Gwerthu eich cartref: pryd a pham y mae angen cyfreithiwr arnoch?

Diweddarwyd ddiwethaf: 27/09/2022 | Amser darllen: 4 munud

Pan fyddwch yn prynu neu’n gwerthu eiddo, byddwch yn debygol o ddefnyddio gwasanaethau cyfreithiwr.

Os mai prynwr ydych, gweler ein canllaw ar ddefnyddio cyfreithiwr wrth brynu eiddo.

Fodd bynnag, os yw hi’n amser gwerthu a symud ymlaen, pryd a pham y dylech ofyn am gymorth cyfreithiol? Dyma’r wybodaeth y mae angen i chi ei gwybod.

Pam mae angen cyfreithiwr arnaf wrth werthu fy nghartref?

Ar ôl i’r ymweliadau fod wedi'u cwblhau a bod prynwr gennych ar gyfer eich cartref, y peth nesaf fydd trosglwyddo perchnogaeth gyfreithiol yr eiddo, a elwir hefyd yn drawsgludo.

Mae hon yn broses gymhleth, a dyma pryd y bydd angen rhywun arnoch i weithredu er eich budd pennaf a’ch arwain drwy'r broses hon.

Er y gallech, mewn egwyddor, ymdrin â'r broses drawsgludo eich hun wrth werthu eiddo, mae'n golygu llawer o waith ac arbenigedd. Efallai ei fod yn ymddangos fel ffordd o arbed arian ar yr olwg gyntaf, ond mae'n debygol y byddwch yn cyrraedd pwynt pryd y byddwch yn difaru peidio â bod wedi cyflogi rhywun â phrofiad.

Gallai defnyddio cyfreithiwr leihau’r tebygolrwydd o oedi cyn gwerthu, gan y bydd yn gwybod pa ddogfennau y mae angen i chi eu darparu, a bydd ganddo brofiad o’r weithdrefn.

Faint yw cost trawsgludo wrth werthu tŷ?

Yn ôl yr arbenigwyr ar symud cartref Compare My Move, y ffi trawsgludo gyfartalog ar gyfer gwerthu tŷ yn 2022 yw £1,690. Felly, nid yw’n rhad - gallwch ddarllen mwy am gost lawn gwerthu tŷ yn ein canllaw ar wahân.

Pryd dylwn i gynnwys cyfreithiwr yn rhan o’r broses?

Pan fyddwch chi’n penderfynu gwerthu eich tŷ, mae’n syniad da cynnwys cyfreithiwr yn y broses cyn gynted â phosibl. Yn dibynnu ar gyflwr y farchnad, gall pethau symud yn rhyfeddol o gyflym pan fyddwch yn rhoi tŷ ar werth.

Yn ddelfrydol, dylai fod gennych gyfreithiwr yn barod i roi cyfarwyddyd i chi cyn gynted ag y byddwch yn penodi asiant tai.

Pan fydd rhywun yn gwerthu tŷ, beth mae’r cyfreithiwr yn ei wneud?

Fel y gwyddoch o brynu eich tŷ yn y lle cyntaf, mae trafodion eiddo yn golygu llawer o amser a manylion.

Byddwch yn deall o’ch profiad eich hun bod angen llawer o wybodaeth am yr eiddo ar brynwyr cyn iddyn nhw drosglwyddo eu harian.

Prif rôl eich cyfreithiwr yw darparu unrhyw wybodaeth sydd ei hangen, a hefyd eich cefnogi chi i gael rhagor o wybodaeth os bydd angen.

Mae llawer mwy yn gysylltiedig â'r rôl hefyd. Bydd eich cyfreithiwr yn cwblhau tasgau eraill, gan gynnwys y canlynol: 

Drafftio contractau

Wedyn, bydd yn anfon hwn at gyfreithiwr y prynwr

Darparu dogfennau eraill

Mae hyn yn cynnwys y gweithredoedd teitl a ffurflen gosodiadau a chynnwys, sy'n rhoi gwybod i brynwyr beth sydd wedi’i gynnwys gyda’r eiddo. Er enghraifft, byddai hyn yn cynnwys unrhyw nwyddau gwyn y gallech fod yn eu gadael yn yr eiddo.

Negodi ac ymateb i ymholiadau

Bydd eich cyfreithiwr yn gweithredu fel cyswllt rhyngoch chi a chynrychiolydd y prynwr. Er enghraifft, bydd yn trafod dyddiadau symud. Bydd hefyd yn ymdrin ag unrhyw ymdrechion i newid y cynnig ar y funud olaf.

Yn ystod dyddiau cynnar y negodi, efallai y bydd gan gyfreithiwr y prynwr ragor o gwestiynau am yr eiddo, a rôl eich cyfreithiwr bydd ateb y cwestiynau hynny. Os bydd angen rhagor o dystiolaeth, efallai y bydd angen i’ch cyfreithiwr gynnal ei ymchwiliadau ei hun, gan ddarparu gwybodaeth sy’n eu bodloni.

Cyfnewid contractau

Pan fydd y prynwr yn fodlon ac yn hapus i fwrw ymlaen, bydd yn rhoi cyfarwyddyd i'w gyfreithiwr i gyfnewid contractau. Yn ei dro bydd yn siarad â’ch cyfreithiwr, bydd contractau’n cael eu cyfnewid, a bydd y prynwr yn rhwym yn gyfreithiol i brynu eich eiddo.

Mae hwn yn gam mawr, ac – er y gall y prynwr dynnu’n ôl o hyd – mae’n debygol o fod yn gostus iddyn nhw wneud hynny.

Ymdrin â thrafodion ariannol

Eich cyfreithiwr fydd yn ymdrin â'r taliad am yr eiddo, gan gynnwys derbyn y blaendal. Ar y diwrnod cwblhau, bydd yn derbyn yr arian ar gyfer y gwerthiant. Bydd hefyd yn ymdrin â'r broses o dalu’r gwerthwr tai, ac – ar ôl tynnu ei ffi – bydd yn anfon yr elw ymlaen atoch.

Cysylltu â'ch benthyciwr morgais

Er enghraifft, bydd yn trefnu talu’r balans sy’n weddill oddi ar eich morgais presennol (a elwir hefyd yn ad-daliad morgais) pan fydd elw'r gwerthiant wedi dod i law.

 

A ddylwn i ddefnyddio’r un cyfreithiwr os ydw i’n prynu tŷ hefyd?

Os ydych yn gwerthu eiddo ac yn prynu eiddo arall yn ei le, mae’n gwneud synnwyr i chi gyflogi’r un cyfreithiwr ar gyfer y ddau. Mae hyn yn golygu y dylai’r broses drawsgludo fod yn weddol ddidrafferth, a bydd gennych lai o bobl i ymdrin â nhw.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am werthu eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig