Sut ydych chi’n cynilo?

Diweddarwyd ddiwethaf: 19/10/2022 | Amser darllen: 4 munud

Ydych chi’n llwyddo neilltuo rhywfaint o arian bob mis? Nid yw’n hawdd a gall deimlo’n frawychus, yn enwedig os ydych yn cynilo am rywbeth mawr fel blaendal ar gyfer tŷ.

Efallai, fel llawer o bobl, rydych yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd ac nid oes gennych ddim dros ben. Neu efallai na allwch chi beidio ag ildio i’r temtasiwn i wario unrhyw arian dros ben cyn gynted ag y gallwch.

Os ydych yn darllen hyn mae’n awgrymu eich bod naill ai wedi dechrau cynilo eisoes, neu’n awyddus i ddechrau.

Dywed ymchwil fod y rhan fwyaf o bobl yn llwyddo cynilo – mae 61% o holl oedolion y DU yn gwneud hynny bob mis neu bron bob mis, yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn 2021.

Ond roeddem ni eisiau clywed gan bobl Cymru yn uniongyrchol. Felly aethom i strydoedd Caerfyrddin ac Abertawe un diwrnod o haf i sgwrsio â phobl leol am p’un a ydyn nhw’n cynilo, a sut maen nhw’n mynd ati i’w wneud.

“Nid yw’n mynd yn dda iawn”

Roedd yr atebion yn eang ac yn amrywiol, er roedd digon o bobl yn gwneud eu gorau i neilltuo rhywfaint. Ond am beth? “Gwyliau, gwelliannau i’r tŷ, fy nghar ac yswiriant car”, meddai un cynilwr. “Rwy’n hoffi teithio yn fy fan gwersylla. Fy mreuddwyd fyddai teithio arfordir cyfan y DU”, meddai un arall.

Addysg oedd blaenllaw i un arall: “Mae angen imi gynilo ar gyfer y brifysgol, ond nid yw’n mynd yn dda iawn!”

Ac roedd un arall yn canolbwyntio ar wneud bywyd yn haws i’w phlant. Dywedodd ei bod yn cynilo “yn bennaf i fy mhlant fel na fydd angen benthyciad myfyrwyr arnyn nhw a phethau fel’na. Dydw i ddim eisiau iddyn nhw gael y bwrn hwnnw yn eu bywydau.”

Mae cynilo ar gyfer plentyn heddiw yn rhodd wych ar gyfer eu dyfodol, trwy ddarparu rhywfaint o gynilon i’w rhoi ar ben ffordd, ac addysgu gwers werthfawr iddyn nhw am arian ar hyd y ffordd.

Cronfa diwrnod gwlyb, plant costus a gwasgfa ariannol

Mae’n syniad gwych cynilo rhywfaint o arian ar gyfer yr annisgwyl, yn enwedig os ydych yn berchennog tŷ. Dywedodd un cynilwr ei bod yn neilltuo arian ar gyfer y “gwariannau hynny nad ydych yn gwybod rhyw lawer amdanyn nhw neu eu gweld yn dod. Weithiau rwy’n trio cynilo ar gyfer y pethau hynny hefyd. Ond nid yw bob amser yn ymarferol.”

Weithiau, er gwaethaf pob bwriad, mae taliad yn codi sy’n llesteirio’ch cynlluniau cynilo. Pan ofynnwyd beth sy’n llesteirio’i chynilo, dywedodd un person: “Mae biliau annisgwyl yn codi. Neu bydd rhywbeth yn mynd o’i le yn y tŷ, fel angen trwsio’r boeler.”

Fe’i hystyrir yn aml yn rheol gyffredinol dda gael digon o arian wedi’i neilltuo i oroesi am o leiaf tri mis pe baech yn colli’ch swydd, er enghraifft.

Mae’r cynnydd diweddar i gostau wedi’i gwneud yn arbennig o anodd cynilo arian. “Mae cost byw wedi mynd yn hurt”, meddai un unigolyn, pan ofynnwyd am heriau cynilo.

Gall plant fod yn ddrud hefyd, a’i gwneud yn anodd i rai pobl neilltuo arian. Fel dywedodd un fam a gafodd ei chyfweld gyda’i phlentyn: “Mae cynilo yn eithaf anodd pan fo gen i hwn a bod yn onest. Nid ydym yn cynilo rhyw lawer.”

Nid oes bwriad gan eraill i gynilo yn y lle cyntaf. “Allwch chi ddim mynd ag e gyda chi, felly gwariwch e pan fo gennych chi!” meddai un person. Roedd un arall yn hapus i “gwario, gwario, gwario.”

Awgrymiadau cynilo

I’r bobl hynny a oedd yn llwyddo cynilo, roeddem ni eisiau gwybod a oedd ganddyn nhw unrhyw awgrymiadau i helpu eraill.

Dywedodd un person: “Pan ddaw’r diwrnod, byddaf yn neilltuo arian neu’n sicrhau bod pob debyd uniongyrchol yn cael ei dalu.”

Dywedodd un arall: “Rydym yn cynilo bob mis, tipyn bach o’n cyflog. Hyd yn oed os byddwch yn cynilo £50 y mis, yn y pen draw byddwch chi’n cael eithaf tipyn. Ni fydd yn teimlo fel cynilo. Ond cadwch gynilo bob mis faint bynnag y gallwch chi.”

Cyhyd â’ch bod yn cynilo, cadwch ba ddull bynnag sy’n gweithio i chi. Dywedodd un person: “Rwy’n cael fy nhalu’n wythnosol. Rwy’n defnyddio amlenni bach. Rwy’n labelu’r amlenni gyda beth rwy’n cynilo ar ei gyfer ac yn rhoi’r arian yn yr un rwy’n cynilo ar ei gyfer. Byddwn i’n cynghori pobl i beidio â gwario arian am wythnos!”

Gobeithio bydd rhai o’r straeon o strydoedd Caerfyrddin ac Abertawe wedi’ch ysbrydoli i roi cynnig ar gynilo, os gallwch chi.

Cofiwch:

  1. Os oes gennych unrhyw arian dros ben ar ddiwedd yr wythnos neu’r mis nad oes ei angen ar gyfer pethau angenrheidiol ceisiwch ei gynilo.
  2. Ceisiwch neilltuo rhywfaint o’ch incwm misol yn gyfrif cynilo.
  3. Os ydych yn cynilo i brynu’ch cartref eich hun, lawrlwythwch ein Cynllunydd Cyllideb i lenwi’ch arian allan a gweld faint gallwch ei gynilo, neu darllenwch ein canllawiau ar gynilo i brynu’ch cartref cyntaf.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am gynilo arian:

Gwella eich cartref: awgrymiadau ar gyfer arbed arian

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig