Sut i baratoi eich cartref ar gyfer yr hydref a’r gaeaf

Diweddarwyd ddiwethaf: 30/09/2022

Gyda’r tywydd oer yn cyrraedd, efallai eich bod chi’n meddwl am baratoi’ch cartref ar gyfer y gaeaf. Ddiwedd yr haf a dechrau’r hydref yw’r amseroedd gorau i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn yn eich eiddo, tra bod y tywydd yn dal yn gynnes, ac mae amser ar gael i ymdrin ag unrhyw broblemau a allai godi.

Dyma rai awgrymiadau cynnal a chadw syml ond hanfodol i baratoi’ch eiddo ar gyfer y misoedd oer sydd i ddod.

Trefnu gwasanaeth ar gyfer eich boeler

Mae cael boeler yn methu yn ystod y misoedd oer yn gallu bod yn hunllef. Gwell atal na gwella, felly gallai fod gwerth mewn cael eich boeler wedi’i wasanaethu gan beiriannydd ar y Gofrestr Nwy Diogel. Bydd hyn yn sicrhau ei fod yn gweithio’n dda, a gobeithio y dylai’r peiriannydd sylwi ar unrhyw faterion posibl, a allai arbed pen tost i chi yn y pen draw.

I gael tawelwch meddwl pe bai eich boeler neu’ch gwres canolog yn methu, gallech ystyried trefnu yswiriant cartref brys i’w ychwanegu at eich yswiriant cartref.

Insiwleiddio eich boeler a phibellau

I wneud yn siŵr nad yw’ch system ddŵr yn colli gwres (ac felly arian) yn ddiangen, sicrhewch fod eich tanc a’ch pibellau wedi’u hinswleiddio. Os nad ydyn nhw, mae’n rhad ac yn syml i brynu a gosod deunydd lagio ar gyfer y ddau. Dylai cost siaced silindr dŵr poeth fod tua £17, a gallwch ei osod eich hun. 

Yn yr un modd, mae lagio’ch pibellau’n cynnwys prynu tiwbiau sbwng o siop DIY ac – ar yr amod eich bod wedi dewis y maint cywir – dim ond mater o’u rhoi ar unrhyw bibellau heb eu lagio ydyw. Chwiliwch i weld a oes unrhyw bibellau heb eu lagio mewn ystafelloedd fel yr atig, ystafell cyfleustodau a garej os oes un gennych chi.

Yn ogystal â chadw eich biliau gwres i lawr, bydd hefyd yn helpu i atal dŵr yn eich pibellau rhag rhewi pan fydd y tymheredd yn gostwng. Gall dŵr wedi’i rewi yn eich pibellau achosi iddyn nhw fyrstio, sy’n gallu bod yn gostus ac yn gallu achosi straen.

Os ydych chi’n mynd i ffwrdd yn ystod cyfnod oer posibl, y dewis arall yw gosod eich gwres ar amserydd. Dylai cwpl o oriau o wresogi bob dydd fod yn ddigon i atal eich pibellau rhag rhewi. Fodd bynnag, gan fod sawl un yn ceisio osgoi gwario arian ar wres oni bai fod angen amdano’r gaeaf hwn, gall sicrhau bod pibellau wedi’u hinswleiddio fod yn well dewis.

Gwaedu eich rheiddiaduron

Os nad yw eich rheiddiaduron yn twymo’n iawn, neu’n gynnes ar y gwaelod ond yn oer ar y top, y siawns yw nad yw’r gwres yn cylchredeg yn iawn. Fel arfer mae hyn oherwydd bod aer yn sownd. Yn yr achos hwn, mae angen i chi waedu’ch rheiddiaduron, sy’n ddigon hawdd ei wneud.

I ddechrau, penderfynwch pa reiddiaduron sydd angen eu gwaedu. Yna diffoddwch y gwres, ac arhoswch nes eu bod yn oer. Dechreuwch gyda’r un sy’n bellaf o’r boeler.

Daliwch rywbeth i ddal dŵr o dan y falf gwaedu (gyda thywel wrth law hefyd), rhowch yr allwedd waedu i mewn, a’i throi yn erbyn y cloc. Dylai fod sŵn hisian. Pan fydd dŵr yn dechrau dianc, trowch yr allwedd gyda’r cloc i dynhau’r falf.

Gwnewch yr un peth i’ch rheiddiaduron eraill, gan weithio’ch ffordd tuag at y boeler. Pan fyddwch chi wedi gorffen, trowch y gwres yn ôl ymlaen i weld a ydyn nhw i gyd yn gweithio’n iawn. A dyna ni!

Gallwch chi ddod o hyd i fideos cyfarwyddo ar YouTube sy’n dangos i chi bob un o’r camau uchod i waedu eich rheiddiaduron yn llwyddiannus.

Clirio’ch draeniau a’ch cwteri

Mae cwteri eich cartref yn debygol o gasglu llawer o ddail a sbwriel yn ystod yr hydref, a allai arwain at rwystr. Er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’ch cwteri ddraenio’n iawn, cliriwch unrhyw hen ddail, cerrig a mwsogl, a gwnewch yn siŵr nad yw’r cwteri’n wedi’u cracio.

Gwybod ble mae’ch stopcoc

Mae’ch stopcoc (a gaiff ei alw hefyd yn stopfalf) yn rheoli llif y dŵr. Mae’n ddefnyddiol gwybod ei leoliad rhag ofn bod argyfwng, fel pibellau wedi byrstio. Gallwch atal dŵr oer y tŷ yn gyfan gwbl os oes angen, a fydd yn helpu i rwystro pethau rhag mynd yn waeth.

Mae’r stopcoc yn edrych fel tap heb sbowt, neu fel lifer. Gall fod ganddo ‘W’ arno hefyd neu symbol dŵr. Mae i’w weld amlaf o dan sinc y gegin. Ond os nad yw yno, edrychwch ger y boeler neu o dan y grisiau. Gallai hyd yn oed fod y tu allan mewn rhai eiddo. Os nad ydych chi’n dal yn gallu dod o hyd iddo, gofynnwch i gymydog, gan fod ei stopcoc nhw’n debygol o fod mewn man tebyg.

Bod â chynllun ar gyfer toriad pŵer

Y gaeaf yw’r amser gwaethaf ar gyfer toriadau pŵer, a byddwch chi i gyd yn gyfarwydd iawn â hyn os ydych chi’n byw rhywle eithaf anghysbell. I wneud yn siŵr eich bod chi’n barod am doriad pŵer sydyn, mae’n syniad da cael cynllun a rhestr o eitemau defnyddiol wrth law.

Dyma rai pethau i’w cadw wrth law ar gyfer eich pecyn toriad pŵer:

  • Tortsh wedi’i bweru gan fatri neu weindio â llaw
  • Blancedi cynnes braf
  • Fflasg thermos neu botel dŵr poeth i’w lenwi
  • Batris sbâr
  • Pecyn pŵer i wefru ffonau a dyfeisiau
  • Bwyd y gellir ei baratoi heb ddefnyddio trydan

Os yw’r pŵer yn diffodd, mae’n well osgoi agor teclynnau fel yr oergell, i wneud yn siŵr eich bod yn cadw’r oerfel i mewn.

I roi gwybod am y toriad pŵer, ffoniwch y Grid Cenedlaethol ar 105. Byddan nhw’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ba bryd y dylai’ch pŵer ddod yn ôl. Peidiwch â ffonio eich cyflenwr ynni, gan nad yw’n gyfrifol am y llinellau pŵer sydd wedi’u cysylltu â’ch cartref. 

Yn olaf, galwch ar eich cymdogion – yn enwedig os ydyn nhw’n agored i niwed, a bod angen ychydig cymorth arnynt.

Sicrhau’r lefel gywir o yswiriant cartref

I sicrhau eich bod wedi paratoi’n llawn ar gyfer y gaeaf, gwnewch yn siŵr bod eich polisi yswiriant cartref yn ddigonol ar gyfer eich anghenion. Darllenwch y ddogfen bolisi i weld a yw’n cynnwys difrod a achosir gan lifogydd neu dywydd garw, er enghraifft.

Ac er na fydd unrhyw beth yn mynd o’i le, gobeithio, mae’n dda cael manylion cyswllt eich darparwr yswiriant wrth law rhag ofn y bydd angen eu cymorth arnoch, neu fod angen i chi wneud cais.

Am fwy o awgrymiadau defnyddiol i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud y gorau o’ch eiddo, dysgwch sut i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni yma

Rhai pethau i’w hystyried

Os byddwch yn meddwl mai addasu eich garej yw’r cam cywir i chi, cyn mynd ati i gynllunio eich lle newydd a chyffrous, mae ychydig o bethau i’w hystyried:

  • Fel rheol, bydd angen cymeradwyaeth o dan y Rheoliadau Adeiladu i addasu garej yn lle y gellir byw ynddo. Fodd bynnag, nid oes angen caniatâd cynllunio fel arfer, cyn belled â bod y gwaith yn waith mewnol ac nad yw'n golygu y bydd yr adeilad yn cael ei wneud yn fwy.
  • Un o’r tasgau mwyaf fydd newid drws y garej, efallai drwy godi wal a ffenestr. I wneud hyn, mae’n bosibl y bydd angen ychwanegu sylfaen fach; sicrhewch eich bod yn ceisio cyngor gweithiwr proffesiynol. 
  • At hynny, mae’n bosibl y bydd angen lefelu’r llawr, ei atal rhag lleithder a’i insiwleiddio. Mae’n bosibl y bydd angen uwchraddio ac insiwleiddio’r waliau a’r toeon hefyd.

Er y gallai hyn ddechrau swnio’n gymhleth, cofiwch ei bod yn debygol o fod yn llawer symlach nag adeiladu estyniad cwbl newydd ar eich cartref. Mae’n gyffrous meddwl am yr hyn y gallech ei gyflawni gyda safle presennol eich eiddo. Pob lwc!

Click here for more on Home Insurance and Protection

Dysgwch fwy >

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am welliannau i'r cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig