018. Mae Charlotte yn gofalu am bortffolio cynyddol o gleientiaid buddsoddi a datblygu. 
- 
                                Sarah LavenderRheolwr Cysylltiadau (Tai Fforddiadwy) Gyda thros 15 mlynedd o brofiad yn y sector bancio masnachol a morgeisi, mae Sarah yn rheoli portffolio o gleientiaid yn y sector tai fforddiadwy.