Garejis: sut i wneud y defnydd gorau o'ch lle

Garejis: sut i wneud y defnydd gorau o’ch lle

Diweddarwyd ddiwethaf: 22/08/2022

Mae garej yn cynnig lle ychwanegol gwerthfawr i eiddo, yn enwedig gan nad yw’n aml yn cael ei defnyddio i’r diben y’i bwriadwyd – sef storio car ynddi.

Yn wir, dywedodd ychydig dros hanner (53%) o’r 2,138 o yrwyr a gymerodd ran yn yr arolwg gan Sefydliad RAC yn 2021 nad ydyn nhw byth yn cadw eu car yn eu garej, yn enwedig oherwydd prin y mae llawer o geir modern yn gallu ffitio.

Mae llawer o ffyrdd eraill y gellir defnyddio’r lle gwerthfawr hwn, yn enwedig os ydych yn gallu treulio rhywfaint o amser a gwario rhywfaint o arian arno – yn wir, gallai gwneud gwaith da o addasu’r garej ychwanegu hyd at 20% at werth eich cartref, yn ôl Checkatrade. Ar y llaw arall, os byddwch yn byw yn rhywle lle mae lleoedd parcio yn brin, ystyriwch p’un ai’r peth gorau fyddai cadw’r lle gwerthfawr hwnnw.

Er mwyn eich helpu i wneud y penderfyniad hwnnw, dyma sut y gallech chi ddefnyddio eich garej:

Ei defnyddio fel storfa

storage options in a garage

Os nad ydych yn parcio eich car yn eich garej, mae’n debyg mai dyna lle rydych yn rhoi’r holl bethau hynny nad ydych yn gwybod lle i’w cadw na beth i’w wneud gyda nhw. Fel mae’n digwydd, mae garejis yn lleoedd gwych i storio pethau.

Fodd bynnag, os ydych am fanteisio ar eich garej yn fwy, mae’n bryd atgyfnerthu ei photensial storio. Beth am wneud y canlynol:

  • Gosod cypyrddau neu silffoedd diwydiannol sydd ar gael o siopau fel Ikea, Screwfix neu ar-lein.
  • Ychwanegu rheseli offer, bachau neu reseli uwchben i fanteisio i’r eithaf ar y lle sydd gennych.
  • Gosod beiciau mynydd ar y waliau, neu yn uwch i fyny gan ddefnyddio system bwli.

Delwedd o House Beautiful

Swyddfa Gartref

Garage office space

Os ydych yn gweithio gartref yn rheolaidd erbyn hyn, fel y mae cynifer o bobl, tybed nad yw’n amser gwneud trefniadau ar gyfer lle gweithio parhaol: dylech ystyried eich garej.

Mae ganddi fantais o fod yn lle y gallech ei ddefnyddio ar gyfer gwaith yn unig, gan gau siop ar ddiwedd y dydd. Yn well byth, byddai’n dawel ac yn ddigon pell i fwrdd oddi wrth unrhyw ymyrraeth.

Delwedd o Travis Perkins

Ystafell Chwarae

Garage playroom

Os oes gennych blant, yn ogystal â chreu lle i chwarae y byddan nhw wrth eu bodd ag ef, gall addasu eich garej yn ystafell chwarae drawsnewid eich bywyd chi hefyd: dim rhagor o deganau wedi’u gwasgaru dros bob man, neu lai ohonyn nhw o leiaf.

Os byddwch yn cadw drws presennol y garej fel rhan o’r gwaith addasu, gallwch ei agor yn ystod y tywydd braf a gallan nhw chwarae dan do ac yn yr awyr agored.

Hefyd, pan fyddan nhw’n tyfu, gall y garej barhau i fod yn lle ar eu cyfer, gan drawsffurfio yn ystafell deledu neu glwb.

Delwedd o Houzz

Ystafell westeion neu anecs

Garage guestroom

Os bydd angen ystafell wely ychwanegol arnoch ar gyfer gwesteion, dylech ystyried eich garej.

Fel arall, gallwch fynd gam ymhellach ac ystyried ei haddasu yn anecs, er mwyn darparu lle byw i berthynas oedrannus.

Delwedd o Sunset

Ystafell hobïau

Garage gym

Fel arall, efallai yr hoffech greu lle i fwynhau eich hun.

Mae’r opsiynau’n ddiddiwedd. Beth am dafarn, ystafell sinema gartref neu ystafell ddarllen glyd? Neu efallai mai campfa sy’n mynd â’ch pryd a hoffech chi osod cyfarpar ymarfer ynddi. Opsiwn arall yw ei newid yn ystafell gemau, i chwarae tennis bwrdd, pŵl neu ddartiau.

Delwedd o Yeg Fitness

Tŷ hanner ffordd

Multi-purpose garage

Bydd addasu’r garej yn llwyr yn gostus. Felly, beth am gyfaddawdu a threulio rhywfaint o amser (a gwario ychydig o arian) i’w gwella a’i gwneud yn fwy cartrefol. Gallech wneud y canlynol:

  • Paentio’r llawr concrit gyda phaent sy’n rhwystro lleithder.
  • Golchi eich ffenestri, ac ailosod unrhyw gwarelau sydd wedi’u torri.
  • Ychwanegu goleuadau dymunol
  • Creu ardaloedd, gan gadw lle ar gyfer storfa, ond hefyd gan greu rhannau ar gyfer hobi neu rywbeth difyr, neu le fel sied ardd, er enghraifft.

Delwedd o So much better with age

Rhai pethau i’w hystyried

Os byddwch yn meddwl mai addasu eich garej yw’r cam cywir i chi, cyn mynd ati i gynllunio eich lle newydd a chyffrous, mae ychydig o bethau i’w hystyried:

  • Fel rheol, bydd angen cymeradwyaeth o dan y Rheoliadau Adeiladu i addasu garej yn lle y gellir byw ynddo. Fodd bynnag, nid oes angen caniatâd cynllunio fel arfer, cyn belled â bod y gwaith yn waith mewnol ac nad yw'n golygu y bydd yr adeilad yn cael ei wneud yn fwy.
  • Un o’r tasgau mwyaf fydd newid drws y garej, efallai drwy godi wal a ffenestr. I wneud hyn, mae’n bosibl y bydd angen ychwanegu sylfaen fach; sicrhewch eich bod yn ceisio cyngor gweithiwr proffesiynol. 
  • At hynny, mae’n bosibl y bydd angen lefelu’r llawr, ei atal rhag lleithder a’i insiwleiddio. Mae’n bosibl y bydd angen uwchraddio ac insiwleiddio’r waliau a’r toeon hefyd.

Er y gallai hyn ddechrau swnio’n gymhleth, cofiwch ei bod yn debygol o fod yn llawer symlach nag adeiladu estyniad cwbl newydd ar eich cartref. Mae’n gyffrous meddwl am yr hyn y gallech ei gyflawni gyda safle presennol eich eiddo. Pob lwc!

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am welliannau i'r cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig