Cyfradd Amrywiol Safonol a Chyfradd Banc Banc Lloegr
Morgeisi Cyfradd Amrywiol
Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i wybod beth fydd eich taliadau morgais misol, yn enwedig os yw eich morgais yn gysylltiedig â Chyfradd Banc Banc Lloegr neu ein Cyfradd Amrywiol Safonol (SVR) a bod yna newid.
Rydym wedi creu'r esboniad syml hwn o'r Gyfradd Amrywiol Safonol, Cyfradd Banc Banc Lloegr a sut y gallent effeithio arnoch chi.
- Cyfradd Amrywiol Safonol (SVR)
- Cyfradd Banc Banc Lloegr
Dyma'r gyfradd llog a bennir gan eich benthyciwr ar forgais. Gallai'r gyfradd hon gynyddu, am y rhesymau a nodir yn nhelerau ac amodau'r benthyciwr, neu ar ddisgresiwn y benthyciwr ei hun. Bydd newidiadau fel arfer (ond dim bob amser) o ganlyniad i newidiadau i Gyfradd Banc Banc Lloegr, a elwir yn aml yn Gyfradd Sylfaenol. Yr SVR yw cyfradd llog arferol y benthyciwr heb unrhyw ostyngiadau na bargeinion. SVR Principality ar hyn o bryd yw 7.60%.
Bydd hyn yn dibynnu ar y math o forgais sydd gennych:
Mae gen i Forgais Cyfradd Sefydlog.
Os oes gennych Forgais Cyfradd Sefydlog, ni fydd eich taliadau misol yn newid tan i chi gyrraedd diwedd cyfnod eich cyfradd arbennig. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd eich taliadau yn cynyddu nac yn gostwng yn dilyn newidiadau yn ein SVR, felly bydd gennych y sicrwydd o wybod yn union faint y bydd angen i chi ei dalu bob mis.
Ar ddiwedd cyfnod eich cyfradd arbennig, bydd eich cyfradd llog yn newid i'n SVR, os nad ydych wedi newid i gynnyrch morgais arall.
Mae gen i Forgais Cyfradd Ostyngedig.
Os oes gennych Forgais Cyfradd Ostyngedig, mae eich cyfradd llog yn amrywiol a bydd yn is na'n SVR am gyfnod penodol o amser. Golyga hyn, os bydd yr SVR yn newid, bydd eich ad-daliadau misol yn newid hefyd a gallent gynyddu neu ostwng.
Ar ddiwedd eich cyfradd arbennig, bydd eich cyfradd llog yn newid i'n SVR, os nad ydych wedi newid i gynnyrch morgais arall.
Mae gen i Forgais Tracio.
Os oes gennych Forgais Tracio, mae eich cyfradd llog yn amrywiol a bydd yn 'tracio' Cyfradd Banc Banc lloegr neu'n gysylltiedig â hi tan ddiwedd cyfnod y gyfradd arbennig. Golyga hyn, os bydd unrhyw newidiadau i Gyfradd Banc Banc Lloegr, bydd hynny'n effeithio ar eich cyfradd chi, ac o ganlyniad i hynny ar eich taliadau misol a allai gynyddu neu ostwng, yn dibynnu ar y newid. Fodd bynnag, ni fyddai newid yn ein SVR yn golygu newid yng nghyfradd eich morgais tracio, gan nad yw ein SVR a Chyfradd Banc Lloegr yn uniongyrchol gysylltiedig â'i gilydd.
Ar ddiwedd eich cyfnod arbennig, bydd eich cyfradd llog yn newid i'n SVR, os nad ydych wedi newid i gynnyrch morgais arall.
Mae gen i Forgais SVR.
Os oes gennych forgais SVR, efallai gan fod eich cytundeb morgais wedi dod i ben neu os nad ydych wedi newid eich morgais i un o'n cynhyrchion morgais cyfradd Sefydlog, Gostyngedig neu Tracio, bydd eich llog yn dilyn ein SVR. Golyga hyn y bydd eich taliadau morgeisi yn cynyddu neu'n gostwng yn unol â'r newid i'n SVR.
Os bydd eich taliad misol yn newid o ganlyniad i newid yn ein SVR, byddwn yn ysgrifennu atoch chi â manylion eich ad-daliad misol newydd.
A oes angen i mi newid fy nebyd uniongyrchol?
Nac oes, bydd y swm misol newydd yn cael ei gasglu'n awtomatig gennym ar y dyddiad talu a ddangosir yn eich llythyr. Byddwn yn ysgrifennu atoch chi â manylion eich taliad misol newydd o ganlyniad i unrhyw newid i SVR.
A oes angen i mi newid fy archeb sefydlog?
Oes, bydd angen i chi gysylltu â'ch banc i newid y swm o'r dyddiad y mae'r taliad misol newydd yn ddyledus. Byddwn yn ysgrifennu atoch chi â manylion eich taliad misol newydd o ganlyniad i unrhyw newid i'n SRV. Yn anffodus, ni allwn newid eich archeb sefydlog ar eich rhan felly mae'n bosibl y byddai'n haws i chi newid i dalu drwy ddebyd uniongyrchol.
I newid i ddebyd uniongyrchol, llenwch a dychwelwch y Mandad Debyd Uniongyrchol ar gyfer Morgeisi neu gofynnwch am ffurflen drwy ffonio ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid neu ewch i'ch cangen leol.
A oes angen i mi newid fy nhaliad arian parod neu siec?
Oes, bydd angen i chi newid eich taliad i'r swm newydd o'r dyddiad y mae'r taliad yn ddyledus. Byddwn yn ysgrifennu atoch chi â manylion eich taliad misol newydd o ganlyniad i unrhyw newid i'n SVR.
Mae'n bosibl y byddai'n haws i chi dalu trwy ddebyd uniongyrchol. Llenwch a dychwelwch y Mandad Debyd Uniongyrchol ar gyfer Morgeisi neu gofynnwch am ffurflen drwy ffonio ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid neu ewch i'ch cangen leol.
I gael cymorth a chyngor ar eich morgais, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid neu ewch i'ch cangen leol i wneud apwyntiad ag un o'n Cynghorwyr Morgeisi.
Os yw eich taliadau wedi cynyddu a'ch bod yn credu na allwch chi eu talu, nawr neu yn y dyfodol, mae'n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid neu ewch i'ch cangen leol a bydd ein tîm cyfeillgar yn rhoi gwybodaeth i chi am unrhyw ddewisiadau a allai fod ar gael i chi. Darllenwch ein tudalen we ar yr hyn y gallwch chi ei wneud os ydych chi'n cael trafferthion i dalu eich morgais.
I gael cymorth a chyngor ar newid eich morgais, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid neu ewch i'ch cangen leol i wneud apwyntiad ag un o'n Cynghorwyr Morgeisi.
Ydy, mae Banc Lloegr yn pennu cyfradd llog ('Cyfradd Banc', a elwir hefyd yn 'Cyfradd Sylfaenol') y mae'n ei defnyddio ar gyfer rhoi benthyciadau i sefydliadau ariannol. Mae'r gyfradd llog hon yna'n effeithio ar yr ystod o gyfraddau llog a bennir gan fanciau, cymdeithasau adeiladu a sefydliadau eraill ar gyfer eu cynilwyr a'u benthycwyr eu hunain.
Os oes gennych chi forgais Cyfradd Sefydlog, morgais Cyfradd Ostyngedig neu forgais â chyfradd llog ar y Gyfradd Amrywiol Safonol (SVR), ni chewch eich effeithio'n uniongyrchol gan newid yng Nghyfradd Banc Banc Lloegr, ond mae'n bosibl y byddwn yn adolygu ac yn newid ein SVR yn sgil y newid hwn.
Fodd bynnag, os oes gennych forgais Tracio, mae eich cyfradd llog yn amrywiol a bydd yn 'tracio', neu yn gysylltiedig â Chyfradd Banc Banc Lloegr tan ddiwedd cyfnod y gyfradd arbennig. Golyga hyn y bydd unrhyw newidiadau i Gyfradd Banc Banc Lloegr yn effeithio ar eich cyfradd, ac yn sgil hynny ar eich taliadau misol a allai gynyddu neu ostwng yn dibynnu ar y newid. Ar ddiwedd eich cyfnod arbennig bydd cyfradd llog eich morgais yn newid i'n SVR, os nad ydych wedi newid i gynnyrch morgais arall.
Os bydd eich taliad misol yn newid o ganlyniad i newid i Gyfradd Banc Banc Lloegr, byddwn yn ysgrifennu atoch chi â manylion eich ad-daliad misol newydd.
A oes angen i mi newid fy nebyd uniongyrchol?
Nac oes, bydd y swm misol newydd yn cael ei gasglu'n awtomatig gennym ar y dyddiad talu a ddangosir yn eich llythyr. Byddwn yn ysgrifennu atoch chi â manylion eich taliad misol newydd o ganlyniad i unrhyw newid i Gyfradd Banc Banc Lloegr.
A oes angen i mi newid fy archeb sefydlog?
Oes, bydd angen i chi gysylltu â'ch banc i newid y swm o'r dyddiad y mae'r taliad misol newydd yn ddyledus. Byddwn yn ysgrifennu atoch chi â manylion eich taliad misol newydd o ganlyniad i unrhyw newid i Gyfradd Banc Banc Lloegr. Yn anffodus, ni allwn newid eich archeb sefydlog ar eich rhan felly mae'n bosibl y byddai'n haws i chi newid i dalu drwy ddebyd uniongyrchol.
I newid i ddebyd uniongyrchol, llenwch a dychwelwch y Mandad Debyd Uniongyrchol ar gyfer Morgeisi neu gofynnwch am ffurflen drwy ffonio ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid neu ewch i'ch cangen leol.
A oes angen i mi newid fy nhaliad arian parod neu siec?
Oes, bydd angen i chi newid eich taliad i'r swm newydd o'r dyddiad y mae'r taliad yn ddyledus. Byddwn yn ysgrifennu atoch chi â manylion eich taliad misol newydd o ganlyniad i unrhyw newid i Gyfradd Banc Banc Lloegr.
Mae'n bosibl y byddai'n haws i chi dalu trwy ddebyd uniongyrchol. Llenwch a dychwelwch y Mandad Debyd Uniongyrchol ar gyfer Morgeisi neu gofynnwch am ffurflen drwy ffonio ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid neu ewch i'ch cangen leol, byddwn yn ysgrifennu atoch chi â manylion eich ad-daliad misol newydd.
Os yw eich taliadau wedi cynyddu a'ch bod yn credu na allwch eu talu, nawr neu yn y dyfodol. Mae'n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid neu ewch i'ch cangen leol a bydd ein tîm cyfeillgar yn rhoi gwybodaeth i chi ar unrhyw ddewisiadau a allai fod ar gael i chi. Darllenwch ein tudalen we ar yr hyn y gallwch chi ei wneud os ydych yn cael trafferthion i dalu eich morgais.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech drafod unrhyw newidiadau i'ch morgais, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid neu ewch i'ch cangen leol i wneud apwyntiad ag un o'n Cynghorwyr Morgeisi.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech drafod unrhyw newidiadau i'ch morgais, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid neu ewch i'ch cangen leol i wneud apwyntiad ag un o'n Cynghorwyr Morgeisi.