15 o syniadau hwylus i wella’r cartref
Diweddarwyd ddiwethaf: 21/01/2022
Nid oes angen i wella’r cartref fod yn waith caled. Mae digon o brosiectau gwerth chweil (a fforddiadwy) y gallwch eu gorffen dros benwythnos, neu hyd yn oed o fewn ychydig oriau.
Felly os oes awydd adnewyddu’r lle arnoch chi, dyma 15 o syniadau hwylus iawn i wella’r cartref.
Nid oes dim yn debyg i ychydig o liw i adfywio ystafell. Ac mae'n debyg mai ychwanegu lliw yw'r peth mwyaf trawsnewidiol y gallwch ei wneud, felly mae'n bryd cael gafael ar botiau o baent. Os nad ydych yn dymuno paentio’r ystafell gyfan, gall paentio un wal, neu hyd yn oed siâp nodwedd, fod yn hynod o effeithiol hefyd.
Awgrym ychwanegol: Gall peintio fframiau eich ffenestri yn felyn neu’n oren golau roi’r argraff o gynhesrwydd braf yn dod o'r tu allan.
Delwedd o 70percentpure
I greu teimlad clyd, defnyddiwch fwy o lampau yn eich ystafelloedd, yn hytrach na chynnau’r prif olau. Os oes gennych nifer o lampau eisoes, gallech ystyried cael switsh pylu ar eu cyfer, i greu amrywiaeth o hwyliau ac awyrgylchoedd drwy gydol eich cartref.
Mae buddsoddi mewn dodrefn sy'n dyblu fel storfa yn ffordd wych o wneud y defnydd gorau o'r lle. Mae stondinau teledu a byrddau coffi yn brif gystadleuwyr ar gyfer lle storio ychwanegol. Gallech hyd yn oed droi rhai o'ch grisiau yn ddreiriau ar gyfer eich esgidiau.
Oes gennych chi deulu sy'n tyfu? Mynnwch fwy o awgrymiadau storio yma.
Ac nid oes rhaid i’r ail ddiben fod yn lle storio. Gallech gael gwely soffa ar gyfer ymwelwyr achlysurol, neu gallai cwtsh y ci ddyblu fel bwrdd neu stand deledu.
Delwedd gan Zenya Adderley
Yn hytrach na thalu arian da am eitemau newydd sbon, chwiliwch am nwyddau cartref ail-law. Fel arfer gallwch brynu’r hyn sydd ei angen arnoch o siopau elusen sy'n arbenigo mewn dodrefn. Yna bydd uwchgylchu'r hyn yr ydych chi’n ei ddarganfod yn rhoi eich cymeriad eich hun iddo, a bydd gennych chi rywbeth gwirioneddol unigryw.
I newid gwedd eich cegin yn llwyr, gallech beintio'r cypyrddau. Neu tynnwch y drysau'n gyfan gwbl, i greu’r teimlad agored, cegin-ar-waith hwnnw, sy’n boblogaidd iawn erbyn hyn.
Hefyd, mae trosluniau teils yn ffordd gyflym a rhad o roi gwedd newydd ar y waliau, heb orfod gosod teils newydd.
Gall tecstilau ychwanegu cymaint at ystafell. Wrth iddi oeri, mae'n syniad da manteisio i’r eithaf ar ffabrigau. Mae ffabrigau mwy trwchus fel cwiltiau, melfedau a chotwm gwlanog yn gwneud i le deimlo'n glyd ac yn cadw gwres yn y cynhesrwydd, felly newidiwch eich llenni i bâr mwy trwchus, ychwanegwch ychydig o glustogau at eich soffa ac ychwanegwch fwy o blancedi er mwyn gallu swatio drwy fisoedd y gaeaf.
Yn yr Haf, newidiwch liwiau eich clustogau i liain neu gotwm ysgafnach a dewiswch liwiau ysgafnach i gadw eich ystafell yn edrych ac yn teimlo'n olau. Rhowch y blancedi trwchus a'r clustogau ychwanegol i gadw, a defnyddiwch ffabrigau ysgafn sy'n gadael y golau drwodd.
Os ydych yn dymuno creu'r argraff bod mwy le, gall ychydig o ddrychau wedi'u gosod yn gelfydd gyflawni gwyrthiau. Po fwyaf yw'r drych, y mwyaf yw'r argraff y byddwch chi’n ei chreu. Bydd rhoi drychau gyferbyn â ffenestri mewn ystafelloedd bach hefyd yn rhoi mwy o olau naturiol.
Os oes gennych chi ffenestri sy'n wynebu’r stryd, neu olygfa nad ydych yn arbennig o hoff ohoni, gallech chi osod ffilm ar ffenestri. Mae'r rhain yn rhad, yn hawdd eu gosod, ac mae nifer di-ri o ddyluniadau ar gael. Neu gallwch ei gadw'n syml, a chael rhai barugog sylfaenol. Bydd y rhain yn cuddio’r olygfa i'r ddau gyfeiriad, gan roi mwy o breifatrwydd i chi, heb golli gormod o olau.
Delwedd o Dunelm
Os oes gennych chi blant – neu fod gennych chi awydd i fod yn greadigol – mae cael bwrdd sialc hunanlynol yn rhad, ac mae modd ei osod ar unrhyw arwyneb gwastad. Gellir ei ddefnyddio i adael negeseuon, ysgrifennu rhestrau neu fwydlenni wythnosol, tynnu llun dinosoriaid... rydych chi’n deall.
Delwedd o styleathome.com
Beth am uwchraddio dolen eich drws blaen a defnyddio clo clyfar? Bydd hwn yn edrych yn dda, ac ni fydd byth angen i chi dorri allweddi eto. Gallech chi hefyd roi cloch drws fideo, i allu gweld pwy sydd wrth y drws – p'un a ydych chi adre ai peidio.
Trwy osod goleuadau solar o amgylch yr ardd – fel goleuadau ar bolyn a goleuadau tylwyth teg – gallwch chi greu awyrgylch hudolus ar ôl iddi dywyllu.
Delwedd o Guirlande Magic
Mae planhigion tŷ yn fuddsoddiad gwych, ac yn anadlu bywyd i unrhyw ystafell. Os ydych chi'n cael trafferth yn cynnal planhigion, gallech gael planhigion ffug, ac mae llawer ohonyn nhw’n edrych fel planhigion naturiol. Ac os gwnewch chi gymysgu planhigion naturiol a ffug, ni fydd eich gwesteion yn gwybod p’un yw p’un.
Delwedd gan Oscar Wong
Os yw eich rygiau a'ch clustogwaith yn edrych ychydig yn dreuliedig, mae'n bryd eu seboni (yn llythrennol!). Mae'n hawdd meddwl nad yw hyn yn mynd i wneud gwahaniaeth enfawr, ond mae'n wir.
Yn anffodus, ni fydd y glaw yn gwneud y gwaith hwn i chi. Ond bydd glanhau eich ffenestri y tu mewn a'r tu allan yn iawn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i faint o olau y cewch chi. Hefyd, mae cael ffenestri sy’n disgleirio yn deimlad rhyfeddol o braf.
Os nad ydych yn berchen ar beiriant golchi pŵer, beth am fenthyg un am benwythnos, a mynd amdani. Bydd mynd i waith ar eich dreif, y dec, y llwybrau a'r patios i gael gwared ar faw a llwydni yn eu bywiogi. Ac mae’n un o’r tasgau glanhau mwy hwyl!