Deall y Jargon

Does dim rhaid i gyllid fod yn gymhleth ond yn aml dydyn ddim yn dod ar draws rhai o dermau iaith cyllid yn ein bywyd bob dydd. Mae ein canllaw jargon yma i’ch helpu deall rhai o’r termau byddwch yn eu gweld wrth i chi brynu tŷ, buddsoddi’ch arian a threfnu yswiriant.

Deall y Jargon - Cynilion

AER
Ystyr AER yw'r gyfradd gyfatebol flynyddol. Mae'n dangos faint byddai'r gyfradd llog pe bai llog yn cael ei gyfrifo a'i dalu dim ond unwaith y flwyddyn ac mae'n ei gwneud yn haws i chi gymharu cynhyrchion ariannol gwahanol.

BACS
Ystyr BACS yw System Glirio Awtomataidd y Banciau, a ddefnyddir i anfon taliadau arian yn electronig rhwng banciau. Gall BACS hefyd ymddangos ar eich datganiad fel debydau uniongyrchol a chredydau uniongyrchol.

Balans
Y swm o arian sydd yn eich cyfrif neu'r swm sy'n ddyledus gennych.

Cyfradd Sylfaenol / Cyfradd Repo Banc Lloegr
Caiff y gyfradd hon ei rheoli gan Fanc Lloegr, a gall gynyddu neu ostwng yn dibynnu ar amodau'r farchnad. Caiff y gyfradd hon ei hadolygu'n rheolaidd gan Fanc Lloegr.

Cyfalaf
Y swm o arian rydych wedi'i fuddsoddi neu ei fenthyg.

ISA Arian Parod (Cyfrif Cynilo Unigol)
Cyfrif cynilo sydd â therfyn ar faint y gallwch ei gynilo bob blwyddyn. Mae'r llog ar y cynilion yn ddi-dreth, hynny yw ni chodir treth incwm na threth enillion cyfalaf y DU arno.

CHAPS 
Ystyr CHAPS yw System Dalu Awtomataidd y Ty Clirio, a ddefnyddir i anfon taliadau arian yn electronig rhwng banciau fel bod arian yn cael ei dderbyn ar y diwrnod y caiff ei anfon.

Debyd
Taliad allan o'ch cyfrif.

Credyd Uniongyrchol
Credyd neu daliad electronig i mewn i gyfrif.

Blaendal
Mae hwn yn golygu arian rydych yn ei dalu i mewn i gyfrif cynilo. Wrth brynu ty, mae'n golygu'r swm o arian y mae'r prynwr yn ei dalu o'i arian ei hun. Mae hefyd yn golygu'r arian y byddwch yn ei dalu i'r gwerthwr pan fyddwch yn cyfnewid contractau. Blaendal gan y gwerthwr yw pan gaiff rhan o'r balans (5% fel arfer) ei dalu gan yr unigolyn neu'r cwmni sy'n gwerthu'r ty. Bydd angen rhoi gwybod i ni os bydd eich gwerthwr yn gwneud hyn.

Web ISA
ISA y gellir ei agor a'i reoli yn gyfan gwbl ar-lein. Gallwch hefyd drosglwyddo arian i'n e-ISA o ISA arian parod presennol.

Online Saver
Cyfrif cynilo y gellir ei agor a'i reoli yn gyfan gwbl ar-lein.

Ysgutor
Y sawl a benodir mewn ewyllys i ymdrin â'r ystâd.

Taliadau Cyflymach
System a ddefnyddir i anfon taliadau arian yn electronig fel bod y taliadau arian yn cael eu derbyn ar y diwrnod y cânt eu hanfon.

Cynghorydd Ariannol
Unigolyn proffesiynol sy'n gymwys i roi cyngor ariannol, ac y caiff ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

Bond Cyfradd Sefydlog
Buddsoddiad sydd â chyfradd adennill sefydlog, fel arfer am gyfnod penodol o amser.

Llog Gros
Llog cyn i unrhyw dreth gael ei didynnu.

ISA Arian Parod (Cyfrif Cynilo Unigol)
Cyfrif cynilo sydd â therfyn ar faint y gallwch ei gynilo bob blwyddyn. Mae'r llog ar y cynilion yn ddi-dreth, hynny yw ni chodir treth incwm na threth enillion cyfalaf y DU arno.

Aeddfedu
Pan fo buddsoddiad yn dod at ddiwedd ei oes.

Llog Net
Llog ar ôl i unrhyw dreth gael ei didynnu.

Paslyfr
Llyfr a roddir i'r cwsmer sy'n cofnodi eich adneuon, yr arian a godwch a thaliadau llog, ar rai cyfrifon cynilo.

Talai
Unigolyn/sefydliad sy'n cael taliad, drwy siec neu drosglwyddiad electronig er enghraifft.

Talwr
Y sawl sy'n gwneud taliad i'r talai.

Pwer Atwrnai
Dogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i unigolyn weithredu ar ran rhywun arall.

Cyfradd Llog Amrywiol
Y gyfradd llog a delir ar gynilion a benthyciadau sy'n newid yn unol â'r amgylchiadau. Er enghraifft, gallai newidiadau i gyfradd sylfaenol Banc Lloegr fod yn ddylanwad.

Aswiriant Bywyd Cyfan
Bydd yn talu swm y cytunwyd arno pan fyddwch yn marw, pryd bynnag y bo hynny'n digwydd, cyhyd â'ch bod wedi bod yn talu'r premiymau.

Deall y Jargon - Morgeisi

Benthyciad Ychwanegol
Benthyciad pellach, fel y'i gelwir weithiau, ar eich benthyciad morgais os ydych eisoes yn gwsmer morgais

Benthyciad
Y swm o arian y byddwn yn ei fenthyg i chi.

AER
Ystyr AER yw'r gyfradd gyfatebol flynyddol. Mae'n dangos faint byddai'r gyfradd llog pe bai llog yn cael ei gyfrifo a'i dalu dim ond unwaith y flwyddyn ac mae'n ei gwneud yn haws i chi gymharu cynhyrchion ariannol gwahanol.

APR
Ystyr APR yw'r gyfradd canran flynyddol, sef y cyfanswm cost er mwyn cymharu a ddyfynnir gan fenthycwyr morgeisi. Mae'n dangos cyfanswm cost flynyddol morgais wedi'i nodi fel canran o'r benthyciad. Mae'n cynnwys y gyfradd llog y byddwch yn ei thalu ar ddechrau'r morgais, unrhyw ffi gwneud cais, ffi arolwg a thaliadau eraill y mae'n arferol eu talu ar ddiwedd morgais.

Ôl-ddyledion
Fe'i defnyddir i ddisgrifio cyfrif morgais os nad yw benthyciwr wedi talu'r taliadau morgais misol. Caiff ffioedd ôl-ddyledion eu hychwanegu at eich morgais a chodir llog arnynt.

Balans
Y swm o arian sydd yn eich cyfrif neu'r swm sy'n ddyledus gennych.

Cyfradd Sylfaenol / Cyfradd Repo Banc Lloegr
Caiff y gyfradd hon ei rheoli gan Fanc Lloegr, a gall gynyddu neu ostwng yn dibynnu ar amodau'r farchnad. Caiff y gyfradd hon ei hadolygu'n rheolaidd gan Fanc Lloegr.

Morgais Cyfradd Tracio Banc Lloegr
Cynnyrch morgais lle mae'r gyfradd llog yn gysylltiedig â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr a felly bydd yn cynyddu neu'n gostwng yn unol â'r gyfradd sylfaenol.

Buddiolwr
Yr unigolyn neu'r cwmni sy'n cael taliad. Mae hefyd yn golygu rhywun sy'n cael budd o ewyllys, ymddiriedolaeth neu bolisi yswiriant bywyd.

Benthyciad Pontio
Benthyciad dros dro sy'n eich galluogi i brynu cartref newydd, cyn cwblhau'r broses o werthu eich cartref presennol..

Arolwg o Adeilad
Archwiliad mwy cynhwysfawr o'r eiddo yw adroddiad Arolwg o Adeilad ac mae'n arbennig o addas ar gyfer eiddo mawr neu restredig, rhai sydd dros 120 oed neu rai sydd mewn cyflwr gwael. Mae'r arolwg yn archwilio pob rhan o'r adeilad y gellir cael mynediad ato ac mae'n nodi diffygion mawr a bach a gwybodaeth dechnegol am adeiladwaith a deunyddiau.

Cyfalaf
Y swm o arian rydych wedi'i fuddsoddi neu ei fenthyg.

Morgais Cyfalaf a Llog
Morgais lle y gwneir ad-daliadau misol i gwmpasu'r swm rydych wedi'i fenthyg a'r llog a godir arno. Cyhyd â'ch bod wedi talu'r taliadau pan roeddent yn ddyledus, mae hyn yn golygu na fydd unrhyw beth yn ddyledus gennych ar ddiwedd cyfnod y morgais. Fe'i gelwir hefyd yn Forgais Ad-dalu.

Morgais Cyfradd wedi'i Chapio
Morgais cyfradd amrywiol sydd â therfyn uchaf ar y gyfradd llog na all y gyfradd llog fynd y tu hwnt iddo.

Arian yn ôl
Cymhelliant a gynigir i fenthycwyr, ar gynhyrchion morgais penodol, i'ch helpu i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â phrynu eiddo, ac efallai eich helpu i brynu dodrefn i'r eiddo.

Dyfarniad Llys Sirol (CCJ)
Penderfyniad a wneir yn y Llys Sirol, a all fod yn gysylltiedig ag achosion o beidio â thalu dyledion. Cedwir cofnod ar ffeil y llys am chwe blynedd a gall ei gwneud yn anodd benthyg arian. Os byddwch yn talu'r ddyled, bodlonir y CCJ a rhoddir nodyn ar eich cofnodion i ddweud hynny.

Tystysgrif Teitl
Darperir hon gan eich cyfreithiwr pan fyddwch yn prynu eiddo ac mae'n ofynnol ar gyfer pob morgais newydd. Mae'n cadarnhau bod eich cyfreithiwr wedi cynnal yr holl wiriadau angenrheidiol ar deitl (perchenogaeth) yr eiddo a bod unrhyw amodau arbennig sy'n berthnasol i'ch cynnig morgais wedi'u bodloni. Mae'n cadarnhau unrhyw lesddaliadau, trefniadau yswiriant, y pris prynu a rhif y teitl.

Dyddiad Cwblhau
Y dyddiad y cytunwyd arno pan fyddwch yn talu balans yr arian sy'n ddyledus ar yr eiddo rydych yn ei brynu; rydym ni'n talu'r arian rydym yn ei fenthyg i chi drwy forgais; a chaiff yr eiddo ei drosglwyddo'n gyfreithiol fel eich bod chi'n berchen arno ac yn gallu symud i mewn.

Trawsgludo
Yr enw ar y gwaith o gwblhau'r holl gamau sydd eu hangen i drosglwyddo perchenogaeth eiddo.

Asiantaethau Gwirio Credyd
Sefydliadau a drwyddedir o dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 i gadw gwybodaeth am y cytundebau credyd sydd gan bobl a pha mor dda y cadwyd atynt. Bydd benthyciwr yn defnyddio'r asiantaethau hyn i'w helpu i wneud penderfyniadau am eich cais a ph'un a ddylid rhoi benthyciad i chi.

Chwiliad Credyd
Gwiriad y mae'r benthyciwr yn ei wneud gydag asiantaeth gwirio credyd i ddarganfod p'un a oes gennych unrhyw ddyfarniadau llys sirol neu gofnod o beidio ag ad-dalu benthyciadau. Bydd chwiliad credyd hefyd yn dangos a oes gennych hanes da o wneud taliadau am gredyd. Caiff pob chwiliad a wneir ei ychwanegu at eich cofnod gydag asiantaeth gwirio credyd.

Sgorio Credyd
Ffordd o gyfrifo'r risg na chaiff arian a fenthycir ei ad-dalu. Mae sgôr uchel yn golygu bod risg isel na fydd darpar fenthyciwr yn gallu ad-dalu'r arian.

Llog Dyddiol
Llog ar falans morgais a gyfrifir yn ddyddiol yn hytrach nag yn flynyddol, a all sicrhau arbedion mawr i fenthycwyr.

Penderfyniad mewn Egwyddor
Cytundeb gan eich darparwr morgais i fenthyg swm penodol o arian. Mae'r swm yn dibynnu ar gyflwr yr eiddo rydych yn ei brynu a phrawf o bwy ydych a'ch incwm. Nid yw penderfyniad mewn egwyddor yn gyfystyr â chynnig morgais. Ni ddylech wneud unrhyw ymrwymiadau gan ddibynnu arno.

Blaendal
Mae hwn yn golygu arian rydych yn ei dalu i mewn i gyfrif cynilo.
Wrth brynu ty, mae'n golygu'r swm o arian y mae'r prynwr yn ei dalu o'i arian ei hun. Mae hefyd yn golygu'r arian y byddwch yn ei dalu i'r gwerthwr pan fyddwch yn cyfnewid contractau.
Blaendal gan y gwerthwr yw pan gaiff rhan o'r balans (5% fel arfer) ei dalu gan yr unigolyn neu'r cwmni sy'n gwerthu'r ty. Bydd angen rhoi gwybod i ni os bydd eich gwerthwr yn gwneud hyn.

Alldaliadau
Ffioedd y mae eich cyfreithiwr yn eu talu, ac yn eu trosglwyddo i chi, pan fyddwch yn prynu neu'n gwerthu eiddo. Gall y rhain gynnwys ffioedd Cofrestrfa Tir EM, treth stamp a ffioedd chwilio.

Ffi Rhyddhau
y ffi ni godi pan fyddwch yn ad-dalu'r ddyled morgais, fel y dangosir yn y llythyr cynnig.

Cyfradd Ostyngol
Cyfradd llog ar forgais sydd wedi'i gostwng yn is na'n Cyfradd Amrywiol Safonol am gyfnod penodol.

Trefniadau ymlaen llaw i fenthyg arian (‘Drawdowns’)
Un o nodweddion morgeisi hyblyg sy'n eich galluogi i drefnu ymlaen llaw faint o arian yr hoffech ei fenthyg o bosibl yn y dyfodol. Caiff y benthyciad ychwanegol ei ychwanegu at eich morgais presennol a gellir naill ai ei ad-dalu dros gyfnod presennol eich morgais neu dros gyfnod byrrach.

Tâl Ad-dalu Cynnar
Os byddwch yn talu rhan o'ch benthyciad neu'r benthyciad cyfan cyn diwedd cyfnod eich morgais, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Tâl Ad-dalu Cynnar. Mae hwn fel arfer yn berthnasol yn ystod blynyddoedd cynnar morgais a rhoddir manylion unrhyw dâl yn eich cynnig morgais. Mae'r tâl yn gymwys yn ystod y cyfnod ad-dalu cynnar.

Polisi Gwaddol
Polisi yswiriant a fydd yn talu cyfandaliad ar ddyddiad penodol yn y dyfodol, neu pan fyddwch yn marw, os bydd hynny'n digwydd yn gyntaf. Yn aml, defnyddir gwaddoliadau i ad-dalu benthyciadau morgais.

Ecwiti
Y gwahaniaeth mewn arian rhwng gwerth eiddo a'r benthyciad morgais sy'n ddyledus arno. Er enghraifft, os yw eich eiddo yn werth £100,000 a bod £60,000 o forgais yn ddyledus arno, mae gennych ecwiti o £40,000.

Rhyddhau Ecwiti
Ffordd o ryddhau arian ychwanegol drwy fenthyg yn erbyn yr ecwiti ar eich eiddo.

Cyfnewid Contractau
Dyma'r adeg pan fyddwch yn ymrwymo i ddêl yn gyfreithiol, fel arfer wrth brynu a gwerthu eiddo, yng Nghymru a Lloegr

Morgais Cyfradd Sefydlog
Cyfradd llog sefydlog ar forgais am gyfnod penodol o amser. Ni fydd y gyfradd yn cynyddu nac yn gostwng yn ystod y cyfnod hwn, hyd yn oed os bydd y Gyfradd Amrywiol Safonol yn newid.

Gosodiadau
Eitemau sydd wedi'u hatodi i'r eiddo ac sydd felly yn rhan o'r eiddo yn gyfreithiol.

Nodweddion Hyblyg
Mae morgeisi â nodweddion hyblyg sy'n caniatáu i fenthycwyr deilwra eu taliadau i gyd-fynd â'u hamgylchiadau unigol. Gall nodweddion gynnwys gordaliadau, cyfandaliadau, tandaliadau, seibiannau talu a threfniadau ymlaen llaw i fenthyg arian.

Rhydd-ddaliad
Os oes gennych eiddo rhydd-ddaliadol, chi sydd yn berchen arno'n llwyr, yn wahanol i 
lesddaliadau..

Benthyciad Pellach
Benthyciad ychwanegol wedi'i warantu yn erbyn eich eiddo, sy'n uwch na'ch benthyciad cychwynnol.

Gasympio
Pan fo gwerthwr yn derbyn cynnig, ac yna'n ei wrthod ar ôl cael cynnig uwch gan brynwr arall..

'Gazundering'
Pan fo gwerthwr yn derbyn cynnig, ac yna mae'r prynwr yn gwneud cynnig newydd, sy'n is, ychydig cyn cyfnewid contractau.

Incwm Misol/Blynyddol Gros
Eich cyflog misol neu flynyddol cyn i unrhyw dreth ac yswiriant gwladol gael eu didynnu..

Rhent Tir
Y ffi flynyddol y mae'r lesddeiliad yn ei thalu i'r rhydd-ddeiliad. Mae rhent tir yn berthnasol i fflatiau yn gyffredinol.

Gwarantwr
Unigolyn sy'n addo talu dyled rhywun arall, os bydd y person hwnnw'n methu â thalu.

Adroddiad Prynwr Cartref
Arolwg manwl a gynhelir er budd y prynwr. Mae'n graddio cyflwr elfennau o'r adeilad a'r gwasanaethau ac yn nodi unrhyw gamau gweithredu neu benderfyniadau i'w hystyried cyn prynu. Nid yw mor fanwl ag Arolwg o Adeilad.

Mynegai Prisiau Tai (HPI)
Mynegai sy'n eich helpu i gyfrifo gwerth cyfredol eich cartref ac sy'n rhoi gwybodaeth gyffredinol am y farchnad prisiau tai.

Morgais Llog yn Unig
Dim ond y llog ar eich benthyciad rydych yn ei ad-dalu bob mis felly nid yw'r swm sy'n ddyledus gennych yn gostwng. Bydd angen i chi ad-dalu'r arian sy'n ddyledus gennych ar ddiwedd cyfnod eich benthyciad ac fel arfer, gellir defnyddio polisi gwaddol, pensiwn neu ISA i wneud hyn.

Llog Cychwynnol
Y llog a godir o'r diwrnod gwaith cyn y dyddiad cwblhau a roddir i ni gan eich cyfreithiwr, hyd at ddiwedd y mis cyn bod y taliad cyntaf yn ddyledus.

Cyfnod Cychwynnol
Y cyfnod o amser sy'n berthnasol i gynhyrchion neu delerau arbennig. Er enghraifft, ar gyfer morgeisi, y cyfnod pan fo cyfradd sefydlog neu gyfradd ostyngol yn gymwys, neu ar gyfer cynilion, y cyfnod pan fo cyfradd llog sefydlog neu fonws yn gymwys.

Canolwyr
Unigolion neu sefydliadau sy'n helpu cwsmeriaid i ddewis morgais ac yn cyflwyno ceisiadau am forgeisi i fenthycwyr. Mae canolwyr yn cynnwys gwerthwyr tai, broceriaid morgeisi, cynghorwyr ariannol annibynnol, cyfreithwyr, cyfrifyddion a chwmnïau aswiriant bywyd.

Cofrestrfa Tir
Y sefydliad sy'n cadw cofnod o eiddo yng Nghymru a Lloegr. Mae'n rhaid cofrestru unrhyw drosglwyddiad o berchenogaeth gyda Chofrestrfa Tir EM.

Lesddaliad
Pan fo landlord neu rydd-ddeiliad yn berchen ar eiddo am gyfnod sefydlog, rhwng 99 a 999 mlynedd fel arfer. Bydd y prynwr yn prynu'r les ac yn talu rhent tir a thaliadau gwasanaeth i'r landlord neu'r rhydd-ddeiliad.

Benthyciad ar sail Gwerth (LTV)
Swm eich benthyciad o'i gymharu â phrisiad neu bris prynu eich eiddo (pa un bynnag sydd isaf), wedi'i nodi fel canran.

Morgais
Benthyciad hirdymor wedi'i warantu ar eiddo.

Ffi Ymrwymo i Forgais
Tâl am y costau sydd ynghlwm â phrosesu eich cais am forgais. Rhaid i chi dalu’r ffi hon gyda’ch cais am forgais. Cewch dalu â cherdyn credyd/debyd neu arian parod (heblaw pan fo brocer yn cyflwyno eich cais). Ni fyddwn yn prosesu eich cais tan fod y ffi wedi ei thalu. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy. 

Gweithred Morgais
Y ddogfen gyfreithiol a lunnir gan y benthyciwr morgais a'r benthyciwr, sy'n gwarantu'r benthyciad yn erbyn eich eiddo.

Cynnig Morgais
Dogfen yw hon sy'n nodi faint y mae benthyciwr yn barod i'w fenthyg i'r ymgeisydd (ymgeiswyr) er mwyn prynu'r eiddo. Mae hefyd yn nodi amodau'r cynnig hwnnw, fel y gyfradd llog, cyfnod y benthyciad ac unrhyw amodau hanfodol y mae'r benthyciwr am eu gorfodi cyn i'r benthyciad gael ei ryddhau.

Ecwiti Negyddol
Pan fo swm y benthyciad sy'n ddyledus yn fwy na gwerth yr eiddo y mae wedi'i warantu yn ei erbyn.

Incwm Gwario Net
Eich incwm misol ar ôl i'r holl dreth, treuliau ac ymrwymiadau gael eu didynnu.

Incwm Misol/Blynyddol Net
Eich cyflog misol neu flynyddol ar ôl i dreth ac yswiriant gwladol gael eu didynnu.

Gordaliadau
Taliadau rheolaidd uwch neu gyfandaliadau ychwanegol a wneir ar forgais gyda'r nod o ad-dalu eich morgais yn gynharach er mwyn lleihau llog ac arbed arian.

Seibiant Talu (Morgeisi â Nodweddion Hyblyg yn unig)
Cyfnod o amser pan na fyddwch yn talu eich taliadau morgais rheolaidd arferol, drwy gytundeb â'ch benthyciwr.

Hygludedd
Os byddwch yn symud ty, mae'n bosibl y gallwch drosglwyddo'ch morgais presennol i'ch eiddo newydd, yng Nghymru neu Loegr, heb newid benthyciwr.

Gwerthu'n Breifat
Gwerthu eiddo heb ddefnyddio gwerthwr tai.

Ffi Cynnyrch
Ffi a godir ar rai morgeisi i fanteisio ar y cynnyrch

Pris Prynu
Y swm y mae prynwr yn cynnig ei dalu am eiddo.

Prynwr
Y sawl sy'n prynu'r eiddo.

Adbrynu
Pan fyddwch yn adbrynu neu'n ad-dalu'r benthyciad yn llawn, gan gynnwys unrhyw daliadau a llog ar eich morgais. Bydd y benthyciad yn dod i ben.

Ffi Taliadau
Tâl a godir gan y benthyciwr am anfon yr arian morgais i'ch cyfreithiwr pan fo'r broses o brynu'r eiddo ar fin cael ei chwblhau.

Ailforgeisio
Ad-dalu un morgais drwy drefnu un arall, ar yr un eiddo.

Morgais Ad-dalu
Bydd eich ad-daliadau misol yn cynnwys rhywfaint o'r arian y gwnaethoch ei fenthyg a'r llog. Mae hyn yn golygu y caiff eich morgais ei ad-dalu’n llawn ar ddiwedd cyfnod y morgais cyhyd â'ch bod yn talu'r holl daliadau.

Gwarantedig
Caiff benthyciad gwarantedig ei warantu yn erbyn eich asedau, eich eiddo fel arfer, ond gall hefyd gael ei warantu yn erbyn asedau eraill, fel polisi bywyd. Os na fyddwch yn ad-dalu'r morgais, bydd gan eich benthyciwr yr hawl i werthu'r ased.

Hunan-Ardystiedig
Rydych yn cadarnhau faint rydych yn ei ennill, heb fod angen darparu cadarnhad gan gyflogwr na thrydydd parti. Mae hyn yn berthnasol fel arfer os ydych yn hunangyflogedig.

Treth Tir y Dreth Stamp
Treth a delir i'r Llywodraeth pan fyddwch yn prynu eiddo, sy'n ganran o'r pris prynu. Mae rhai ardaloedd wedi'u heithrio rhag y dreth hon. Gweler gwefan Cyllid a Thollau EM am fanylion y ganran y bydd angen i chi ei thalu.

Cyfradd Amrywiol Safonol (SVR)
Cyfradd llog a bennir ar forgais gan eich benthyciwr. Bydd y gyfradd hon yn cynyddu ac yn gostwng, yn ôl disgresiwn y benthyciwr, oherwydd newidiadau yng Nghyfradd Sylfaenol Banc Lloegr fel arfer neu resymau eraill. Dyma'r gyfradd arferol heb ostyngiadau na chynigion.

Arolwg Strwythurol (Arolwg o Adeilad)
Archwiliad mwy cynhwysfawr o'r eiddo yw adroddiad Arolwg o Adeilad ac mae'n arbennig o addas ar gyfer eiddo mawr neu restredig, rhai sydd dros 120 oed neu rai sydd mewn cyflwr gwael. Mae'r arolwg yn archwilio pob rhan o'r adeilad y gellir cael mynediad ato ac mae'n nodi diffygion mawr a bach a gwybodaeth dechnegol am adeiladwaith a deunyddiau.

Syrfëwr
Yr unigolyn sy'n derbyn cyfarwyddiadau gan eich benthyciwr morgais i gynnal arolwg o'r eiddo rydych yn ei brynu

Cyfnod y Morgais
Y cyfnod a drefnir ar gyfer ad-dalu benthyciad morgais. Nodir y cyfnod hwn yn eich cynnig morgais.

Yswiriant Tymor
Yswiriant bywyd a delir os byddwch chi, neu eich partner, yn marw o fewn y cyfnod y cytunwyd arno. Gellir defnyddio hwn i ad-dalu eich morgais. Bydd y polisi ond yn talu arian pan fydd y person cyntaf yn marw ac ni delir unrhyw arian ar ddiwedd cyfnod y polisi.

Cyfnod Ymrwymo
Y cyfnod y gallai fod yn rhaid i chi aros gyda benthyciwr ar ôl i'ch cynnig morgais arbennig ddod i ben. Os byddwch yn symud eich morgais i fenthyciwr arall yn ystod y cyfnod ymrwymo, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tâl ad-dalu cynnar.

Talwr
Y sawl sy'n gwneud taliad i'r talai.

Gweithred Eiddo
Y ddogfen sy'n dangos pwy sy'n berchen ar eiddo..

Cyfanswm i'w Dalu
Cyfanswm y gost o ad-dalu eich morgais dros gyfnod y benthyciad, gan gynnwys y swm a fenthycwyd yn wreiddiol, llog ac unrhyw daliadau sy'n ddyledus.

Morgais Cyfradd Tracio Banc Lloegr
Cynnyrch morgais lle mae'r gyfradd llog yn gysylltiedig â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr a felly bydd yn cynyddu neu'n gostwng yn unol â'r gyfradd sylfaenol.

Gweithred Drosglwyddo
Dogfen brynu sy'n trosglwyddo perchenogaeth tir o'r gwerthwr i'r prynwr.

Tandaliadau
Os byddwch wedi cronni gwarged ar eich morgais drwy wneud gordaliadau, gallwch leihau eich ad-daliadau misol am gyfnod o amser nes bod y gwarged wedi'i ddefnyddio, drwy gytundeb â'ch benthyciwr ymlaen llaw.

Prisiad
Asesiad sylfaenol o gyflwr a gwerth yr eiddo rydych yn ei brynu sy'n helpu eich benthyciwr i benderfynu a ddylid rhoi benthyciad i chi ai peidio. Nid arolwg yw hwn.

Ffi Prisio 
Ffi i gynnal prisiad Cymdeithas Adeiladu'r Principality o'r eiddo.

Cyfradd Llog Amrywiol
Y gyfradd llog a delir ar gynilion a benthyciadau sy'n newid yn unol â'r amgylchiadau. Er enghraifft, gallai newidiadau i gyfradd sylfaenol Banc Lloegr fod yn ddylanwad.

Morgais Cyfradd Amrywiol
Morgais â chyfradd llog sy'n cynyddu ac yn gostwng, yn unol â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr yn fras.

Gwerthwr
Y sawl sy'n gwerthu eiddo.

Deall y Jargon - Yswiriant

Buddiolwr
Yr unigolyn neu'r cwmni sy'n cael taliad. Mae hefyd yn golygu rhywun sy'n cael budd o ewyllys, ymddiriedolaeth neu bolisi yswiriant bywyd.

Yswiriant Adeiladau
Mae'n diogelu eich eiddo rhag effeithiau ariannol peryglon fel tân, llifogydd ac ymsuddiant. Un o amodau ein morgeisi yw bod gennych yswiriant adeiladau digonol.

Yswiriant Masnachol
Amrywiaeth o gynhyrchion yswiriant diogelu ar gyfer buddsoddwyr eiddo a busnesau.

Yswiriant Cynnwys
Mae'n diogelu'r eitemau yn eich cartref, fel dodrefn ac eiddo personol, rhag lladrad, colled a difrod.

Yswiriant Salwch Difrifol
Yswiriant sy'n talu arian os bydd deiliad y polisi yn cael salwch difrifol penodedig, fel clefyd y galon neu ganser

Polisi Gwaddol
Polisi yswiriant a fydd yn talu cyfandaliad ar ddyddiad penodol yn y dyfodol, neu pan fyddwch yn marw, os bydd hynny'n digwydd yn gyntaf. Yn aml, defnyddir gwaddoliadau i ad-dalu benthyciadau morgais.

Cynghorydd Ariannol
Unigolyn proffesiynol sy'n gymwys i roi cyngor ariannol, ac y caiff ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

Yswiriant Cartref
Yswiriant sy'n diogelu eich cartref (Yswiriant Adeiladau) a'ch eiddo (Yswiriant Cynnwys) rhag colled a difrod.

Yswiriant Diogelu Taliadau Morgais (MPPI)
Yswiriant i dalu eich morgais am gyfnod o amser y cytunir arno os byddwch yn colli eich swydd neu'n methu â gweithio oherwydd salwch neu anaf.

Yswiriant Tymor
Yswiriant bywyd a delir os byddwch chi, neu eich partner, yn marw o fewn y cyfnod y cytunwyd arno. Gellir defnyddio hwn i ad-dalu eich morgais. Bydd y polisi ond yn talu arian pan fydd y person cyntaf yn marw ac ni delir unrhyw arian ar ddiwedd cyfnod y polis

Aswiriant Bywyd Cyfan
Bydd yn talu swm y cytunwyd arno pan fyddwch yn marw, pryd bynnag y bo hynny'n digwydd, cyhyd â'ch bod wedi bod yn talu'r premiymau.

Deall y Jargon - Arall

AER
Ystyr AER yw'r gyfradd gyfatebol flynyddol. Mae'n dangos faint byddai'r gyfradd llog pe bai llog yn cael ei gyfrifo a'i dalu dim ond unwaith y flwyddyn ac mae'n ei gwneud yn haws i chi gymharu cynhyrchion ariannol gwahanol.

BACS
Ystyr BACS yw System Glirio Awtomataidd y Banciau, a ddefnyddir i anfon taliadau arian yn electronig rhwng banciau. Gall BACS hefyd ymddangos ar eich datganiad fel debydau uniongyrchol a chredydau uniongyrchol.

Balans
Y swm o arian sydd yn eich cyfrif neu'r swm sy'n ddyledus gennych.

Cyfradd Sylfaenol / Cyfradd Repo Banc Lloegr
Caiff y gyfradd hon ei rheoli gan Fanc Lloegr, a gall gynyddu neu ostwng yn dibynnu ar amodau'r farchnad. Caiff y gyfradd hon ei hadolygu'n rheolaidd gan Fanc Lloegr

Buddiolwr
Yr unigolyn neu'r cwmni sy'n cael taliad. Mae hefyd yn golygu rhywun sy'n cael budd o ewyllys, ymddiriedolaeth neu bolisi yswiriant bywyd.

Cyfalaf
Y swm o arian rydych wedi'i fuddsoddi neu ei fenthyg.

Dyfarniad Llys Sirol (CCJ)
Penderfyniad a wneir yn y Llys Sirol, a all fod yn gysylltiedig ag achosion o beidio â thalu dyledion. Cedwir cofnod ar ffeil y llys am chwe blynedd a gall ei gwneud yn anodd benthyg arian. Os byddwch yn talu'r ddyled, bodlonir y CCJ a rhoddir nodyn ar eich cofnodion i ddweud hynny.

CHAPS
Ystyr CHAPS yw System Dalu Awtomataidd y Ty Clirio, a ddefnyddir i anfon taliadau arian yn electronig rhwng banciau fel bod arian yn cael ei dderbyn ar y diwrnod y caiff ei anfon.

Asiantaethau Gwirio Credyd
Sefydliadau a drwyddedir o dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 i gadw gwybodaeth am y cytundebau credyd sydd gan bobl a pha mor dda y cadwyd atynt. Bydd benthyciwr yn defnyddio'r asiantaethau hyn i'w helpu i wneud penderfyniadau am eich cais a ph'un a ddylid rhoi benthyciad i chi.

Chwiliad Credyd
Gwiriad y mae'r benthyciwr yn ei wneud gydag asiantaeth gwirio credyd i ddarganfod p'un a oes gennych unrhyw ddyfarniadau llys sirol neu gofnod o beidio ag ad-dalu benthyciadau. Bydd chwiliad credyd hefyd yn dangos a oes gennych hanes da o wneud taliadau am gredyd. Caiff pob chwiliad a wneir ei ychwanegu at eich cofnod gydag asiantaeth gwirio credyd.

Sgorio Credyd
Ffordd o gyfrifo'r risg na chaiff arian a fenthycir ei ad-dalu. Mae sgôr uchel yn golygu bod risg isel na fydd darpar fenthyciwr yn gallu ad-dalu'r arian.w.