Awgrymiadau ar gyfer gwerthu eich tŷ yn gyflym

Diweddarwyd ddiwethaf: 18/11/2021 | Amser darllen: 5 munud

Gall gwerthu eich cartref fod yn broses hir a brawychus a all gymryd misoedd lawer i’w chwblhau. 

Fodd bynnag, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i geisio cyflymu’r broses a dod o hyd i brynwr cyn gynted â phosibl.

Gwnewch eich tŷ yn ddeniadol i brynwyr

Mae pa mor gyflym y byddwch yn gwerthu eich cartref yn dibynnu ar ba mor fuan y byddwch yn cael cynnig addas. I gyflymu’r broses o werthu eich tŷ, byddwch eisiau gwneud eich tŷ yn ddeniadol i ddarpar brynwyr.  

  1. Gwnewch yn siŵr bod eich cartref yn gwneud argraff gyntaf dda
    • Gwnewch y tu allan i’ch cartref yn daclus ac yn dderbyniol fel ei fod yn gadael argraff gyntaf dda ar ddarpar brynwyr. Glanhewch y ffenestri a’r drysau i wneud i’ch cartref edrych yn sgleiniog ac yn newydd a symudwch unrhyw finiau neu sbwriel o’r golwg. 
  2. Llwyfannu eich cartref 
    • Mae’n bwysig hefyd gwneud i’r tu mewn deimlo fel rhywle y gallai darpar brynwyr weld eu hunain yn byw ynddo. 
    • Tacluswch unrhyw lanast i wneud i’r cartref ymddangos yn fwy eang a glanhewch yr eiddo yn drwyadl; gallai sinc sy’n llawn llestri budr ddigalonni darpar brynwyr.
    • Gall pethau syml megis gwneud y gwelyau ac ychwanegu clustogau a charthenni i’r soffa a thyweli ffres i’r ystafell ymolchi wneud i’r cartref deimlo’n atyniadol. Cyneuwch ganhwyllau persawrus neu defnyddiwch eich hoff beraroglydd i ychwanegu persawr cynnes i’ch cartref. 
  3. Defnyddio lle awyr agored
    • Os oes gennych ardd ffrynt neu gefn, balconi neu dramwyfa, gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu cadw’n daclus fel y gallwch ddangos faint o le awyr agored sydd ar gael i ddarpar brynwyr. 
  4. Uwchraddiwch ac adnewyddwch eich addurniadau
    • Mae’n bosibl hefyd y byddwch y byddwch yn dymuno uwchraddio addurniadau eich cartref ychydig er mwyn gwneud eich cartref mor ddeniadol â phosibl i unrhyw un sy’n dod i’w weld. Gwnewch welliannau bach i’ch gwaith paent ac amnewidiwch hen bapur wal neu garpedi sydd wedi treulio. 
    • Os oes gennych waliau llachar ac amlwg, efallai y byddwch yn dymuno dewis lliw mwy niwtral er mwyn osgoi digalonni unrhyw ddarpar brynwyr. Gall waliau llachar neu dywyll wneud i ystafell deimlo’n llai hefyd, felly gall dewis lliw gwlanen neu wyn greu’r argraff bod mwy o le. 

Meddyliwch am eich pris gofyn

Os ydych yn gofyn am fwy na’r pris arferol, mae’n bosibl y byddwch yn aros yn hirach nag arfer am gynnig yr ydych yn hapus ag ef. Felly, os ydych yn bwriadu gwerthu eich cartref yn gyflym, byddwch yn strategol gyda’ch pris gofyn.  

Gwnewch waith ymchwil a chanfyddwch am faint y mae cartrefi eraill yn yr ardal wedi eu gwerthu, fel eich bod yn gwybod pa fath o ffigur i’w ddisgwyl. 

Dewiswch bris gofyn realistig er mwyn cynyddu eich siawns o gael cynnig addas yn gyflym. Os nad yw eich cartref wedi gwerthu ar ôl ychydig wythnosau neu fisoedd, efallai y byddwch yn dymuno ystyried lleihau’r pris gofyn er mwyn cyflymu’r gwerthiant. 

Awgrym Da:
Trefnwch nifer o wahanol asiantau eiddo i ddod i brisio eich cartref; fodd bynnag, peidiwch â dewis asiant i werthu eich cartref yn seiliedig ar bris yn unig. Os yw asiant eiddo yn cynnig gwerthu eich cartref am swm sy’n sylweddol uwch na’r lleill, gallai hyn fod yn dacteg i sicrhau busnes ac mae’n bosibl y bydd yn cymryd llawer mwy o amser i werthu. 

Paratoi eich holl ddogfennau ymlaen llaw

Er mwyn cyflymu’r broses, gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl waith papur angenrheidiol i helpu i symud pethau ymlaen yn gyflym. 

Efallai y bydd angen i chi ddarparu dogfennau megis gweithredoedd eiddo, manylion yr eiddo a chynlluniau llawr, biliau cyfleustodau a pholisïau yswiriant yr adeilad neu’r cynhwysion. Gofynnwch i’ch asiant eiddo a’ch cyfreithiwr trawsgludo beth fydd ei angen arnoch i ddarparu a pharatoi y rhain ymlaen llaw. 

Gwefannau Defnyddiol:
Cyn y gallwch werthu eich cartref, bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Perfformiad Ynni, efallai y bydd gwneud cais am hyn cyn gynted â phosibl yn osgoi unrhyw oedi. Gallwch ddefnyddio offeryn GOV.UK i ddod o hyd i asesydd cymwys yng Nghymru neu Loegr a all ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni i chi. Yn yr Alban, mae gan Cofrestr Tystysgrif Perfformiad Ynni yr Alban restr o sefydliadau Tystysgrif Perfformiad Ynni cymeradwy y gallwch eu defnyddio. 

Cwmnïau gwerthu tai yn gyflym

Ceir asiantau eiddo sy’n arbenigo mewn gwerthu eich eiddo yn gyflym i chi. Mae defnyddio cwmni gwerthu tai yn gyflym yn rhywbeth y mae rhai pobl ei ddewis, oherwydd eu bod yn erbyn pwysau amser a bod angen iddynt werthu’n brydlon yn aml. 

Bydd cwmnïau gwerthu tai yn gyflym yn cynnig prynu eich tŷ i chi, neu ddod o hyd i rywun arall i’w brynu yn gyflym iawn, am lai na’i werth ar y farchnad yn aml. 

Mae’n hysbys bod rhai cwmnïau gwerthu tai yn gyflym yn codi ffioedd cudd, yn rhoi prisiadau eiddo anghywir, neu’n lleihau pris y tŷ y funud olaf un - felly edrychwch ar bob cwmni a cheisiwch ddod o hyd i adolygiadau gonest.  

Pa fodd bynnag yr ydych yn dewis gwerthu eich cartref, peidiwch â rhuthro i unrhyw benderfyniadau. Hyd yn oed os ydych o dan bwysau amser ac yn ceisio gwerthu eich cartref yn gyflym, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd amser i ymchwilio i’r holl ddewisiadau ac yn cael cymorth ychwanegol yn ôl yr angen. 

Awgrymiadau Da:

  • Trefnwch i gael rhywun i brisio eich cartref cyn i chi fynd at gwmni gwerthu tai yn gyflym. Ceisiwch gael prisiad gan dri asiant eiddo gwahanol fel eich bod yn ymwybodol o werth eich cartref ar y farchnad. 
  • Peidiwch â bodloni â’r cwmni gwerthu tai yn gyflym cyntaf yr ydych yn dod ar ei draws, cofiwch ystyried nifer o gwmnïau gwerthu tai yn gyflym a chwilio am y dewis gorau. 
  • Canfyddwch a fydd y cwmni’n prynu eich tŷ, neu’n trosglwyddo eich manylion i brynwr trydydd parti. 
  • Gwnewch yn siŵr eu bod yn aelod o National Association of Property Buyers (NAPB). Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, bydd hyn yn rhoi sicrwydd i chi y gallwch hawlio iawndal. 
  • Sicrhewch fod popeth yn ysgrifenedig a pheidiwch â derbyn unrhyw sicrwydd nad yw’n ysgrifenedig.  
  • Peidiwch â bod ofn negodi ar y pris a’r telerau. 
  • Os ydych yn dal i boeni, gallech geisio cael eich cyngor cyfreithiol eich hun gan gyfreithiwr, wrth i chi fynd drwy’r broses. 

Click here for our Wales House Price Index page

Dysgwch fwy >

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am werthu eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig