Gwybodaeth bwysig am Principality, ein cynhyrchion a'n gwasanaethau
Ein gwybodaeth
Mae'r wefan hon i'w defnyddio yn y DU yn unig ac mae'r cynhyrchion a'r gwasanaethau arni ar gael i chi os ydych yn byw yn y DU yn unig.
Caiff y wefan hon ei llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd unrhyw anghydfodau sy'n codi ohoni o dan awdurdod llysoedd Lloegr yn unig.
Byddwn yn cyfathrebu gyda chi yn Saesneg ond os byddwch yn gofyn i ni gyfathrebu gyda chi yn Gymraeg, fe wnawn hynny cymaint ag y gallwn.
Cyfeiriad y Brif Swyddfa yw: Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ Principality, The Friary, Caerdydd, CF10 3FA.
Gallwch wirio ein awdurdodaeth ar Gofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol drwy fynd i wefan yr FCA https://register.fca.org.uk/ neu drwy gysylltu â'r FCA ar 0800 111 6768.
Morgeisi
Rydym yn rhoi gwybodaeth ac yn cynnig ein cynhyrchion morgais ein hunain yn unig.
Rhaid i chi fod yn 18 neu drosodd i wneud cais am forgais gyda ni. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn ystyried yswiriant bywyd a threfniadau diogelu incwm wrth ystyried cymryd morgais. Bydd unrhyw gais y byddwch yn ei wneud yn destun asesiad o'ch sefyllfa ariannol a'ch gallu i fforddio morgais.
Nid ydym yn cynnig unrhyw forgeisi masnachol neu fusnes a reoleiddir gan yr FCA. Bydd llawer o forgeisi prynu-i-osod hefyd yn rhai na chaiff eu rheoleiddio gan yr FCA. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw morgais yn cael ei reoleiddio gan yr FCA.
Yswiriant
Byddwn yn cynghori ac yn rhoi gwybodaeth ar gynhyrchion yswiriant cyffredinol gan nifer cyfyngedig o ddarparwyr y mae gennym berthynas â nhw yn unig.
Ymwadiad
Ni ddylid ystyried unrhyw wybodaeth ar y wefan hon yn gyngor ariannol. Os oes angen cyngor arnoch ar unrhyw gynnyrch neu wasanaeth a gynigir gennym ni, yna gofynnir i chi gysylltu â ni yn uniongyrchol yn unol â'r gofynion ar y wefan.